Rhybudd melyn am stormydd dros Gymru gyfan
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl stormydd o daranau a chawodydd trymion ar draws y wlad dydd Llun.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau fydd mewn grym rhwng 08:00 a 23:59.
Yn 么l y Swyddfa Dywydd, fe allai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.
Gallai d诺r llifogydd a mellt achosi difrod i rai adeiladau hefyd.
Mae disgwyl i rhwng 15-20mm o law ddisgyn yn yr ardaloedd dan sylw, gyda hyd at 40mm yn bosib mewn rhai mannau.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r wlad gyfan.
Rhybudd o law trwm yn y gogledd
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law trwm a allai achosi llifogydd ar draws gogledd Cymru rhwng 15:00 ddydd Llun a 09:00 fore Mawrth.
Gallai'r glaw achosi trafferthion i yrrwyr ac i bobl fydd yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r rhybudd hwnnw yn berthnasol i Sir Ddinbych, Conwy, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys M么n a Wrecsam.