大象传媒

Teulu 'am aros yn eu t欧' er gwaethaf gwaith dymchwel

Heol Cyfyng
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddechreuodd y gwaith o ddymchwel y tai ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu o Gwm Tawe yn dweud na fyddan nhw'n symud o'u cartref er bod disgwyl i'r gwaith o ddymchwel tai cyfagos ddechrau yr wythnos hon.

Mae Richard Morrison a'i deulu wedi byw yn Heol Cyfyng yn ardal Panteg, Ystalyfera ers tua chwarter canrif.

Mae'n dweud ei fod yn bwriadu aros yno, er bod y tai o'i gwmpas yn dechrau cael eu dymchwel.

Bu'n rhaid i 20 o bobl adael eu cartrefi yn 2017 ar 么l tirlithriad, ac fe gyhoeddodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot orchymnion gwahardd brys ar y tai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Richard Morrison nad yw'n bwriadu symud allan o'i gartref er gwaethaf y gwaith dymchwel

Roedd y gorchmynion yn gorfodi pobl i fynd o'r tai yn syth, a gwahardd unrhyw un rhag dychwelyd yno oherwydd bod 'na beryg y gallen nhw gael niwed.

Ar y pryd, dywedodd y cyngor bod 'na beryg i'w bywydau.

Wrth i'r gwaith paratoi ar gyfer dymchwel y tai fynd yn ei flaen, mae pob un yn wag - ac eithrio t欧 Mr Morrison.

"Dwi'n aros ble ydw i. Mae'n rhaid i fi," meddai. "Dwi'n teimlo'n ddiogel yn byw yma."

Mae'n dweud bod sawl asesiad risg gan ei gwmni yswiriant wedi dangos ei fod yn ddiogel i fyw yn y t欧, a bod yr asesiadau hynny'n fwy diweddar na'r un a wnaed gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

'Yswiriant ddim yn talu'

Mae un arall o drigolion yr ardal, Gabe Thomas, yn berchen ar un o'r tai ar Heol Cyfyng sydd i fod i gael ei ddymchwel.

Mae'n dweud ei fod ar ei golled yn ariannol ar 么l adnewyddu'r t欧, a'i osod i denantiaid.

"Prynais i'r t欧 'ma fel adfail, a'i adnewyddu yn llwyr tua wyth mlynedd yn 么l," meddai.

"Troies i fe yn d欧 pedwar llawr a phum stafell wely. Yna yn ddirybudd rhyw fore Llun, cyhoeddodd y cyngor orchymyn i fy nhenantiaid a pherchnogion y 10 t欧 i adael.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd y penderfyniad ei wneud i ddymchwel tai ar y stryd yn dilyn tirlithriad yn 2017

"Mae fy nghwmni yswiriant yn gwrthod talu, oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld unrhyw ddifrod i'r t欧."

Mae'n dweud hefyd bod ei denantiaid wedi gorfod symud i "lety anaddas", a'i fod wedi colli arian "heb unrhyw arwydd y byddaf yn derbyn iawndal am y t欧".

Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod y gorchmynion i ddymchwel tai ar Heol Cyfyng yn digwydd "am resymau diogelwch".

"Cafodd y tai dan sylw, sydd wedi'u hadeiladu ar lethr, eu heffeithio gan dirlithriad yn 2017," meddai llefarydd.

"Ar 么l i'r cyngor symud pobl er eu diogelwch eu hunain, fe apeliodd perchennog a thenantiaid tri o'r tai i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru yn erbyn y gorchymyn i adael.

"Fe wrthododd aelodau panel y tribiwnlys yr apeliadau, gan ddyfarnu bod tystiolaeth arbenigol Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dangos nad oedd yr un o'r tai wedi'u codi ar garreg gadarn.

"Fe gytunon nhw yn unfrydol bod yr awdurdod wedi dangos bod tirlithriadau yn beryg i'r trigolion.

"Mae'r cyngor wedi gweithio gyda'r rheiny gafodd eu symud o Heol Cyfyng, i'w cynorthwyo i ddod o hyd i gartrefi newydd, a gyda'u ceisiadau yswiriant."

Ychwanegodd y cyngor y byddai'r gwaith yn cael ei wneud ychydig ar y tro, ac nad yw tai Mr Morrison a Mr Thomas ymhlith y rheiny sy'n cael eu heffeithio gan y rhan gyntaf.

Mae Richard Morrison a'i deulu felly yn aros lle maen nhw.

"Mae'n rhaid i fi," meddai. "Alla i ddim fforddio symud o 'ma.

"Cartref yw hwn, nid dim ond t欧."

Ymdrech i sicrhau 'datrysiad teg'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y cynghorydd Plaid Cymru lleol, Alun Llewelyn nad oedd yn gallu trafod achosion unigol, ond mae trafodaethau wedi digwydd ers cyfnod hir rhwng y cyngor, trigolion a chwmn茂au yswiriant "i drio sicrhau bod 'na ddatrysiad teg".

Dywedodd bod y gwaith "yn digwydd fesul cam" ac mai "tri, bedwar t欧 fydd yn ca'l eu dymchwel wythnos yma. Bydd yna waith hefyd i sicrhau diogelwch y ffordd o flaen y tai "oherwydd dyma'r brif heol tuag at canol pentre' Ystalyfera".

Ychwanegodd bod ymchwiliadau peirianwyr cyngor a pheirianwyr annibynnol i gyflwr y tir o dan ac o flaen y tai, a'r llethr y tu 么l iddyn nhw, heb ganfod "dull cynaliadwy o sicrhau diogelwch y tai yma a'r llethr".

Pynciau cysylltiedig