大象传媒

Etholiad 2019: Pam trafod y maes iechyd wedi datganoli?

  • Cyhoeddwyd
Gwely ysbytyFfynhonnell y llun, Thinkstock

Pam fod gwleidyddion yn trafod iechyd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol yng Nghymru - er bod y maes wedi ei ddatganoli?

Y gwir yw bydd neb sy'n sefyll yn yr etholiad hwn yn gyfrifol yn y pen draw am y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ond mae'r pleidiau sy'n ymgyrchu yng Nghymru yn dal i drafod polis茂au iechyd.

Dyma bedwar rheswm pam.

1. Mae'r gwasanaeth iechyd yn flaenoriaeth i bleidleiswyr

Mae'r arolygon barn yn awgrymu'n gyson fod y gwasanaeth iechyd ymhlith y blaenoriaethau pwysicaf i etholwyr - ym mhob etholiad.

Felly er bod rhai o addewidion y pleidiau yn fwy perthnasol i etholiad y Cynulliad - i recriwtio mwy o staff iechyd, er enghraifft - maen nhw'n awyddus i rannu'r addewidion hynny fel bod yr etholwyr yn eu clywed.

Ffynhonnell y llun, gorodenkoff/Getty Images

2. Diwedd y g芒n yw'r geiniog

Fe fydd pa bynnag blaid neu bleidiau sy'n ffurfio'r llywodraeth nesaf yn San Steffan yn gorfod dewis faint o arian i'w wario ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.

Ac ar lefel Brydeinig mae'r Ceidwadwyr a Llafur wedi bod yn dadlau yngl欧n 芒 pha blaid fyddai'n fwyaf hael.

Mae'r dadleuon hyn yn berthnasol i Gymru oherwydd y mwyaf o gyllid mae San Steffan yn ei glustnodi i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill fel cynghorau ag ysgolion, y mwyaf o arian fydd yn llifo yn y pen draw i goffrau Llywodraeth Cymru.

Ond penderfyniad i weinidogion yng Nghaerdydd fydd dewis sut yn union i wario'r arian.

Yn yr un modd, petai 'na doriadau i gyllid gwasanaethau cyhoeddus penodol yn Lloegr, fe fyddai cyllideb Cymru hefyd yn lleihau o ganlyniad i'r fformiwla clustnodi arian.

Beth yw maint y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?

Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cyflogi dros 79,000 o bobl yn uniongyrchol ac yn delio ag 20 miliwn o gysylltiadau 芒 chleifion bob blwyddyn, yn cynnwys dros 1 miliwn o ymweliadau ag unedau brys.

Mae bron hanner holl gyllideb Cymru yn cael ei wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gyda rhai economegwyr yn darogan y bydd y canran hwnnw yn parhau i gynyddu.

3. Cwestiwn o ymddiriedaeth

Yn ystod yr etholiad, bydd pob plaid am ymosod ar y gwrthwynebwyr. Felly bydd y Ceidwadwyr yn ceisio creu'r argraff y byddai'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn waeth o fod yng ngofal y Blaid Lafur.

Felly dyw hi ddim yn anarferol i glywed beirniadaeth, er enghraifft, bod amseroedd aros adrannau brys dan reolaeth Llafur yng Nghymru yn hirach nag yn Lloegr.

Ond wnewch chi ddim clywed yr un gwleidyddion yn San Steffan yn s么n rhyw lawer am amseroedd aros adrannau brys, yn Yr Alban, sy'n well ar y cyfan nag yn Lloegr.

Yn 么l rhai arbenigwyr, mae cymharu perfformiad gwasanaethau iechyd Cymru a Lloegr yn eu cyfanrwydd fel cymharu afalau ac orennau - oherwydd bod poblogaeth Cymru yn h欧n, yn dlotach ac yn llai iach.

Ar yr un pryd, bydd y rheiny sy'n ymgyrchu yn erbyn y Ceidwadwyr - Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol - yn awyddus i drafod yr hyn maen nhw'n ei weld fel bygythiadau posib i ddyfodol y Gwasanaeth Iechyd, fel unrhyw gytundebau posib gyda llywodraeth Donald Trump.

Ffynhonnell y llun, PA

4. Brexit

Bydd pob un o'r pleidiau am ddefnyddio rhagolygon yngl欧n ag effaith posib Brexit ar y gwasanaeth iechyd i gyfiawnhau eu safiadau ar y pwnc.

Er bod rhai'n disgrifio Brexit fel bygythiad enfawr, mae eraill, fel Plaid Brexit, yn ei weld fel cyfle.

Rhwng etholiadau, mae nifer o wleidyddion Cymru'n cwyno am ddiffyg ymwybyddiaeth pleidleiswyr yngl欧n 芒 pha feysydd sydd wedi eu datganoli a rheiny sydd ddim.

Maen nhw'n s么n am ddryswch cyhoeddus yngl欧n 芒 pha lywodraeth sy'n gyfrifol am beth.

Ni fydd pethau'n gliriach o gael gwleidyddion yng Nghymru yn s么n am bolis茂au iechyd yn yr etholiad hwn.