Cynllwyn, cyffro a chyfrinach Arwisgo 69

Wrth i 500 miliwn o bobl ar draws y byd wylio seremoni arwisgo'r Tywysog Charles roedd pryder bod cynllun i ymosod arno.

Ymysg y swyddogion oedd yng Nghaernarfon i gadw trefn, roedd un person yn gwybod yn iawn fod bomiau yn disgwyl amdano.

Ond roedd yn cadw'n dawel.

Caernarfon - a'r castell yn gefndir i'r dref

1969

07:00

Bore'r Arwisgo

Llun wedi ei dynnu o'r awyr, o gastell Caernarfon a'r dref bore'r Arwisgo

Wrth iddi wawrio ar ddydd Mawrth, 1 Gorffennaf 1969, mae tref Caernarfon eisoes yn llawn pobl sydd wedi treulio’r noson yn cysgu ar y stryd neu wedi cyrraedd yn gynnar i gael lle da ar gyfer y diwrnod mawr.

Mae cynnwrf ar strydoedd y dref fach sydd wedi ei haddurno gyda baneri a chôt o baent newydd: mae’r llwyfan wedi ei osod ar gyfer un o seremonïau mwyaf mawreddog y teulu brenhinol Prydeinig.

Tu allan i Gastell Caernarfon, gyda'r baneri yn eu lle - ac ambell berson  yn eistedd o gwmpas byrddau picnic

Ond mae diogelwch yn dynn gyda 2,500 o aelodau o'r fyddin ac o leiaf 2,755 o heddweision a swyddogion yn bresennol yn dilyn misoedd o brotestiadau ac ymgyrch fomio yn targedu trefniadau’r Arwisgo.

Yn ddiarwybod i'r awdurdodau, er gwaethaf diogelwch llym ers misoedd, mae arweinydd yr ymgyrch fomio honno yno, dan eu trwynau.

Mae targed ei wrthwynebiad, Charles Philip Arthur George, y llanc ifanc 20 oed fydd yn ganolbwynt i’r holl ddiwrnod, mab hynaf Elizabeth II ac etifedd coron Prydain, wedi treulio’r noson ar y Llong Frenhinol draw dros y dŵr ym mhorthladd Caergybi.

Y Tywysog Charles, gartref yn Windsor gyda'i fam Y Frenhines a'i frawd y Tywysog Edward, dri mis cyn yr Arwisgo

Y Tywysog Charles, gartref yn Windsor gyda'i fam Y Frenhines a'i frawd y Tywysog Edward, dri mis cyn yr Arwisgo

Y Tywysog Charles, gartref yn Windsor gyda'i fam Y Frenhines a'i frawd y Tywysog Edward, dri mis cyn yr Arwisgo

Erbyn canol y p'nawn bydd y Tywysog Charles wedi ei arwisgo yn Dywysog Cymru yng nghastell Caernarfon.

Tra mae'n dechrau paratoi at y diwrnod o'i flaen, mae 'na newyddion yn dechrau cyrraedd sy’n sobri pawb.


"We got two of the bastards last night"

Gwersyll milwrol dros dro, tu allan i Gaernarfon

Tua chwe milltir o Gaernarfon mae un o wersylloedd dros dro byddin Ei Mawrhydi wedi ei gosod yn Llandwrog.

Yno mae'r milwyr yn dechrau deffro i'r newyddion bod bom wedi ffrwydro a bod 'na bobl wedi cael eu lladd.

Ymhlith swyddogion y gwersyll mae un milwr sy'n cadw cyfrinach a allai newid cwrs y diwrnod yma'n llwyr.

"We got two of the bastards last night!” yw'r geiriau sy'n deffro John Barnard Jenkins ar fore'r Arwisgo wrth i swyddog wthio ei ben drwy ddrws ei babell i rannu newyddion mawr y bore - mae dau o'r bomwyr sydd wedi bod yn gwrthwynebu'r Arwisgo wedi eu lladd gan eu bom eu hunain dros nos.

