大象传媒

Canser prif leisydd The Alarm wedi dychwelyd

Mike Peters yn canu Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe gafodd Peters ddiagnosis o lewcemia lymohocytic cronig (CLL) dros 29 o flynyddoedd yn 么l pan oedd yn 36 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae prif leisydd y band roc The Alarm wedi dweud bod ei ddyfodol yn "ansicr" wedi i'w ganser ddychwelyd.

Mae'r cerddor 65 oed wedi lansio ymgyrch i gael chwarter miliwn o bobl i gofrestru i fod yn rhoddwyr b么n-gelloedd ar 么l iddo golli'r cyfle i gael trawsblaniad oherwydd ei ganser.

Fe gafodd Mr Peters ddiagnosis o Syndrom Richter - math peryglus o lymffoma - fis Ebrill eleni.

Yn dilyn triniaeth therapi arbrofol mewn ysbyty ym Manceinion, cafodd wybod ei fod yn glir o ganser ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Ond, yn anffodus, mae bellach wedi cadarnhau bod y canser peryglus wedi dychwelyd fis diwethaf.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ym mis Ebrill eleni cafodd Mike Peters ddiagnosis o Syndrom Richter, math peryglus o lymffoma

Wrth geisio annog mwy o bobl i gofrestru i fod yn rhoddwyr b么n-gelloedd, dywedodd ei fod yn gobeithio derbyn un o'r triniaethau yma sy'n gallu newid bywyd yn y dyfodol, wrth annog pobl i ymuno 芒'r ymgyrch 'Un mewn Miliwn'.

Fe gafodd Peters ddiagnosis o lewcemia lymohocytic cronig (CLL) dros 29 o flynyddoedd yn 么l pan oedd yn 36 oed.

Yn gynharach eleni, fe gafodd ddiagnosis o syndrom Richter, lle mae'r canser gwreiddiol yn datblygu i fod yn lymphoma mwy bygythiol.

Mae bellach yn derbyn cemotherapi gyda'i olygon ar gychwyn therapi CAR-T - imiwnotherapi dwys ac arbenigol.

'Mor agos, ond mor bell' i dderbyn y driniaeth

Sefydlodd Mike Peters y Sefydliad Love Hope Strength yn 2006 gyda'i wraig Jules.

Mae'r sefydliad bellach wedi lansio ymgyrch newydd, Un mewn Miliwn, er mwyn dyblu'r nifer o bobl sydd wedi cofrestru i fod yn rhoddwyr b么n-gelloedd posib.

"Roeddwn i fod yn paratoi i dderbyn trawsblaniad b么n-gelloedd, union 29 o flynyddoedd ers i mi gael gwybod bod gen i'r cyflwr," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud fod syndrom Richter wedi golygu nad oedd modd iddo dderbyn y driniaeth arbennig hon.

Dywedodd yr oedd "mor agos, ond mor bell".

Pynciau cysylltiedig