大象传媒

Diwrnod mawr ymweliad y Mauretania ag Abergwaun yn 1909

Y Mauretania yn glanio yn AbergwaunFfynhonnell y llun, Ifan Pleming
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y Mauretania yn glanio yn Abergwaun

  • Cyhoeddwyd

Mae gan Ifan Pleming ddiddordeb mewn llongau mawr ers ei blentyndod.

Yma, mae'n egluro mwy ac yn adrodd hanes diwrnod arwyddocaol iawn i dref porthladd Abergwaun, sef 30 Awst 1909; y diwrnod laniodd y llong fydenwog Mauretania yno:

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd merched yr ardal wedi dod yn eu gwisg Gymreig i groesawu'r llong i Abergwaun - llun o The County Echo, 30 Awst 1909

Rwy鈥檔 cofio ers i mi fod yn ddim o beth fod gan fy nhaid lun; llun llong ysblennydd pedair funnel yn torri drwy鈥檙 m么r fel cyllell, a鈥檙 machlud yn gefndir iddi. Dyma Taid wedyn, yn estyn pl芒t o bellafoedd y seidbord a鈥檌 ddangos i mi, gan ddweud 鈥楳i ddaeth dy hen nain 芒鈥檙 pl芒t 鈥榤a o鈥檙 Lusitania pan aeth hi drosodd i 鈥楳erica yn 1909.鈥

Fyth ers hynny mae hanes y llongau mawr wedi fy swyno, ac yn sgil dyfodiad ffilm Titanic James Cameron yn 1997, mae鈥檙 diddordeb wedi dyfnhau. Ychydig flynyddoedd yn 么l bellach, es ati mewn difrif i edrych ar gysylltiadau鈥檙 ddwy long hon 芒 Chymru, cefais y syniad hwnnw ar drip i America gyda Ch么r CF1, gan feddwl mai hawdd fyddai olrhain hanes bob cysylltiad Cymreig 芒鈥檙 Lusitania a鈥檌 mordaith olaf.

Mae enwau鈥檙 Cymry oedd ar fwrdd y Lusitania ar y daith olaf yn rhestr ddifyr iawn i鈥檞 darllen, ond stori am rhywdro eto yw honno.

Cymro wrth y llyw

Ffynhonnell y llun, Ifan Pleming
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cwpan arbennig i nodi ymweliad y Mauretania ag Abergwaun

Rhai blynyddoedd wedyn, cefais anrheg o gwpan china, ac arni ysgrifen Gymraeg yn nodi鈥檙 ffaith i鈥檙 Royal Mail Steamer Mauretania, chwaer long y Lusitania ymweld 芒 phorthladd Abergwaun ar 30 Awst 1909, a hynny o dan gomand y Commodore o Gaernarfon, y Capten John Pritchard.

Dywedir i鈥檙 Capten gael ei eni ym Mhorthmadog, a鈥檌 dad yn grydd ac wedi hynny yn cadw鈥檙 Royal Sportsman, Porthmadog am rai blynyddoedd cyn i鈥檙 teulu symud i Gaernarfon.

Diweddodd gyrfa ddisglair y capten o Gymro yn gapten cyntaf ar y Mauretania. Roedd hyn felly, yn golygu mai鈥檙 g诺r o Gymru oedd wrth y llyw pan fu gofyn iddi ddod i Abergwaun am y tro cyntaf i agor y porthladd hwnnw fel porthladd cydnabyddedig i鈥檙 Cunard Line.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Capten John Pritchard, capten y Mauretania - llun o Papur Pawb, 13 Chwefror 1909

O Efrog Newydd i Lundain (via Abergwaun)

Dair blynedd union cyn y diwrnod hwnnw, ar 30 Awst 1906, fe agorwyd gorsaf drenau Porthladd Abergwaun yn swyddogol wrth i wasanaethau fferi Corc a Waterford gael eu trosglwyddo o orsaf Neyland, oherwydd bod hynny鈥檔 rhwyddach i鈥檙 teithwyr.