Mae John Jenkins yn ceisio ymddangos yn falch. Ond mae'n cuddio ei wir deimladau.

Does neb yno'n gwybod mai John Jenkins a greodd y bom sydd wedi ffrwydro.

Gwersyll milwrol Llandwrog 1969.

Gwersyll milwrol Llandwrog 1969. Llun: Y Cymro

Gwersyll milwrol Llandwrog 1969. Llun: Y Cymro

John Jenkins, milwr o Dreharris sy'n aelod parchus o'r Corfflu Deintyddol, yw arweinydd Mudiad Amddiffyn Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am ddegau o fomiau dros y misoedd diwethaf.

Ond does bron neb yn gwybod - dim hyd yn oed ei wraig, Thelma, nôl yn y cartref teuluol yn Wrecsam.

Iddi hi a'u meibion, Vaughan a Rhodri, mae John yn swyddog uchel ei barch ym myddin Ei Mawrhydi.

John Jennkins, yn ei lifrau milwrol

John Jenkins wrth ei waith gyda'r Corfflu Deintyddol. Llun: Y Teulu Jenkins

John Jenkins wrth ei waith gyda'r Corfflu Deintyddol. Llun: Y Teulu Jenkins

Ond mae John wedi bod yn arwain yr ymgyrch fomio i wrthwynebu'r Arwisgo ers misoedd.

A'r diwrnod yma yw'r penllanw.

Gyda'r Tywysog Charles ar ei ffordd o Gaergybi i ymuno gyda gweddill ei deulu yn y trên brenhinol mewn gorsaf ger ffatri Ferodo y tu allan i Gaernarfon, mae John Jenkins wedi ei gyfyngu i'r gwersyll yn Llandwrog lle mae'n aros am fwy o newyddion.

Mae'n gwybod bod tri arall o'i ffrwydron yn eu lle ar gyfer yr achlysur.

Mae dau ohonyn nhw ar strydoedd Caernarfon yn barod i ffrwydro pan fydd Charles yn cael ei gludo mewn cerbyd agored i galon y dref, ac i ganol y dorf, ymhen rhai oriau.

A bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu yn fyw dros y byd.

Mae'r bedwaredd dyfais wedi ei gosod ger pier Llandudno lle bydd Charles yn dod i'r lan y bore canlynol i ddechrau ar daith drwy Gymru.

"... I knew that four groups had been out the night before, but I didn’t know which group had been killed, and it was several hours later that I discovered which group it was."
John Jenkins - The Reluctant Revolutionary? Wyn Thomas

Y bom sydd wedi ffrwydro ydy un oedd yn cael ei gario gan Alwyn Jones a George Taylor ger y rheilffordd yn Abergele. Roedd y trên brenhinol yn cario Elizabeth II a'i theulu i Gymru yn pasio oriau ynghynt.

Wnaeth y ffrwydriad ddim effeithio ar y teulu brenhinol, ond cafodd y ddau ddyn ifanc eu lladd.

Fydd y cyhoedd ddim yn gwybod am fanylion y newyddion yma tan llawer nes ymlaen yn y dydd.

Ond i'r awdurdodau mae hyn yn golygu bod y bygythiadau y mae rhai wedi eu cymryd yn ysgafn hyd yma, bellach yn real.

John Jenkins yn ei lifrau milwrol
John Jenkins yn ei lifrau milwrol
John Jenkins yn ei lifrau milwrol
John Jenkins yn ei lifrau milwrol
John Jenkins yn ei lifrau milwrol
John Jenkins yn ei lifrau milwrol
Map yn dangos lleoliad Caernarfon, y trên brehninol a'r gwersyll milwrol dros dro tu allan i Gaernarfon.
Map yn dangos lleoliad Caernarfon, y trên brehninol a'r gwersyll milwrol dros dro tu allan i Gaernarfon.
Map yn dangos lleoliad Caernarfon, y trên brehninol a'r gwersyll milwrol dros dro tu allan i Gaernarfon.
Map yn dangos lleoliad Caernarfon, y trên brehninol a'r gwersyll milwrol dros dro tu allan i Gaernarfon.

