大象传媒

Arestio dyn a dynes ar 么l i gi achosi anafiadau difrifol i ferch 12 oed

Ci
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai XL Bully oedd y ci

  • Cyhoeddwyd

Mae merch 12 oed wedi dioddef anafiadau a allai newid ei bywyd yn dilyn ymosodiad gan gi.

Cafodd yr heddlu eu galw i The Crescent yn Nantyglo, Blaenau Gwent am tua 17:50 ddydd Llun.

Cafodd y ferch ei chludo i鈥檙 ysbyty, ac mae'r ci XL Bully oedd yn rhan o鈥檙 ymosodiad wedi cael ei ddinistrio.

Mae'r ferch mewn cyflwr sefydlog, meddai Heddlu Gwent.

Mae dyn 37 oed a dynes 42 oed, y ddau o鈥檙 ardal, wedi鈥檜 harestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi wedi鈥檌 fridio ar gyfer ymladd a chaniat谩u i gi fod allan o reolaeth yn beryglus.

Maen nhw'n parhau yn nalfa'r heddlu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

T芒p heddlu yn selio'r llwybr cerdded uwch y tu allan i'r t欧 a'r l么n sy'n rhedeg i fyny ochr y t欧 a'r ardd

Dywedodd person sy'n byw yn lleol, nad oedd am gael ei enwi, fod cwynion wedi'u gwneud i'r gymdeithas dai leol am y ci, sy'n cael ei adnabod fel Rocco, ar sawl achlysur.

Dywedodd nad yw'r ferch gafodd anafiadau difrifol yn byw yn yr un t欧 芒'r ci, a bod yr ymosodiad wedi digwydd ar y ffordd gyfagos.

Mae'r 大象传媒 wedi gweld llun graffig sydd i'w weld yn dangos anaf difrifol i fraich.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn yr ardal ddydd Mawrth

Mae t芒p heddlu yn selio'r llwybr cerdded uwch y tu allan i'r t欧 a'r l么n sy'n rhedeg i fyny ochr y t欧 a'r ardd.

Mae swyddogion fforensig wedi bod yn edrych dros y wal i mewn i'r ardd ddydd Mawrth hefyd.

Dywedodd pobl a oedd yn byw ychydig o ddrysau i lawr eu bod wedi cael 鈥渟ioc鈥.

"Roedd llawer o geir heddlu yma neithiwr," meddai un.

Mae Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yn gwarchod y lleoliad.

Dywedodd yr Uwcharolygydd John Davies o Heddlu Gwent nad oes risg pellach i'r cyhoedd.

Ychwanegodd y gallai gweithgarwch yr heddlu yn yr ardal barhau ac anogodd unrhyw un 芒 phryderon i siarad 芒 swyddogion.

Digwyddiadau fel hyn yn 'drasig'

Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Peredur Owen Griffiths fod yr "anafiadau yn ddifrifol ac am newid bywyd, ond gallen nhw fod wedi bod cymaint yn waeth os nad oedd tad y ferch wedi ymateb mor sydyn wrth aros i'r heddlu gyrraedd".

Galwodd am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru am berchnogaeth gyfrifol o g诺n.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, fod digwyddiadau fel hyn yn drasig ac o bosib bydd modd i'r dirprwy brif weinidog roi diweddariad yn y Senedd ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig