Caws Cymreig yn cael ei ddwyn o hufenfa yn Llundain
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o fareli o gaws gwerth mwy na 拢300,000 wedi cael eu dwyn o safle Neal's Yard Dairy yn Llundain - ymhlith y caws mae Caws Hafod sy'n cael ei gynhyrchu yng Ngheredigion.
Fe wnaeth rhai a oedd yn honni eu bod yn gyfanwerthwyr dderbyn mwy na 22 tunnell o gaws gan Neal's Yard cyn i鈥檙 cwmni o Lundain sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo.
Dywed Neal's Yard eu bod wedi talu cynhyrchwyr y caws fel nad oes yn rhaid i hufenfeydd unigol ysgwyddo'r costau.
Ychwanegodd llefarydd bod y cwmni nawr yn ceisio delio gyda鈥檙 golled ariannol.
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd29 Mai
Cafodd tri math gwahanol o gaws arbenigol eu dwyn - Caws Hafod, Westcombe a Pitchfork.
Mae Caws Hafod yn cael ei wneud 芒 llaw ar Fferm Holden ym Mwlchwernen Fawr ger Llambed.
Mae cwmni Neal's Yard yn gwerthu darn 300g o'r caws am 拢12.90 tra bod caws Westcombe yn costio 拢7.15 am 250g.
Dywedodd Patrick Holden, sy'n berchen ar y fferm lle mae Caws Hafod yn cael ei gynhyrchu: "Mae'r diwydiant caws yn un lle mae ymddiriedaeth wrth wraidd pob gwerthiant.
"Mae maint yr ymddiriedaeth sy'n bodoli yn ein diwydiant bach ni yn deillio o ethos sylfaenwyr Neal's Yard Dairy."