" Roedd un cebl top secret wedi ei redeg ar hyd y rheilffordd"

Côr yr Arwisgiad tu allan i Brifysgol Bangor

Roedd Glyn Robinson yn aelod o Gôr yr Arwisgiad

Roedd Glyn Robinson yn aelod o Gôr yr Arwisgiad

Côr yr Arwisgiad - yn dangos Glyn Robinson
Llun agos o Glyn Robinson yn y côr
Glyn Robinson heddiw, gyda ffeil yn llawn o ddarnau canu'r côr

50 mlynedd yn ddiweddarach mae darnau canu'r côr ar gyfer y diwrnod yn dal ym meddiant Glyn Robinson

50 mlynedd yn ddiweddarach mae darnau canu'r côr ar gyfer y diwrnod yn dal ym meddiant Glyn Robinson

Llun agos o un o'r darnau oedd y côr yn canu

Darlledu dros y byd

Un sy'n gwybod yn dda am y paratoadau diogelwch ar gyfer darlledu'r diwrnod yw Glyn Robinson sy'n gweithio i'r General Post Office (GPO).

Mae hefyd yn aelod o'r côr fydd yn cymryd rhan yn y seremoni.

Ar fore'r Arwisgo, mae'n deffro toc wedi saith y bore ym Mangor.

Dros y misoedd diwethaf, mae Glyn wedi bod yn gwneud gwaith cyfrinachol i wneud yn siŵr nad oes unrhyw beth, neu unrhyw un, yn amharu ar y darllediad teledu o’r diwrnod.

Mae disgwyl i 500 miliwn o bobl wylio’r darllediad o’r Arwisgo dros y byd – hwn fydd un o'r darllediadau allanol byw mwyaf erioed ar deledu lliw hyd yma.

Yn o gamerau y 大象传媒 yn paratoi i ffilmio'r digwyddiad

“’Y ‘ngwaith i ar y pryd oedd gwneud yn siŵr bod y cebls yn dod i fewn i’r castell er mwyn i’r lluniau gael eu dangos i’r byd,” meddai Glyn, 50 mlynedd yn ddiweddarach.

“Roedd pedwar set o cebls - un yn mynd o’r castell i Exchange Caernarfon, un wedyn yn mynd o Gaernarfon i Port, un yn mynd o Gaernarfon i Fangor – ond roedd un cebl oedd yn top secret.

“Roedd wedi ei redeg ar hyd y rheilffordd heb i neb wybod, wedi ei gladdu, rhag ofn bod rhywbeth yn mynd o’i le – rhywun yn torri’r cebls neu’n gosod bom."

Canolfan ddarlledu dros dro oedd wedi ei osod tu allan i'r castell

Canolfan ddarlledu dros dro tu allan i furiau'r castell

Canolfan ddarlledu dros dro tu allan i furiau'r castell

Yn ogystal â chau’r ffyrdd o amgylch tref Caernarfon, roedd y GPO wedi bod yn gludo cloriau eu system tanddaearol o amgylch y dref mor bell â Phorthmadog a Bangor.

“Y broblem oedd fasa un bom wedi malu’r cebls yn hawdd felly fel last resort wnaethon nhw roi’r cebls ychwanegol i fewn rhag ofn," meddai Glyn.

“Un cebl oedd angen – ond roedd ganddyn nhw fwy jest rhag ofn. Mae’n dangos faint o ofn oedd ganddyn nhw i rhywbeth fynd o'i le."

Ond ar fore'r Arwisgo ei hun, y côr sydd ar feddwl Glyn, a'r 300 aelod lleol arall o Gôr yr Arwisgiad sydd wedi bod yn ymarfer ar gyfer y diwrnod ers tri mis.

