大象传媒

'Roedden ni ar ein pen ein hunain yn wythnosau olaf mam'

Llun o fenyw yn gwenu Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Joan wedi bod yn wael am lai na mis cyn iddi farw

  • Cyhoeddwyd

Rhwng dysgu bod ei mam, Joan, yn marw a鈥檙 farwolaeth ei hun dair wythnos yn hwyrach, roedd Ceridwen Hughes wedi gorfod gofalu, addasu a threfnu.

Ond i Ceridwen a'i chwiorydd o'r Wyddgrug, roedd y gwaith gweinyddol o ofalu wedi golygu colli treulio amser hollbwysig gyda'u mam cyn iddi farw.

Mae adroddiad newydd gan elusen canser Marie Curie yn awgrymu bod nifer fel Ceridwen a'i theulu yn gorfod gwneud gwaith gofalu hanfodol, er iddyn nhw ddweud eu bod yn teimlo nad oedd ganddyn nhw'r sgiliau a'r wybodaeth oedd angen.

Mae鈥檙 elusen nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun ar gyfer eu Datganiad Ansawdd ar ofal lliniarol a diwedd oes.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "darparu mwy na 拢12.5m y flwyddyn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael y gofal a鈥檙 cymorth diwedd oes gorau posibl".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Ceridwen, doedden nhw ddim yn barod am ba mor anodd fyddai鈥檙 cyfan

Roedd mam Ceridwen, Joan, wedi codi gw锚n ar wynebau ei theulu wrth dreulio ei phen-blwydd yn 80 oed yn dawnsio.

Flwyddyn yn ddiweddarach, yn 2020, dysgodd Joan fod ganddi ganser.

Bu farw ychydig wythnosau wedi hynny, gyda鈥檌 thair merch wrth ei hochr yn gofalu amdani.

Gydag un o chwiorydd Ceridwen yn nyrs, roedd y teulu yn hyderus bod ganddyn nhw'r gallu i sicrhau bod eu mam yn gyfforddus yn ei dyddiau olaf.

Ond yn 么l Ceridwen, doedden nhw ddim yn barod am ba mor anodd fyddai鈥檙 cyfan.

鈥淥鈥檙 cychwyn cyntaf roedd y cyfan yn ddi-drefn. Doedden ni ddim yn gwybod le i fynd am unrhyw beth," meddai.

鈥淒oedden ni ddim yn gwybod lle i gael com么d neu gadair olwyn.

"Roedden ni ar ein pen ein hunain yn gyfan gwbl, o鈥檙 cychwyn cyntaf."

Yr her fwyaf, yn 么l Ceridwen, oedd rheoli鈥檙 poen a cheisio sicrhau bod ei mam yn gyfforddus.

Doedd nyrsys ardal methu newid meddyginiaeth neu'r poenladdwyr, felly treuliodd Ceridwen ei hamser yn ceisio cael gofal i Joan gan d卯m gofal lliniarol.

'Dim y gofal oedd ei angen'

鈥淩oedd mam yn deall ei chorff, roedd hi鈥檔 gwybod nad oedd pethau鈥檔 gweithio. Doedd neb yn gwrando," meddai.

"Doedden ni ddim yn rhan o鈥檙 penderfyniadau yngl欧n 芒鈥檌 gofal hi. Doedden ni ddim gyda鈥檙 gofal roedd angen.

鈥淣id yn unig o鈥檔 i鈥檔 teimlo ein bod ni ar ein pen ein hun ond y peth gwaethaf oedd teimlo bod Mam yn mynd trwy鈥檙 cyfan ar ei phen ei hun hefyd.鈥

Fe waethygodd Joan o fewn tair wythnos, gyda Ceridwen yn dweud ei bod hi wedi gorfod treulio'r amser prin oedd ar 么l yn gwneud gwaith gweinyddol.

鈥淒oedden ni ddim yn gallu cael sgyrsiau munud olaf gyda hi.鈥

Ffynhonnell y llun, Ceridwen Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Joan yn mwynhau ei bywyd yn y flwyddyn cyn iddi gael y newyddion bod canser ganddi

Yn 么l Ceridwen, roedd cynnydd yn y moddion i'w llonyddu wedi golygu bod dweud hwyl fawr yn iawn yn amhosib.

