Biliau ynni blynyddol i godi 拢149 ym mis Hydref

Disgrifiad o'r fideo, Trigolion Bangor a Jason Edwards o Gymorth Cymunedol a Gwirfoddol Conwy fu'n trafod y mater gyda 大象传媒 Cymru

Fe fydd biliau ynni blynyddol aelwydydd yn codi 拢149 ar gyfartaledd ym mis Hydref.

Fore Gwener fe wnaeth Ofgem - y corff sy'n goruchwylio鈥檙 diwydiant ynni - gyhoeddi cap newydd ar brisiau, sef yr uchafswm y gall cyflenwyr godi am bob uned o nwy a thrydan.

O 1 Hydref, bydd y cap ar filiau yn codi 10% a bydd defnyddwyr, ar gyfartaledd, yn talu 拢1,717 y flwyddyn am nwy a thrydan.

Mae arbenigwyr yn credu fod cynnydd pellach mewn prisiau yn debygol ym mis Ionawr hefyd.

Disgrifiad o'r llun, "'Da ni'n poeni, dio'm i weld fel bod 'na unrhyw beth yn newid," meddai Joanne Knight

Mae Joanne Knight yn fam i ddau o blant ac yn poeni am y cynnydd.

"Mae prisiau bob dim wedi mynd fyny, mae gen i deulu reit ifanc - mae prisiau childcare wedi mynd fyny, prisiau bwyd wedi mynd fyny, so ia, mae'n poeni rhywun, 'dw i jest yn meddwl sut dwi'n mynd i manageio bob dim.

"'Da ni'n poeni, dio'm i weld fel bod 'na unrhyw beth yn newid. Mae bob dim i'w weld yn mynd i fyny o hyd... mae'n anodd gweld sut mae pethau am wella, ond gobeithio 'neith nhw.

"Mi fasa'n neis clywed fod petha'n dod lawr yn lle bo' nhw'n mynd i fyny o hyd."

Disgrifiad o'r llun, "Fyddwn ni'm yn gwybod yr union effaith tan neith o ddigwydd ma' siwr" meddai Gwawr Parry

Mae Gwawr Parry yn gweld effaith y costau uchel yn barod ac yn poeni fod y sefyllfa am waethygu, r诺an fod y cap ar brisiau ynni yn codi eto.

"Mae'n bach o boendod ar hyn o bryd - mae costau bwyd a chostau byw wedi mynd fyny yn gyffredinol. Mae'n dipyn o struggle o fis i fis i gadw fyny efo bob dim yn enwedig efo interest ar mortgage a phethau fel 'na, mae hynny'n bach o sioc. 'Dw i'n meddwl fod pobl yn trio arbed lle maen nhw'n gallu i ddeud y gwir.

"Fyddwn ni'm yn gwybod yr union effaith tan neith o ddigwydd ma' siwr, ond mae'r pethau bach ma'n creepio mewn yn ara' deg bob mis sydd yn boenus pan mae rhywun yn meddwl amdano fo.

"Oedd y gaeaf diwethaf ddigon anodd. Mae gen i ddwy o genod efo fi llawn amser a dau o blant eraill efo ni hanner a hanner lly - mae rhywun yn gorfod cadw'r gwres ymlaen iddyn nhw achos maen nhw'n ei deimlo fo fwy na ni beryg.

"'Da ni'n teimlo braidd yn y canol, i rywun sy'n gweithio llawn amser i gymharu efo rywun sydd ddim yn gweithio os dwi'n bod yn onest lly... 'da ni'n cael ein hanghofio amdanom ni fatha bod ni'n iawn, ond dyda' ni ddim.

"'Da ni'n ennill dipyn ond dim digon i fod yn gyfforddus o ddydd i ddydd."

Mae'r uchafswm sy'n cael ei osod gan Ofgem yn effeithio ar brisiau 28 miliwn o aelwydydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Yn 么l y rheoleiddiwr, mae'r cynnydd diweddaraf yn adlewyrchu'r prisiau cynyddol ar y farchnad ynni rhyngwladol - sydd wedi codi yn sgil tensiynau gwleidyddol a thywydd eithafol.

Er bod y prisiau yn is o'i gymharu 芒'r un cyfnod y llynedd, mae rhywfaint o'r gefnogaeth oedd ar gael i bobl wedi diflannu hefyd.

Mae鈥檙 Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dorri o fis Hydref, a dim ond pensiynwyr sy鈥檔 hawlio budd-daliadau penodol fydd 芒鈥檙 hawl i鈥檞 dderbyn.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i gefnogi pensiynwyr a鈥檌 bod yn briodol bod y Taliad Tanwydd Gaeaf yn targedu鈥檙 rhai sydd ei angen fwyaf.