Maen nhw i gyd wedi aros yn y brifysgol ym Mangor y noson gynt ac ymhen ychydig oriau fe fyddan nhw'n teithio mewn bws i gymryd eu seddi yng Nghastell Caernarfon i fod yn rhan o'r seremoni.

“Do'n i ddim yn ofn, ro'n i’n edrych ymlaen - ond roedd yna rhyw undercurrent achos roedd pobl wedi bod yn siarad cymaint ynglŷn a be' oedden nhw eisiau wneud, roedd gen ti Dafydd Iwan efo’i gân, Carlo, ac roedd yna gynnwrf,” meddai.

Wrth wisgo ei siwt mae Glyn yn edrych ymlaen ond mae’n gwybod cystal â neb am y bygythiad posib.

Protestio

Protest yn erbyn yr arwisgiad tu allan i Gastell Caernarfon

Roedd y canwr Dafydd Iwan a'i ganeuon am 'Carlo' yn un o ffigyrau amlwg y gwrthwynebiad i’r Arwisgo gydag aelodau blaenllaw eraill Cymdeithas yr Iaith yn arwain ralïau a phrotestiadau yn erbyn y digwyddiad.

Roedd yr Arwisgo yn cael ei weld ganddyn nhw fel ymgais i fygu'r twf mewn cenedlaetholdeb oedd wedi datblygu yn y 60au yn sgil trychineb Aberfan a boddi Cwm Celyn.

Protest gwrth-Arwisgiad gan Gymdeithas yr Iaith ar y Cei Llechi, Caernarfon,

Protest gwrth-Arwisgiad gan Gymdeithas yr Iaith ar y Cei Llechi, Caernarfon, Mawrth 1969. Llun: Geoff Charles.

Protest gwrth-Arwisgiad gan Gymdeithas yr Iaith ar y Cei Llechi, Caernarfon,

Iddyn nhw roedd yr Arwisgo yn frad i gof y genedl am Llywelyn ap Gruffudd, y tywysog Cymreig olaf, a laddwyd gan filwyr brenin Lloegr, Edward I, yn 1282.

Ddwy flynedd wedi hynny roedd Edward wedi cyhoeddi yn ei gastell yng Nghaernarfon mai ei fab newydd-anedig, Edward II, fyddai'r Tywysog Cymru newydd - y cyntaf yn y gadwyn o dywysogion ddaeth â ni at 1 Gorffennaf 1969.

Roedd gan John Jenkins ac aelodau Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC) syniadau mwy treisgar ac roedden nhw am ddangos gwrthwynebiad cryfach i'r Arwisgiad.

Ers 1967 roedd y mudiad wedi bod yn gyfrifol am tua 20 o ffwydriadau mewn lleoliadau gwleidyddol symbolaidd.

Tu fewn i'r Deml Heddwch yng Nghaerdydd wedi ffrwydriad

Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd wedi ffrwydriad un o fomiau MAC cyn cyfarfod pwyllgor yr Arwisgo yn 1967

Y Deml Heddwch yng Nghaerdydd wedi ffrwydriad un o fomiau MAC

1911 a 'thraddodiad' yr Arwisgo

Ond lleiafrif oedd yn gwrthwynebu'r Arwisgo.

I'r cefnogwyr roedd hwn yn gyfle gwirioneddol i Gymru, yn hwb economaidd ac yn fraint a chydnabyddiaeth i Gymru gan y Goron.

Rhoddwyd pwyslais ar gysylltiad teuluol y Tywysog Charles gyda’r brenin Harri Tudur o linach Tuduriaid Môn, a thrwy hynny gyda Llywelyn Fawr, yn ôl yr achau.

Trefnwyd bod y Tywysog Charles yn treulio tymor ym Mhrifysgol Aberystwyth i ddod i ddeall Cymru'n well a dysgu Cymraeg.

