Cofio'r streic
20 mlwyddiant anghydfod Friction Dynamics
Ugain mlynedd yn 么l roedd y fynedfa lwm ar ochr y ffordd a'r ffens fetel uchel ar ei thraws yn Griffiths Crossing ger Caernarfon yn safle un o streiciau diwydiannol hiraf y DU.
Wrth i geir wibio heibio heddiw ar frys i gyrraedd Caernarfon neu i ymuno 芒 ffordd osgoi'r Felinheli, efallai y bydd un neu ddau yn cael atgof sydyn am y picedwyr oedd yn sefyll yma unwaith, yn c'nesu eu dwylo wrth y t芒n yn y gaeaf ac yn codi llaw ar y gyrwyr oedd yn canu corn mewn brawdoliaeth wrth fynd heibio.
Ar 30 Ebrill 2001 aeth 86 o weithwyr ffatri rhannau ceir Friction Dynamics allan ar streic dros amodau gwaith ac aros allan am bron i dair blynedd.
Fe aethon nhw i dribiwnlys cyflogaeth am ddiswyddo annheg yn y pen draw ac ennill yn erbyn y perchennog, Craig Smith.
Ond gyda Smith wedi dirwyn y cwmni i ben a diflannu o Gaernarfon, chawson nhw erioed iawndal ganddo na'u swyddi yn 么l.
Ar y pryd roedd hi'n cael ei galw'n anghydfod hanesyddol oedd yn herio un o bwyntiau'r gyfraith am streicio.
Ond i un o'r streicwyr mae ei ofnau bryd hynny am amddiffyn hawliau gweithwyr ac amodau gwaith wedi dod yn wir wrth i aelodaeth o undebau ddirywio a chytundebau zero hours ddod yn gyffredin.
Ddau ddegawd yn ddiweddarach dyma'r stori drwy lygaid tri o'r picedwyr sydd bellach yn eu 70au, John Davies, Adrian Roberts a Gerald Parry.
'Ni heddiw, chi fory'
John Davies gafodd ei ddewis 20 mlynedd yn 么l fel y streiciwr a fyddai'n cynrychioli'r lleill yn y triwbiwnlys cyflogaeth.
Roedd ennill ei achos yn golygu bod pawb arall hefyd ag achos dros iawndal am ddiswyddo annheg.
Yr egwyddor oedd yn bwysig i John: mae'n meddwl yn aml am y slogan oedd ar blacardiau streicwyr undeb y gweithwyr cludiant - y T&G - 'Us today, you tomorrow'.
"Y plant ifanc 'ma heddiw, does gynnyn nhw ddim dyfodol, achos does gynnyn nhw ddim gwaith.
"Does gynnyn nhw ddim gobaith o gael pensiwn, dim gobaith o gael job iawn sy'n talu cyflog da achos maen nhw i gyd ar y bandwagon rwan efo zero hour contracts, ac efo rhai o'r cyflogwyr yma, maen nhw'n talu o dan y minimum wage."
Cyflog da, job am oes
Roedd hi'n wahanol iawn pan gafodd John, yn llanc ifanc hirwallt, swydd efo cwmni Turner and Newall yn ffatri Ferodo 53 mlynedd yn 么l, ddaeth wedyn yn Friction Dynamics.
Rhoddodd Ferodo waith i gannoedd o gyn-weithwyr chwarel Dinorwig - hithau'n cyflogi 3,000 ar ei hanterth - pan gaeodd hi yn 1969.
Er ei bod yn delio gydag asbestos ac yn enwog am yr arogl rwber fyddai'n taro unrhyw un oedd yn pasio, roedd y cyflog a'r amodau yn dda yno.
"Roedd o'n gwmni da iawn," meddai John.
"Yn y 70au a'r 80au oedd na dros 1,000 o bobl yn gweithio yna, oedd rhaid iddyn nhw extendio'r car park ddwy waith am bod na gymaint o bobl yn gweithio yna.
"Pan wnaeth y chwarel ddechrau cau, cyn belled ag oedd pobl ifanc yn y cwestiwn doedd na ddim llawer o waith arall o gwmpas."
Roedd Ferodo yn cynnig prentisiaeth ac roedd yr undebau yna o'r dechrau un, meddai.
