大象传媒

Johnson: Peidio cymryd pleidlais yn ganiataol

  • Cyhoeddwyd
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Johnson: "Ddim cymryd eich pleidlais yn ganiataol"

Ar 么l buddugoliaeth ysgubol y Ceidwadwyr mae'r prif weinidog Boris Johnson wedi ailddatgan y bydd Brexit yn cael ei wireddu erbyn 31 Ionawr doed a ddelo.

Yn siarad fore Gwener dywedodd hefyd ei bod yn diolch i bleidleiswyr mewn cadarnleoedd Llafur oedd wedi troi at y Ceidwadwyr.

Roedd chwech o'r seddi hyn yng Nghymru.

"Mae'n bosib eich bod wedi benthyg eich pleidlais i ni - o bosib eich bod yn bwriadu dychwelyd i Lafur," meddai Mr Johnson

"Ond dwi'n teimlo braint eich bod wedi pleidleisio i ni a ga'i ddweud na wna i byth gymryd eich pleidlais yn ganiataol."

Yn ogystal 芒 Brexit dywedodd byddai yn rhoi blaenoriaeth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae gan y Ceidwadwyr 14 o aelodau seneddol yng Nghymru - eu perfformiad gorau ers dyddiau Margaret Thatcher.

Dywedodd yr athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, fod y canlyniad yn un "hanesyddol drychinebus" i Lafur.

"Mae'n anodd gweld beth yw llwybr Llafur yn 么l at gael mwyafrif yn Nh欧'r Cyffredin," meddai ar raglen y Post Cyntaf.

Mae'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn wedi dweud na fydd yn ymladd etholiad cyffredinol arall - ond mae rhai yn galw iddo fynd yn syth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Anna McMorrin: Angen newid yr arweinydd

Dywedodd Anna McMorrin, a lwyddodd i ddal ei gafael ar sedd Gogledd Caerdydd, fod yn rhaid i'r blaid weithredu nawr: "Mae wedi bod yn anodd i'r rhai sydd wedi gweithio yn galed fel aelodau seneddol ac wedi colli eu seddi. Dwi'n meddwl bod yn rhaid gweld pwy sy'n cymryd cyfrifoldeb am hyn."

Ychwanegodd fod angen newid yr arweinydd "ac mae angen i ni fod yn gadarn a ddidostur wrth ailadeiladu."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cefnogwyr Ben Lake yn dathlu ei fuddugoliaeth yng Ngheredigion

Yn ol Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd ac un o bedwar aelod Plaid Cymru fydd yn dychwelyd i D欧'r Cyffredin, roedd canlyniadau ei phlaid yn dda o dan yr amgylchiadau.

"Roedd dwy sedd gyda mwyafrifoedd bychain wrth fynd mewn i'r etholiad, ac mae'r ddwy sedd yna dal yn ein dwylo. Mae'n dod ar amser pan rydych yn gweld y Ceidwadwyr yn ennill mewn llefydd lle nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus ers cenedlaethau.

"Ond sut gall Llafur Cymru ddweud bod nhw'n gwarchod Cymru rhag y Ceidwadwyr? Maen nhw wedi methu."

Roedd hi'n noson siomedig i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe gollon nhw eu hunig AS yng Nghymru, Jane Dodds ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, ac fe gollodd arweinyddydd y blaid Jo Swinson ei sedd yn Nwyrain Dunbartonshire yn yr Alban.

Yn yr Alban ar y cyfan mae gan yr SNP 48 o'r 59 sedd - cynnydd o 13 o 2017.

Dywedodd arweinydd y Blaid Nicola Sturgeon fod hyn yn rhoi neges glir am yr hawl i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth. Llwyddodd yr SNP i sicrhau 45% o'r bleidlais yn yr Alban - cynnydd o 8.1%.

Yng Ngogledd Iwerddon, am y tro cyntaf erioed dyw'r ochr unoliaethol ddim yn cynrychioli'r mwyafrif o ASau i gael eu hethol.

Mae gan y DUP wyth sedd, Sinn Fein gyda saith, yr SDLP dwy a phlaid Alliance un.

Yn wahanol i Sinn Fein, fe fydd yr SDLP, sydd hefyd yn blaid genedlaetholgar, yn anfon eu cynrychiolwyr i D欧'r Cyffredin.