Roedd gobeithion y byddai'r tywysog ifanc yn gwneud ei gartref yng Nghymru ac yn cynrychioli Cymru dros y byd.

Roedd seremoni Arwisgo Tywysog Cymru wedi ei dyfeisio yn 1911 pan gafwyd y seremoni gyntaf yng Nghaernarfon i Edward VIII.

Arwisgiad Edward VII yng Nghastell Caernarfon 1911

Arwisgiad Edward VIII yng Nghastell Caernarfon 1911

Arwisgiad Edward VIII yng Nghastell Caernarfon 1911

Roedd Lloyd George, oedd yn Ganghellor ar y pryd, yn allweddol i'r seremoni honno ac yn un o'i ffigyrau amlycaf.

Cyn hynny teitl anrhydeddus yn unig oedd hi a doedd neb wedi ei dal ers 200 mlynedd.

Pan ddilynodd Charles yn ôl troed ei hen ewythr Edward VIII yn 1969 roedd eisoes yn Dywysog Cymru ers 1958 - Tywysog Cymru a Iarll Caer i roi'r teitl llawn. Arwyddocâd seremonïol yn unig oedd i'r diwrnod.

Erbyn canol y bore ar y diwrnod hwnnw roedd gwesteion o bedwar ban byd yn cyrraedd i fod yn rhan o'r seremoni honno.

Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni
Un o'r protestiadau gwrth-arwisgiad gafodd eu cynnal yn y misoedd cyn y seremoni

10:00

Agor drysau'r castell

Cynllun o Gastell Caernarfon ar ddiwrnod yr Arwisgo

Am ddeg y bore ar ei ben mae’r castell yn agor i’r gwesteion ac mae’r newyddiadurwyr, y darlledwyr, y sylwebwyr a'r camerâu i gyd yn eu lle.

Gohebwyr tu fewn i'r castell yn paratoi i ddarlledu Seremoni'r Arwisgo

Mae Glyn Robinson hefyd yn cyrraedd gyda’r côr ac maen nhw'n cymryd eu lle yn eu seddi arbennig yn brydlon.

Wrth i'r dorf dyfu ar Faes y dref, mae'r gwahoddedigion sy'n cyrraedd yn cynnwys Swltan Brunei; y Prif Weinidog Harold Wilson; arweinydd y Ceidwadwyr, Edward Heath; Tricia Nixon, merch arlywydd yr Unol Daleithiau, Richard Nixon, a chynrychiolwyr o deuluoedd brenhinol Ewrop.

Syr Edward Heath yn cyrraedd Caernarfon ar gyfer y seremoni

Daeth Syr Edward Heath yn Brif Weinidog y flwyddyn wedi'r Arwisgo

Daeth Syr Edward Heath yn Brif Weinidog y flwyddyn wedi'r Arwisgo

Yr Athro T.H. Parry Williams ac aelodau eraill o'r prosesiwn

Yr Athro TH Parry Williams yn paratoi ar gyfer yr orymdaith. Llun: Geoff Charles/Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yr Athro TH Parry Williams yn paratoi ar gyfer yr orymdaith. Llun: Geoff Charles/LlGC

Yn eu canol mae cynrychiolwyr Gorsedd y Beirdd, mudiad ieuenctid yr Urdd a Phrifysgol Cymru, gan gynnwys yr Archdderwydd Gwyndaf, y cyn Archdderwydd Cynan, a'r bardd TH Parry-Williams.

Mae pob un o Aelodau Seneddol Cymru, ar wahân i Gwynfor Evans o Blaid Cymru, wedi derbyn y gwahoddiad.

Mae parodrwydd y sefydliadau Cymraeg i fod yn rhan o'r Arwisgo wedi creu rhwyg ymysg cenedlaetholwyr Cymru a dydi pawb ddim yn hapus i'r diwrnod fynd yn ei flaen heb ddangos eu hanfodlonrwydd.