"Dyna lle roedd Ferodo o flaen ei hamser, yn licio cydweithio efo'r undeb, ac wrth gwrs oedd o'n gweithio'n gr锚t i'r ddwy ochr - os oedd rhywbeth oedd y ddwy ochr ddim yn licio oeddan nhw'n eistedd lawr rownd y bwrdd a siarad a siarad y peth allan."
Newid dwylo
Ond daeth tro ar fyd yn y ffatri, aeth ar ei lawr ac ychydig gannoedd yn unig oedd yn cael eu cyflogi yno pan gafodd ei phrynu, gyda help grantiau, gan berchennog newydd o'r Unol Daleithiau o'r enw Craig Smith.
Newidiodd ei henw i Friction Dynamics ac ar y dechrau roedd yn cael ei weld fel achubwr oedd wedi cadw'r ffatri rhag cau.
Ond yna cyhoeddodd ddiswyddiadau a set o amodau newydd oedd yn cynnwys bwriad i dorri cyflogau o 15% a threfniadau gwyliau a shifftiau: roedd hyn yn rheidrwydd er mwyn cadw'r busnes i fynd meddai'r rheolwr.
Roedd y telerau newydd hefyd yn gwrthod cydnabod prif swyddogion yr undeb na chaniat谩u cyfarfodydd undeb yn y ffatri. Roedd amod hefyd meddai John Davies nad oedd y gweithwyr yn cael mynd ar streic os oedden nhw'n anghytuno 芒'r telerau.
Un o'r prif bethau sy'n aros yn y cof i'r cyn streicwyr heddiw oedd newid y cytundeb gwyliau - yn hytrach na bod y gweithwyr yn cael dewis pryd roedden nhw'n cymryd eu 28 diwrnod o wyliau roedd rhaid iddyn nhw eu cymryd bob dydd Llun a hynny yn y gaeaf.
"Dyma ni'n deud 'mae hyn yn beryg', dim jyst i ni, ond allet ti ddeud bod gweithwyr y wlad 'ma yn mynd yn 么l i gyfnod cyn y Magna Carta!" meddai John Davies.
"Oedd ein tadau ni, ein teidiau ni, ein hen hen deidiau ni wedi cwffio i gael pethau oeddan ni'n cymryd yn ganiataol a rhai wedi marw a chael eu lladd am sefyll i fyny i'r bobl yma.
"Ti'm yn cael tynnu hwnna oddi wrth y gweithwyr!"
Y T&G oedd yr undeb fwyaf yn y ffatri o bell ffordd ac roedd yr aelodau yn credu bod Craig Smith yn fwriadol eisiau cael eu gwared er mwyn torri grym yr undeb.
Roedd Craig Smith yn dweud ei fod eisiau gwneud y cwmni yn fwy cystadleuol ac economaidd a'i chadw ar agor.
Asbestos a diogelwch
Roedd Turner and Newall yn un o ychydig o gwmn茂au oedd 芒 thrwydded i ddefnyddio asbestos i greu eu cynnyrch, sef rhannau sy'n delio gyda ffrithiant, ar gyfer ceir yn bennaf.
Roedd hi'n gallu bod yn job fudr meddai Adrian Roberts fu yno am 29 mlynedd, yn enwedig y gwaith roedd o'n ei wneud yn cymysgu'r cemegau oedd yn mynd i wneud br锚cs.
"Roedd pob math o bartiau'r ffatri, gwneud br锚cs a clutches, yn cael eu gwneud o scratch. Oeddan ni'n gwneud nhw mewn sheets mawr, yn eu torri nhw allan a'u gludo nhw'n sownd i fetal sy'n mynd yn sownd yn y car.
"Ar 么l g'neud y shifft oedd rhaid i chdi olchi'r lle i lawr achos oedd 'na asbestos yna.
"Oeddan ni i gyd yn gwisgo masgiau a ballu ac overalls sbeshial a ll'nau y lle efo hosepipe. Oedd rhaid inni neud yn saff bod bob dim yn saff.
"Y ffordd oedd iechyd a diogelwch yn cael ei wneud ar y safle, oedd o'n dda chwarae teg achos oeddan ni wedi cwffio i gael be' oeddan ni'n defnyddio ar hyd y blynyddoedd pan oeddan ni'n bart o Turner and Newall."
