Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Etholiad Cymru 2016: Llywodraeth Leol
Llywodraeth Leol
Pleidiau wedi eu rhestru yn nhrefn yr wyddor
Prif addewidion:
- Rhoi'r gair olaf ar uno cynghorau i gymunedau lleol drwy gynnal refferenda lleol
- Diwygio'r fformiwla o gyllido llywodraeth leol er mwyn sicrhau y gellid cwrdd 芒'r her o ddarparu gwsanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig
- Mynd i'r afael 芒 gwastraff ar lefel llywodraeth leol
- Cynyddu amrywiaeth ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol drwy ymgyrch i godi ymwybyddiaeth.
Prif addewidion:
- Gofyn i'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol greu cynllun newydd i ad-drefnu cynghorau yng Nghymru ar sail cymunedau naturiol
- Diddymu pwerau sy'n galluogi i weinidogion orfodi cynghorau i uno
- System o "bleidleisio teg" ar gyfer etholiadau cyngor
- Newid fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn diogelu cynghorau llai.
Prif addewidion:
- Creu awdurdodau lleol sy'n fwy ac yn gryfach, yn ogystal a chynghorau tref a chymuned sy'n gryfach, ac yna datganoli pwerau o Fae Caerdydd
- Diwygio'r system o ariannu llwyodraeth leol i wneud cynghorau yn fwy cynaliadwy a hunangynhaliol
- Lleiahu'r nifer o fesuryddion perfformiad am gynghorau sy'n cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru
- Gweithio gyda llywodraeth leol i ehangu faint sy'n talu cyflog byw.
Prif addewidion:
- Creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol wedi'u creu o gynghorau lleol presennol, ac yn cael eu harwain gan feiri etholedig
- Deddfu i roi'r hawl i bleidleisio'n 16 oed yn etholiadau llywodraeth leol
- Galluogi cynghorau i gynnig parcio am ddim yng nghanol trefi
- Creu rheolwyr canol trefi.
Prif addewidion:
- Cynghorau i gael mwy o bwerau i gydweithio a chefnogi cymunedau, gan wneud penderfyniadau yn fwy lleol
- Ad-drefnu etholiadau llywodraeth leol fel eu bod yn decach ac yn fwy cymesurol
- Newid oed pleidleisio i 16 oed
Prif addewidion:
- Gwahodd cynghorau i benodi cynghorwyr i gefnogi pwyllgorau'r Cynulliad a goruchwylio gweinidogion Cymru a'r llywodraeth
- Hwyluso uno cynghorau os yw'n cael ei gefnogi'n lleol
- Refferenda lleol ar benderfyniadau cynllunio allweddol
- Datganoli pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol ar ddatblygu economaidd o Lywodraeth Cymru i gynghorau lleol.