´óÏó´«Ã½

Cory Hill i arwain Cymru yn erbyn y Queensland Reds

Cory HillFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cory Hill wedi ennill 34 o gapiau rhyngwladol hyd yn hyn

  • Cyhoeddwyd

Cory Hill fydd capten Cymru yn y gêm yn erbyn y Queensland Reds yn Brisbane fore Gwener.

Mae Warren Gatland wedi cynnwys pum chwaraewr sydd eto i ennill cap rhyngwladol yn y tîm, gan gynnwys yr asgellwr Regan Grace.

Dyma fydd gêm undeb gyntaf Grace, 27, er iddo gynrychioli Cymru'n chwarae rygbi'r Gynghrair yn y gorffennol.

Mewnwr y Scarlets, Gareth Davies sydd wedi ei ddewis fel is-gapten, tra bod Dewi Lake - sydd wedi arwain y tîm yn y gemau prawf yr haf hwn - wedi ei adael allan o'r garfan.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Grace wedi chwarae chwech o weithiau i dîm rygbi'r Gynghrair Cymru

Mae Gatland wedi gwneud sawl newid i'r tîm wnaeth golli'r ail gêm brawf yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Dim ond Cameron Winnett, Rio Dyer, Archie Griffin, Christ Tshiunza a Taine Plumtree sydd yn cadw eu lle wedi'r golled ym Melbourne.

Mae Tshiunza yn symud o'r ail reng i fod yn flaenasgellwr, gyda Plumtree yn symud i fod yn flaenasgellwr pen agored - fydd o wedi chwarae ym mhob un o safleoedd y rheng ôl yn ystod y daith.

Bydd y prop Kemsley Mathias, y bachwr Evan Lloyd, yr wythwr Mackenzie Martin a'r canolwr Eddie James yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf.

Fe all y bachwr Efan Daniel chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf os yn dod oddi ar y fainc hefyd.

Mae Cory Hill yn cael ei weld fel dewis dadleuol fel capten.

Cafodd y clo 32 oed ei ddewis ar gyfer y daith haf er nad yw wedi cynrychioli Cymru ers tair blynedd.

Daeth hynny wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod ymhlith criw o ddynion wnaeth achosi difrod i gartref dynes yn 2021.

Ni chafodd ei gyhuddo gan yr heddlu, fe wnaeth o ymddiheuro yn llawn ac mae Gatland yn deud eu bod wedi trafod y digwyddiad a bellach wedi "symud ymlaen".

Y timau yn llawn

Cymru: Cameron Winnett; Rio Dyer, Nick Tompkins, Eddie James, Regan Grace; Sam Costelow, Gareth Davies; Kemsley Mathias, Evan Lloyd, Archie Griffin, Matthew Screech, Cory Hill (capten), Christ Tshiunza, Taine Plumtree, Mackenzie Martin.

Eilyddion: Efan Daniel, Corey Domachowski, Harri O'Connor, Dafydd Jenkins, Tommy Reffell, Kieran Hardy, Ben Thomas, Mason Grady.

Queensland Reds: Jock Campbell (capten); Floyd Aubrey, Tim Ryan, Dre Pakeho, Mac Grealy; James O'Connor, Louis Werchon; Sef Fa'agase, Richie Asiata, Jeffrey Toomaga-Allen, Connor Vest, Ryan Smith, Seru Uru, John Bryant, Joe Brial.

Eilyddion: George Blake, Matt Gibbon, Massimo De Lutiis, Josh Canham, Connor Anderson, Will Cartwright, Mason Gordon, Lachie Anderson.