Roedd Adrian wedi bod yn stiward undeb ar lawr y ffatri ac yn gadeirydd y gangen ac roedd y gofal yma dros iechyd a diogelwch yn un o'r elfennau roedd yr undebwyr yn teimlo eu bod wedi brwydro drosto.
Mynd ar streic
Wedi i sawl ymdrech i drafod a dod i gytundeb gan wasanaeth ACAS a'r Aelod Seneddol Dafydd Wigley fynd i unman penderfynodd aelodau'r undeb gynnal streic.
Ond er mwyn cadw'r ffatri i fynd bydden nhw'n ei chynnal bob yn ail wythnos a dod i mewn i weithio ar yr ail wythnos fel bod cynnyrch yn dal i gael ei greu a chadw'r busnes i fynd.
Wedi'r wythnos gyntaf ar streic, aeth y gweithwyr yn 么l i weithio am yr ail wythnos ond roedd y gi芒t wedi ei chloi y bore hwnnw a'r rheolwr, Ken Godfrey, yn sefyll y tu 么l iddi yn gwrthod eu gadael i mewn.
Roedd y camer芒u yn ffilmio wrth i Ken Godfrey ddweud wrth Tom Jones, trefnydd rhanbarthol y T&G, ac un o bileri'r streic, y bore hwnnw bod y ffatri wedi rhoi'r gweithwyr ar wyliau ac felly doedd dim hawl ganddyn nhw ddod i mewn.
Yr un pryd roedd na weithwyr newydd yn cerdded i mewn i gymryd eu lle.
Roedd 'na deimladau cryf tuag atyn nhw gan aelodau'r T&G.
Roedd rhaid iddyn nhw eu cael er mwyn amddiffyn y busnes meddai'r rheolwyr.
O hynny ymlaen roedd yna linell biced 24 awr y dydd o flaen mynedfa'r ffatri am ddwy flynedd ac wyth mis.
"Lock out oedd o"
Mae Gerald Parry, cadeirydd cangen yr undeb oedd wedi gwneud 30 mlynedd yn y ffatri, yn mynnu nad streic oedd hi mewn gwirionedd ond cael eu cloi allan.
"Lock out oedd o, 100 mlynedd i'r flwyddyn i Streic y Penrhyn, 'nath ddigwydd pum neu chwech milltir i ffwrdd o'r seit yna. Union yr un peth," meddai am y streic a barodd o 1900-1903.
"Y ddwy streic hiraf sy' 'di bod yn y wlad 'ma a ddim yn bell o'i gilydd yn yr un ardal, drws nesa i'w gilydd jyst."
Cael eu cloi allan am wrthod derbyn amodau gwaith a mynnu hawl i undeb oedd y streicwyr hynny hefyd, ac roedd un o gyndeidiau Gerald yn un ohonyn nhw.
"Roedd fy nhaid ochr Mam yn Streic y Penrhyn - roedd fy nhad a'n mam yn dod o deulu'r chwareli, un yn Bethesda a'r llall ochr arall yn Dorothea.
"Roedd fy nhad, fy nhaid a'r teulu gyd yn undebwyr cryf i gyd yn hir yn 么l ac oedd yr hen go' wedi deud wrthan ni faint o bwysig ydi undeb a be' mae o wedi ei wneud i bobl fatha ni."
Cefnogaeth
Effaith y streic
"I deuluoedd efo plant oedd hi'n anodd iawn... y peth cyntaf oedd rhaid inni feddwl am oedd rhein oedd efo plant," meddai John Davies.
"Oedd o'n straen mawr achos oedd pawb yn poeni lle oedd y pres yn dod i gael bwyd a dillad a sgidiau i'r plant so oeddan nhw dan bwysau mawr 'de, ffraeo mawr efo rhai teuluoedd, rhai 'di cael lond bol a 'di cerddad allan a pethau felly.
"Mi aeth 'na un neu ddau yn s芒l oherwydd y stress."
"Doedd o ddim yn amsar hawdd o bell ffordd," meddai Adrian oedd yn briod efo dwy ferch a morgais i'w dalu.
Roedden nhw'n gallu dal i fynd ar gyflog ei wraig, cefnogaeth pobl yr ardal a'u cynilion am ychydig.