12:00

Cyffro a thensiwn

Y dorf tu allan i Gastell Caernarfon yn disgwyl i'r teulu brenhinol gyrraedd

Yn y dref mae tensiynau'n dechrau codi wrth i'r swyddogion diogelwch ddechrau paratoi at ran mwyaf peryglus y dydd.

Ymhen dwyawr bydd y teulu brenhinol yn dechrau ar eu taith i mewn i'r dref o safle ffatri Ferodo ar y cyrion.

Bwriad i brotestio

Yn cyrraedd Caernarfon o Sir y Fflint mae dau aelod ifanc o Gymdeithas yr Iaith sydd eisoes wedi gwrthwynebu presenoldeb y Tywysog Charles ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Eu bwriad ydy creu protest o flaen ei gerbyd ar ei orymdaith drwy'r dref.

Protestwyr gyda baner Y Ddraig Goch yn edrych allan drwy ffenestr ac yn codi llaw

Roedd Ieuan Bryn (chwith) a Ffred Ffransis (dde) wedi bod yn ymprydio i wrthwynebu presenoldeb y Tywysog Charles ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llun: Ron Davies

Roedd Ieuan Bryn (chwith) a Ffred Ffransis (dde) wedi bod yn ymprydio yn erbyn presenoldeb y Tywysog Charles ym Mhrifysgol Aberystwyth. Llun: Ron Davies

"...wnaeth y ddau ohonon ni gyrraedd yr Arwisgo ar y dydd Mawrth, mewn i Gaernarfon yn y bore a clywed bod hi’n sefyllfa annifyr ofnadwy," meddai Ffred Ffransis.

Roedd 200,000 o bobl wedi dod i arwisgiad 1911 ac roedd disgwyl i'r un faint ddod yn 1969. Ond hanner hynny oedd yn y dref.

"Doedd dim hanner cymaint o bobl ag oedden nhw’n disgwyl yng Nghaernarfon," meddai Ffred Ffransis.

"Y rheswm roedd llai oedd bod y sefyllfa yn un annifyr, roedd adroddiadau yn dod fewn yn raddol bod ffrwydron a bod pobl wedi eu lladd dros nos.

"Roedd lot o bobl ar y ddwy ochr yn cadw i ffwrdd oherwydd hynny, a ddim eisiau bod yn rhan o rywbeth annifyr fel yna."

Dyn yn cael ei dywys i ffwrdd gan blismyn
Plant yn dathlu mewn gwisg draddodiadol Cymreig

Mae Charles yn gwneud ei ffordd o Gaergybi i gwrdd â gweddill y teulu brehinol yn yr orsaf yn Griffiths Crossing ger ffatri Ferodo.

Oherwydd yr ofnau mae trên gwag wedi ei drefnu i gyrraedd o flaen y trên go iawn.

Mae 'na ambell fân gythrwfl rhwng yr heddlu ac unigolion yn y dorf, ac yn y gwersylloedd milwrol mae'r swyddogion yn barod, rhag ofn.

Ond i'r mwyafrif yng Nghaernarfon y p'nawn hwnnw roedd yna ddathlu ac edrych ymlaen mawr i weld y Tywysog Charles a'r Frenhines yn cyrraedd.

