大象传媒

Arestio pedwar mewn ymchwiliad i staff Carchar y Parc

Carchar y Parc
  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod a chamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar 么l i bryderon gael eu codi am "gyfres o ddigwyddiadau" yng Ngharchar y Parc.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dynes 23 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, dyn 25 oed o Ferthyr Tudful, dyn 35 oed o Lanelli a dyn 45 oed o Bontycymer wedi cael eu harestio.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dean Taylor: "Cawsom bryderon am ymddygiad staff yng Ngharchar y Parc ddydd Mercher 18 Medi.

"Mae swyddogion yng nghamau cynnar yr ymchwiliad ac yn gweithio'n agos gyda G4S [sy'n rheoli'r carchar] tra bod ymchwiliadau'n parhau."

'Mwyafrif ein staff yn onest'

Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc fod 鈥渕ae mwyafrif helaeth ein staff yn weithgar ac yn onest".

"Rydym yn gwbl ymroddedig i gael gwared ar unrhyw ddrwgweithredu.

鈥淩ydym yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif ac yn cefnogi鈥檙 heddlu鈥檔 llawn gyda鈥檜 hymchwiliad.鈥

Pynciau cysylltiedig