Buan iawn y daeth y porthladd i sylw鈥檙 Cunard Line, wrth iddynt geisio manteisio ar gyflymder y Mauretania a鈥檙 Lusitania, a chael teithiwr o Efrog Newydd i Lundain a鈥檙 cyfandir yn gynt.

Roedd y ffaith bod y Mauretania a鈥檙 Lusitania yn torri pob math o record wrth groesi鈥檙 Iwerydd - mewn pedwar diwrnod 13 awr a 41 munud yn 么l rhifyn y Weekly Mail, 25 Medi 1909 - yn cryfhau鈥檙 achos i Abergwaun fod yn borthladd y dyfodol.

Roedd Abergwaun, a鈥檙 cysylltiadau rheilffordd yn torri cryn amser oddi ar y siwrnai gyfan.

Cafodd diwrnod glanio'r Mauretania yn Abergwaun ei ganmol yn y Welsh Gazette and West Wales Advertiser, 2 Medi 1909 fel 鈥AN EPOCH-MAKING EVENT鈥 ac 鈥A DAY OF RECORD BREAKING IN TRAVEL鈥, gan frolio bod y teithwyr, mewn dwy Express wedi cyrraedd Llundain mewn pedair awr a hanner, mewn hen ddigon o amser i ddal y Paris Express am naw o鈥檙 gloch.

Ffynhonnell y llun, Ifan Pleming
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Glaniodd deithwyr y Mauretania Abergwaun am 1pm. Erbyn 9pm, roedden nhw wedi cyrraedd Llundain ac ar fin teithio i Paris

Roedd y cwmn茂au Americanaidd yn eiddigeddus hefyd, ac ymhen dim o dro, gwelwyd cynnydd mewn traffig Americanaidd, gyda'r Booth Line, i enwi ond un, yn fwy na bodlon i ddefnyddio Abergwaun ar draul porthladdoedd de Lloegr er hwylustod i鈥檞 teithwyr. Dywedodd y Weekly Mail:

The passengers, who lunched in New York on Wednesday, were enabled to dine in London on Monday evening, with the added advantage of being in time for the theatres.

Roedd cymaint wedi gwirioni ar yr hyn yr oedd Abergwaun yn ei gynnig, a rhai鈥檔 cwestiynu doethineb glanio yn Queenstown, yn Iwerddon, o gwbl erbyn sefydlu Abergwaun fel rhan o鈥檙 gwasanaeth ar draws yr Iwerydd.

Wedi鈥檙 cyfan oni fyddai dadlwytho鈥檙 holl bost a gariai鈥檙 llongau yn Abergwaun yn golygu y byddai hwnnw hefyd yn cyrraedd Llundain a鈥檙 cyfandir yn llawer cynt?

Balchder Abergwaun

Roedd 30 Awst 1909 yn ddiwrnod mawr i Abergwaun ac Wdig, y Cunard a鈥檙 Great Western Railway Company, er mwyn dangos i鈥檙 byd beth oedd yn bosib wrth harneisio鈥檙 dulliau effeithiol hyn o deithio i鈥檙 eithaf.

Cymaint oedd craffter penderfyniad y Cunard Line, fel y bu i鈥檙 White Star Line edrych i鈥檙 posibilrwydd o lanio yng Nghaergybi yn niwedd 1909.

Argraffodd y Great Western Railway Company lyfr yn arbennig ar gyfer glaniad cyntaf y Mauretania yn Abergwaun, i鈥檞 roi yn llaw pob teithiwr a laniai ar dir Cymru.

