´óÏó´«Ã½

Y bachwr Ken Owens yn ymddeol o chwarae rygbi

Ken OwensFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
  • Cyhoeddwyd

Mae'r bachwr a chyn-gapten tîm rygbi Cymru, Ken Owens, wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o'r gamp yn 37 oed.

Fe wnaeth Owens chwarae 91 o gemau dros Gymru a phum gwaith i'r Llewod yn ystod ei yrfa.

Roedd bachwr y Scarlets yn rhan o ddwy garfan a enillodd y Gamp Lawn, pedair carfan a enillodd y Chwe Gwlad, ac fe chwaraeodd mewn tri Chwpan y Byd.

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn gwylio o ochr y cae ond mae’r amser wedi dod i fi wrando ar gyngor meddygol a rhoi’r gorau i’r yrfa sydd wedi rhoi gymaint i fi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owens yn rhan o ddwy garfan a enillodd y Gamp Lawn a phedair carfan a enillodd y Chwe Gwlad

Dyw Owens heb chwarae ers dros flwyddyn, ac nid oedd ar gael ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd.

Daw ymadawiad Owens wedi i sawl chwaraewr arall - fel Alun Wyn Jones, Justin Tipuric, George North, Dan Biggar, Leigh Halfpenny a Rhys Webb - gyhoeddi eu bod hwythau yn rhoi'r gorau i gynrychioli Cymru.

'Ffodus tu hwnt'

“Petai’r dewis wedi bod yn fy nwylo i bydden wedi cael y cyfle i chwarae un gêm arall i Gymru, i’r Scarlets ac wrth gwrs i Athletic Caerfyrddin.

"Cyfle i ddweud hwyl fawr, a’n bwysicach falle, diolch i bawb. Nid fel ‘na oedd pethau i fod.

"Dim fel hyn bydden i wedi breuddwydio dod â’r cwbl i ben, ond fi wedi bod yn ffodus tu hwnt o gael gyrfa mae pob plentyn yng Nghymru yn breuddwydio amdano.

“Fi’n siŵr bod mwy y gallen i fod wedi gwneud… ond nes i ddim dychmygu fel plentyn y bydden i wedi cael y profiadau fi wedi cael.

“Mae chwarae 91 o weithiau i Gymru wedi bod yn anrhydedd alla i byth ddisgrifio.

"Cael tynnu crys y Llewod ymlaen, does dim geiriau."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Ken Owens oedd capten Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad yn 2023

Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland fod “Ken wedi cael gyrfa rygbi anhygoel ac wedi bod yn llysgennad gwych ar gyfer y gêm yng Nghymru".

"Mae Ken yn Gymro angerddol dros ben.

"Dwi'n gwybod ei fod yn golygu llawer iddo chwarae dros Gymru ac roeddech chi'n gallu gweld hynny bob tro roedd yn gwisgo'r crys coch.

"Gall Ken, ei wraig Carys, ei deulu a'i ffrindiau fod yn hynod falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni."

Ychwanegodd prif hyfforddwr y Scarlets, Dwayne Peel fod "Ken, heb os, yn un o'r chwaraewyr gorau i wisgo crys y Scarlets".

"Os ydy chwaraewyr ifanc y clwb eisiau rhywun i'w edmygu ar gyfer eu gyrfaoedd nhw, fe ddylen nhw edrych at Ken Owens."

Dadansoddiad prif sylwebydd rygbi ´óÏó´«Ã½ Cymru, Cennydd Davies

Cymeriad, angerdd, ysbryd - dyma’r rhinweddau sy’n disgrifio Ken Owens.

Boed yn chwaraewr ieuenctid i glwb yr Athletic neu’r Cwins yng Nghaerfyrddin, y Scarlets, Cymru a’r Llewod, mae’r ‘Sheriff' - fel oedd yn cael ei adnabod - wedi rhoi at yr achos.

Yn chwaraewr cryf, cydnerth, fe ddaeth yn chwaraewr allweddol i’w wlad ers ei gap cyntaf yn Seland Newydd yn 2011, ac ers hynny mae wedi bod yn un o’r hoelion wyth i Warren Gatland a Wayne Pivac.

Yn ogystal â thalent mi oedd ei bendantrwydd ac emosiwn bod tro yn dod i’r wyneb ar y cae rygbi, ac yn arweinydd yng ngwir ystyr y gair.

Bu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai anodd yn sgil anafiadau, a fyddai wedi syrffedu unrhyw un, ond bob tro fuodd ar y cynfas, byddai eto yn profi pawb yn anghywir wrth frwydro yn ôl.

Y tro hwn mi oedd hi’n un frwydr yn ormod, ac yn 37 oed mae’r daith ddisglair gofiadwy yma wedi dod i ben.

Chwaraewr a gymrodd bob cyfle, ac un arall o gyfnod yr Oes Aur sy'n hawlio lle yn oriel yr anfarwolion.