Ond ddwy flynedd i fewn i'r streic roedd wedi dod i'r pen ar Adrian ac roedd yn rhaid iddo gael swydd; cafodd waith yn goruchwylio myfyrwyr NVQ a dysgu pobl sut i yrru tryciau fork-lift i gwmni newydd o'r enw Hyfforddiant Gwynedd.
Codi arian
Clwb cymdeithasol Maesgeirchen oedd un o'r grwpiau cyntaf i gynnal noson godi arian i'r streicwyr gan gasglu 拢400. Fe gododd hynny eu calonnau a chyn hir roedden nhw'n cael rhoddion ariannol gan grwpiau lleol a chymunedau dros y byd.
Aethon nhw ar ofyn cwmn茂au lleol a chael cefnogaeth a chyfraniadau bwyd.
Doedd neb wedi clywed am fanciau bwyd bryd hynny ond dyna oedd yn cael ei weithredu ar y llinell biced meddai John.
"Oedd gynnon ni restr o bwy oedd efo plant a faint oedd eu hoed nhw ac roeddan ni'n sortio rheiny allan gynta.
"Wedyn unwaith oedd rheiny wedi cael eu bwyd oedd pobl oedd jyst yn 诺r a gwraig neu'n byw ar ben ei hun yn cael beth oedd dros ben.
"Ond mi roedd o reit anodd. Oedd pobl wedi arfer cael cyflog da bob wythnos neu bob mis wedyn mwya sydyn doedd na'm byd yna ond y biliau yn dal i dd诺ad."
Roedd John, Gerald ac Adrian ymhlith criw fu'n teithio'r wlad i geisio codi arian ac ymwybyddiaeth ac yn sgil hynny fe gawson nhw anrheg arbennig ar eu hail Nadolig ar streic - daeth gweithwyr marchnad Covent Garden a Smithfield 芒 lori fawr o Lundain yn llawn bwyd i'r picedwyr.
"Roedd ei llond hi o dyrcis, vegetables, bob math o bethau; bob peth oeddat ti isho i Dolig. Nath hwnna achub y Dolig," meddai John.
Yn ogystal 芒 haelioni dieithriaid cafodd y streicwyr eu synnu gan roddion unigolion a chymunedau lleol hefyd.
Cadw'r c诺l a dylanwad 'Tomi'
Un o ffigyrau amlycaf y streic oedd Tom Jones, trefnydd rhanbarthol y T&G, a fu farw yn 2012.
Roedd yn allweddol o ran sicrhau bod undebwyr y ffatri yn dilyn y ddeddf a ddim yn gwneud unrhyw beth i beryglu cyfreithlondeb y streic, ac felly eu gobeithion o ennill eu hachos.
"Oedd Tomi yn pwysleisio i ni bod rhaid i ni fod yn fwy gwyn na gwyn, achos roedd Smith yn benderfynol," meddai Gerald.
"Rwbath fysan ni'n 'neud o'i le, fysa hi'n mynd yn ddrwg.
"Felly roedd rhaid inni beidio gwneud dim byd yn rong a chwarae i'w ddwylo.
"Oeddan ni'n gwybod mai ni oedd yn iawn."
Cafodd y streicwyr gefnogaeth yr holl ffordd gan undeb T&G yn ganolog a'u harweinydd Bill Morris.
Ond pe bae nhw wedi cerdded allan mewn gwylltineb byddai hi'n streic answyddogol a fyddai ganddyn nhw ddim achos.
"Gathon ni goblyn o job cadw'r hogiau oedd wedi bwcio holid锚s rhag cerdded allan. Dyma Tomi yn deud 'Dachi ddim yn mynd allan, neu ddowch chi byth yn 么l.'"
O ddechrau'r streic roedd gweithwyr newydd wedi cael eu recriwtio. Roedd llawer o'r rhain yn ddynion ifanc, lleol, di-brofiad meddai'r streicwyr, ac yn rhan o dacteg i geisio eu cythruddo.
Yn 么l rheolwyr y ffatri roedden nhw'n cymryd y mesurau yma i amddiffyn y busnes a chadw'r cynhyrchu i fynd.
Ac yn sicr roedd angen gwaith yn yr ardal.
Erbyn heddiw, mae unrhyw ddicter tuag atyn nhw gan y picedwyr wedi ei leddfu gan amser.