Cyflwynwyd iddynt gopi o鈥檙 Historic Sites and Scenes of England: Souvenir Copy, gyda phennod llawn gwybodaeth ar Fishguard: The Great Western Railway鈥檚 new Port of Call: Its Past, Present and Future. Ynddo roedd ychydig baragraffau ar hanes yr enwog Jemima Nicolas neu Jemima Fawr a ddaliodd 12 o Ffrancwyr yn gaeth mewn eglwys ym Mrwydr Abergwaun 1797, ychydig cyn iddynt ildio yn nhafarn y Royal Oak.

Y teithiwr cyntaf i roi ei droed ar dir Cymru oedd Mr Jenkin Evans o鈥檙 Unol Daleithiau ond yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan.

Ffynhonnell y llun, Ifan Pleming
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd pob teithiwr gopi o lyfr Historic Sites and Scenes of England, i nodi'r achlysur hanesyddol

Cymaint oedd y balchder yn Abergwaun ar 30 Awst 1909 nes i鈥檙 County Echo gyhoeddi rhifyn arbennig ar ddiwrnod glaniad cyntaf y Mauretania a鈥檌 alw yn Special 鈥淢auretania鈥 Edition of the County Echo ac ynddo ddwy dudalen yn llawn lluniau o鈥檙 Mauretania a鈥檙 Lusitania, 'Milgwn yr Atlantig'.

Roedd pwysigrwydd y digwyddiad yn amlwg i鈥檙 Cunard Line hefyd gan bod y Mauretania wedi鈥檌 gwisgo鈥檔 llawn, rhywbeth a oedd yn cael ei gadw, yn 么l yr arfer, ar gyfer achlysuron arbennig, fel Pen-blwydd y Brenin, Sul y Pasg neu Gwener y Groglith.

Nodir hefyd bod trigolion Wdig ac Abergwaun yn cael gwyliau cyhoeddus, a gofynnwyd iddynt addurno eu tai 芒 fflagiau a byntings, roedd Band Sir Benfro ar gael i chwarae trwy gydol y dydd a phroseswn i鈥檞 gynnal am 10 y bore o Sgw芒r y Farchnad, Abergwaun i blant ysgol, gweithwyr lleol, y Llu Tiriogaethol Lleol a merched mewn gwisg draddodiadol Gymreig.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd tref Abergwaun wedi ei haddurno 芒 baneri a bynting er mwyn nodi'r achlysur - llun o The County Echo, 30 Awst 1909

Roedd y banciau i gau am hanner dydd. Roedd y plant ysgol yn cael rhywbeth i gofio鈥檙 achlysur 鈥 ai鈥檙 gwpan sgwn i? Roedd Cwch Achub yr RNLI yn mynd i hebrwng y Mauretania i鈥檙 angorfa gyferbyn 芒鈥檙 breakwater, i鈥檞 ddilyn gan saliwt dri gwn.

Roedd hyn oll i鈥檞 ddilyn gan garnifal yn Sgw芒r y Farchnad, a gwobrau o 5s i鈥檙 wisg ffansi orau i鈥檙 dynion ac i鈥檙 merched a gwobr o 拢1 i鈥檙 beic a addurnwyd orau a 5s i鈥檙 ail. Hefyd rhoddwyd gwobr arbennig o gloc teithio, gini o werth i鈥檙 ddynes oedd wedi gwisgo orau ar y diwrnod.

Roedd y diwrnod i鈥檞 gloi gan d芒n gwyllt mawreddog wrth orsaf Gwylwyr y Glannau yn Saddle Point.

Hyd yn oed flwyddyn wedi hynny, roedd modd i drigolion Treherbert heidio i鈥檙 Opera House, a thalu 3d am gyfle i weld 'Up-to-date pictures on the Bioscope', a鈥檙 lluniau oedd y Mauretania yn glanio yn Abergwaun.

Oedd wir, roedd y ffaith i鈥檙 Mauretania lanio a gollwng angor ym mae Abergwaun ar 30 Awst 1909, toc wedi un o鈥檙 gloch yn ddigwyddiad o bwys mawr.

Ffynhonnell y llun, Ifan Pleming

Pynciau cysylltiedig