鈥淢ewn 24 awr roedd fy chwaer wedi gwneud 43 o alwadau er mwyn cael cymorth a doedd neb yn medru'n helpu ni," meddai.

鈥淣i chawsom unrhyw sgyrsiau munud olaf a hyd yn oed cyn i Mam fod yn gwbl anymwybodol, dywedodd wrth fy chwaer ei bod am siarad 芒 hi, ond doedd fy chwaer methu eistedd i lawr a siarad 芒 hi oherwydd ei bod ar y ff么n yn gyson, yn ceisio cael rhywun i helpu gyda lleddfu鈥檙 poen.

鈥淔elly roedd yr anawsterau i ni yn lluosog.鈥

Ychwanegodd: 鈥淒wi鈥檔 meddwl beth fyddai wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ni fyddai cael rhywun o鈥檙 cychwyn cyntaf i drafod y gwahanol gamau - rhywun fyddai wedi gallu rhoi鈥檙 wybodaeth iawn ond hefyd i fod yna ar ochr arall y ff么n pan oedd angen.鈥

'Straen aruthrol ar deuluoedd'

Mae ymchwil gan elusen Marie Curie yn dangos bod nifer o deuluoedd yn teimlo nad ydyn nhw鈥檔 barod i ymdopi 芒 gofalu am anwyliaid.

鈥淢ae'n gyfnod anodd iawn ym mywyd rhywun,鈥 meddai Jon Antoniazzi o鈥檙 elusen.

鈥淢ae鈥檔 rhoi straen aruthrol ar deuluoedd a ffrindiau, ar hyd a lled Cymru.

"Mae yna rai profiadau sy'n wirioneddol dda ac mae'n bwysig pwysleisio hynny.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l elusen Marie Curie, mae nifer o deuluoedd yn teimlo nad ydyn nhw鈥檔 barod i ymdopi 芒 gofalu am anwyliaid

Mae鈥檙 ymchwil hefyd yn awgrymu bod un ymhob naw person (11%) oedd wedi marw mewn ysbyty yng Nghymru wedi marw o fewn 24 awr, gan awgrymu bod diffyg gofal i bobl sydd ar fin marw yn eu cartrefi eu hunain.

Roedd bron i hanner (47%) y rhoi a holwyd yng Nghymru yn teimlo鈥檔 anhapus gydag o leiaf un agwedd o鈥檙 gofal roedd eu hanwyliaid wedi derbyn.

Roedd un ymhob 15 person wedi gwneud cwyn ffurfiol.

Yn 么l Mr Antoniazzi mae鈥檙 adroddiad 鈥測n datgelu bod yna lawer o dab诺 ynghylch marwolaeth a marw鈥 sy'n profi bod angen gwell sgyrsiau, meddai.

鈥淯n o'r pethau rydyn ni wir eisiau ei annog hefyd yw cael gwell sgyrsiau gyda'ch anwyliaid, ond hefyd gyda'ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hefyd, a dechrau dymchwel rhai o'r rhwystrau i fynegi eich dymuniadau o ran yr hyn y byddai rhywun yn ei hoffi ar ddiwedd oes.鈥

'Darparu mwy na 拢12.5m y flwyddyn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淕all gofal lliniarol da wneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl sydd 芒 salwch sy鈥檔 cyfyngu ar eu bywyd, gan eu helpu i farw gydag urddas a hwyluso proses alaru iach i鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu gadael ar 么l.

鈥淒yna pam rydyn ni鈥檔 parhau i ddarparu mwy na 拢12.5m y flwyddyn i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu cael y gofal a鈥檙 cymorth diwedd oes gorau posibl.

鈥淢ae鈥檙 Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol a Gofal Diwedd Oes yn bwrw ymlaen 芒 gwelliannau fel gosod safonau cenedlaethol ar gyfer gofal, hybu gwasanaethau yn y gymuned, cefnogi hyfforddiant a datblygiad y gweithlu gofal a gwella gofal profedigaeth fel bod teuluoedd ac unigolion yn cael y cymorth sydd ei angen pan fyddan nhw'n colli anwyliaid.

鈥淩ydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod gofalwyr di-d芒l yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i'w cefnogi pan fydd y person sy鈥檔 derbyn gofal yn cael ei dderbyn neu ei ryddhau o鈥檙 ysbyty.鈥