"Dwi'n nabod un neu ddau ond y peth ydi, doedd o ddim byd i 'neud efo nhw, stooges oeddan nhw yn cael eu iwsho.
"Os oeddach chi'n gweld nhw allan yn dre, fysach chi just yn ignorio nhw, dydan ni ddim yn mynd i gael ffeit yn pyb neu mynd i gega.
Mae gan Adrian eiriau cryfach: "Mae'r Sais yn galw nhw yn scabs dydi? Dyna fo, os mai scabs ydyn nhw, scabs oedden nhw.
"Mae'n by the by r诺an ond pan welai nhw, dwi jyst yn peidio cymryd sylw ohonyn nhw. Mae'r teimlad yn mynd yn llai ac yn llai bob blwyddyn ond pan mae rywun yn dod 芒 fo i fyny, wel mae'r gwrychyn yn dechrau codi eto 'de, ond dyna fo."
Bywyd ar y lein
Un rhodd annisgwyl gafwyd oedd caraf谩n wnaeth drawsnewid bywyd ar y lein i'r picedwyr oedd yn sefyll ddydd a nos ym mob tywydd ar y llinell.
Roedd eu lloches wedi dechrau ei bywyd fel darn o darpolin, yna un mwy cadarn o bren a sinc, ond roedd y glaw yn dal i ddod i fewn. Yna fe gawson nhw babell fawr dair llofft ar un pwynt.
"Wedyn ddaru rywun stopio a deud 'ydach chi isho caraf谩n bois?'," meddai John.
"Oeddan ni'n meddwl mai j么c oedd o 'Ia, iawn medda' ni'!
"Dwy awr wedyn oedd y garafan ma'n troi fyny ac ew oedd honna'n godsend, oeddan ni'n gallu gwneud bwyd a golchi llestri, ac roedd gynnon ni fatris ar gyfer teledu a radio.
"Y diwrnod dwytha oedd y garaf谩n yn mynd oedd na tua 20 ohonan ni wedi dod yna i glirio, ac 么l i'r garafan fynd o'n na oedd na dipyn ohonan ni efo dagrau yn ein ll'gada; oedd o fel colli ffrind - un o'r teulu yn mynd," cofia John Davies.
"Tasa'r garaf谩n yna wedi medru siarad fysa 'na storis difyr 'de!"
Daeth bywyd y garaf谩n enwog i ben ar lwyfan un o sioeau theatr Bara Caws oedd wedi ei defnyddio mewn drama am y streic.
Yn anffodus bu anffawd rhwng newid setiau, malwyd y garaf谩n ac roedd rhaid ei sgrapio hi.
Y Ferodo Hilton mae Adrian yn ei galw hi ac mae'n cofio un noson yn dda.
"Oedd y camaraderie yn briliant. Oeddach chdi ar y picket line 'na ar [shifft] nos, tanllwyth o d芒n gen ti o flaen y garaf谩n, dy gefn yn erbyn wal yn cysgodi oddi wrth y gwynt er mwyn cael c'nesrwydd ac mae 'na rywun yn gweiddi 'hoi!'
"Arglwydd, dyma fi'n neidio allan o nghroen; oedd 'na rywun 芒'i ben dros y wal yn deud 'Sut ydach chi hogiau, 'dach chi'n iawn?' Oedd hyn tua dau o'r gloch yn y bore.
"'Lle ti'n mynd?' medda ni wrtha fo. Oedd y boi yn lysh braf.
"'Mynd i Sir F么n am adra,' medda fo. 'Gen i lot o ffordd i gerdded.'
"'Tyd i fewn,' meddai un o'r hogiau, 'ro i lifft i chdi adra'.
"A roeson ni lifft iddo fo adra. Ryw dri neu bedwar diwrnod wedyn pwy ddaeth yn 么l yn ganol p'nawn ond hwn efo car a llond y b诺t o fwyd.
"O'dd rwbath felna yn codi dy galon di de.
"Ond felly oedd pawb yn g'neud i ni - briliant.
"Fel oedd y streic yn mynd ymlaen, ffordd oedd pobl yn canu corn wrth basio a stopio i adael hwn off a rhoi rhein i chdi, oeddan ni'n gwybod bod y gefnogaeth yn gryf rownd y lle 'ma so ar y pryd roedden ni'n teimlo bod ni'n cael ein gwerthfawrogi."
Ennill yr achos
Yn 么l y gyfraith roedd gweithwyr ar streic swyddogol yn cael aros allan am wyth wythnos heb gael eu diswyddo.
Pan ddaeth yr wyth wythnos i ben roedd hi'n ergyd i gael llythyr gan Craig Smith yn dweud eu bod wedi eu diswyddo.
Roedd yr undeb yn dadlau iddyn nhw gael eu hatal rhag gweithio yn ystod y cyfnod hwnnw.
Aethon nhw i dribiwnlys cyflogaeth yn Lerpwl, gyda John Davies yn achos prawf ar ran yr holl weithwyr, a John Hendy QC yn eu cynrychioli.
Mae Hendy yn arbenigwr ar achosion cyflogaeth a llwyddodd i ddangos bwriad y rheolwyr i ddiswyddo o'r dechrau; 14 Tachwedd 2002 roedd dathlu mawr pan glywodd y gweithwyr eu bod wedi ennill yr achos.
Roedd ennill yr achos yn fuddugoliaeth o ran egwyddor, ond chafodd y gweithwyr mo'u swyddi yn 么l a wnaeth Craig Smith ddim talu ceiniog o iawndal iddyn nhw.
I ddechrau dywedodd y byddai'n apelio, yna dywedodd bod y busnes wedi mynd i'r wal a daeth 芒'r cwmni i ben.
O fewn wythnosau roedd cwmni newydd wedi ei sefydlu o'r enw Dynamex Friction oedd yn talu rhent am y safle i Craig Smith ac yn 么l adroddiad gan y 大象传媒 prynodd Mr Smith randdaliadau yn y cwmni hwnnw yn ddiweddarach.
Ar 么l gadael Caernarfon, sefydlodd Craig Smith gwmni Ferotec Friction ym Maes Glas, Sir y Fflint.
Rhoddodd y streicwyr y gorau i'r linell biced fis Rhagfyr 2003.
Fe gafodd y streicwyr iawndal gan y wladwriaeth, ddaeth i - "bare minimum" ar 么l ei rannu rhwng pawb, meddai Adrian Roberts - ond roedden nhw wedi rhoi'r gorau i obeithio am iawndal gan Smith erbyn 2010.
Roedden nhw hefyd yn dweud eu bod wedi cael addewid y byddai eu hachos yn sbardun i'r llywodraeth newid y ddeddf wyth wythnos er mwyn ei gwneud yn anoddach i gyflogwyr roi'r sac i weithwyr ar 么l diwedd y cyfnod streicio swyddogol.
Mae'n nhw'n chwerw na ddigwyddodd hynny.
Bywyd ar 么l y streic
Yn eu 50au pan orffennodd y streic cafodd nifer o'r streicwyr drafferth cael hyd i waith.
Roedd John yn ddi-waith am ddwy flynedd nes i sgwrs ar y stryd am Formula 1 gyda dau gyn gydweithiwr arwain at y syniad o agor Canolfan Gartio Dan Do.
Bu John a'r t卯m yn rhedeg y busnes am 12 mlynedd cyn i'r meddyg ei rybuddio i roi'r gorau iddi ar 么l iddo gael dau drawiad ar y galon.
Heddiw fe gewch chi hyd i John ar benwythnosau ym mynwent Llanbeblig gyda chriw o wirfoddolwyr eraill yn clirio'r coed a'r mieri sydd wedi tyfu dros y cerrig beddi wedi blynyddoedd o esgeulustod
Wrth iddo rwygo tyfiant blynyddoedd oddi ar y beddi mae'n darganfod mwy a mwy am hanes cymdeithasol y dref wedi ei gofnodi ar y cerrig beddi; cymaint o deuluoedd yn colli babanod a phlant, pobl yn marw yn ifanc o afiechydon, tlodi a gwaith caled, llanciau wedi eu lladd mewn rhyfel.
Wrth ddarllen enwau a dyddiau mae'n teimlo bod pobl wedi anghofio faint mae ein cyndeidiau a neiniau wedi brwydro i gael pethau fel y gwasanaeth iechyd a hawliau gweithwyr.
Ac mae'n gweld mor fregus yw'r pethau rydyn ni'n eu cymryd yn ganiataol.
Ugain mlynedd yn 么l yr un egwyddor oedd ar flaen ei feddwl pan aeth ar streic gydag undeb y T&G.
Mae Gerald newydd ymuno 芒'r criw sy'n clirio'r fynwent hefyd. Ar 么l y streic cafodd swydd yn y diwedd fel warden yng Ngholeg Glynllifon.
"Ffantastic o job, 'swn i'n gallu troi'r cloc yn 么l 'swn i ddim wedi mynd i Ferodo 'swn i wedi mynd i Glynllifon i weithio."
Mae Gerald hefyd wedi bod yn gynghorydd tref ac yn gynghorydd sir Gwynedd.
Bellach ar ei bensiwn - yn ffodus roedd hwnnw yn ddiogel - mae'n treulio ei amser yn chwarae golff, darllen, mynydda a pan fydd yn gallu, teithio. Mae wrthi'n trefnu taith i fynydda a thrip golff i Iwerddon.
"Dwi'n licio jympio yn y car a mynd, dwi 'di bod i'r Himalaias, gen i fascination efo ynysoedd, dwi 'di bod yn yr Isle of Mann, Isle of White, dwi 'di bod yn yr Outer Hebrides, dwi'n licio trafaelio lot."
I'w brofi mae'r byd meddai Gerald, nid i'w weld ar y teledu neu ddarllen amdano mewn llyfr.
Rai blynyddoedd yn 么l cafodd Adrian waith gyda'r cyngor yn gofalu am safleoedd teithwyr Gwynedd.
"Coelia di fi mae 'na gymeriadau yna - ond ches i ddim traffarth," meddai.
Newydd ymddeol fis Mawrth 2020 mae Adrian - yn syth i mewn i'r cyfnod clo - felly dydi o ddim wedi cael cyfle i wneud unrhyw gynlluniau mawr.
"Mae'r wraig yn rhoi lot o waith imi! Dwi jyst cymryd hi'n dow-dow, mynd am dro, hynny fedri 'di efo'r feirys yma.
"Ma'i reit ddistaw, dwi'n methu'r craic efo'r hogiau 'de."
Mae John yn credu fod y sefyllfa roedden nhw'n rhybuddio amdano 20 mlynedd yn 么l, bellach yn realiti.
Mae'n pryderu am ddiffyg gwaith a buddsoddi yng ngogledd Cymru.
Mae Gerald yn credu bod pobl yn anghofio am y slogan oedd ar eu baner, 'Mewn undeb mae nerth', nes ei bod hi'n rhy hwyr.
"Yn anffodus, dydi pobl ddim ond isho dod at ei gilydd a cwffio pan mae petha'n ddrwg, ond dydyn nhw ddim yn joinio undeb, mynd yn complacent mae pobl.
"Maen nhw'n dod at ei gilydd a helpu ei gilydd ddim ond pan mae 'na greisus... human nature ydi o."
"Y teimlad mwyaf wrth edrych n么l," meddai Adrian, "ydy bod rhaid i ni wneud be' wnaethon ni achos oedd ein terms and conditions ni yn sacrosanct.
"Oeddan ni 'di cwffio yn galad dros y blynyddoedd i gael rheiny a doedd hwn ddim yn cael y cyfle i ddod yna riding rough shot, fel ma'r Sais yn ddeud, dros be' oeddan ni'n trio'i 'neud, jyst er mwyn safio ychydig bach o bres.
"Dyna'r cwbl oedd o."
Yn 么l cofnodion T欧'r Cwmniau mae Craig Smith bellach yn 81 mlwydd oed ac mae un cyfeiriad iddo yn Connecticut, UDA.
Ers 2016 mae wedi ymddeol o'i r么l fel ysgrifennydd cwmni Ferotec Friction, ac fel cyfarwyddwr TBA Electro Conductive Products Ltd ers 2017 gan drosglwyddo'r awenau i Bradley Smith.
Mae mieri a chwyn wedi tyfu dros hen safle Friction Dynamics a gwylanod wedi ymgartrefu'n haid fawr ar do tonnog y ffatri sydd bellach yn adfail. Y s么n ydi bod cynlluniau i droi'r safle yn bentref gwyliau.
Cynhyrchu: Elin Meredith
Hawlfraint lluniau: 大象传媒, Arwyn Roberts, Richard Outram, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd: 30 Ebrill 2021