Criw o blant ac oedolion yn dathlu gyda baneri ger y Catell
Swyddog diogelwch yn cadw llygaid ar y dorf gyda'i sbienddrych
Yr heddlu yn cario dyn i ffwrdd wrth i'r dorf geisio gweld beth sy'n digwydd
Llun du a gwyn o lwyfan yr arwisgo - a rhai o'r gynulleidfa yn dechrau cyrraedd
Llun lliw o lwyfan yr arwisgo - a rhai o'r gynulleidfa yn dechrau cyrraedd
Tricia Nixon, merch yr Arlywydd Richard Nixon, a Thywysoges Lwcsembwrg
Rhai o westeion yr Arwisgo yn disgwyl i'r seremoni ddechrau
Criw o blant ac oedolion yn dathlu gyda baneri ger y Catell
Swyddog diogelwch yn cadw llygaid ar y dorf gyda'i sbienddrych
Yr heddlu yn cario dyn i ffwrdd wrth i'r dorf geisio gweld beth sy'n digwydd
Llun du a gwyn o lwyfan yr arwisgo - a rhai o'r gynulleidfa yn dechrau cyrraedd
Llun lliw o lwyfan yr arwisgo - a rhai o'r gynulleidfa yn dechrau cyrraedd
Tricia Nixon, merch yr Arlywydd Richard Nixon, a Thywysoges Lwcsembwrg
Rhai o westeion yr Arwisgo yn disgwyl i'r seremoni ddechrau

13:15

Y prosesiwn yn dechrau

Y Frenhines a'r Dug Caeredin yn codi llaw ar y dorf yn ystod y prosesiwn i Gastell Caernarfon

"Ein bwriad oedd mynd dros y ffens a stopio'r car"

Arfbais Tywysog Cymru
Aelodau Gorsedd y Beirdd yn ystod yr orymdaith
Y Tywysog Charles a'i chwaer y Dywysoges Anne tu allan i'r tren brenhinol

13:15

Am chwarter wedi un mae'r castell yn cau i bawb ond y rhai sy’n cymryd rhan yn y sermoni ac mae'r prosesiwn yn dechrau o Neuadd y Sir yn y dref tuag at y castell gan ddechrau gyda'r Meiri, gweinidogion ac offeiriad blaenllaw, "arglwyddi a gwŷr bonedd", aelodau Gorsedd y Beirdd a Gwarchodlu’r Frenhines.

Draw ger ffatri Ferodo yng ngorsaf Griffiths Crossing mae'r teulu brenhinol wedi camu oddi ar y trên brenhinol i gael eu cyfarch gan y Gwarchodlu Cymreig.

14:15

Mae’r Tywysog Charles yn cychwyn ei orymdaith o Ferodo mewn cerbyd agored sy’n cael ei dynnu gan geffylau. Yn eistedd gyferbyn yn mwynhau ei foment fawr, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, George Thomas.

Yn uchel ar dyrrau'r castell mae swyddogion arfog yn cadw llygad barcud ar y dorf oddi tanynt.

Mae Ffred Ffransis a Ieuan Bryn yn aros eu cyfle.

"Ein bwriad ni oedd mynd dros y ffens a stopio’r car," meddai Ffred Ffransis.

"Ond awr cyn bod nhw’n dod dyma ni’n gweld bod milwyr yn leinio fyny ar ddwy ochr y ffordd, yr holl ffordd – tua ¾ milltir - i gyd efo gwaywffyn agored.

"Byddai'n rhaid dringo dros y ffens a dringo dros y gwaywffyn, oedd ddim yn mynd i ddigwydd felly wnaethon ni jest gweiddi petha’n bwdlyd."

Y dorf tu allan i'r castsell, a llinell o filwyr o'u blaen

Yn Llandwrog mae John Jenkins yn aros ac yn gwylio'r cloc.

Mae’n gwybod pa gyfarwyddiadau a roddodd i aelodau lleol MAC naw diwrnod ynghynt wrth drosglwyddo’r ffrwydron iddyn nhw.

Mae’n gwybod beth yw amserlen y dydd a bod Charles ar ei ffordd.

Fe ddylai un o'i fomiau ffrwydro cyn hir.

14:20

Wrth i Charles a George Thomas ddod yn nes at y Maes ar hyd Ffordd Bangor maen nhw’n pasio o fewn llathenni i siop haearnwerthwyr, lle mae siop fara heddiw.

Y stryd lle gafodd un o'r bomiau eu gosod

Mae dyfais wedi ei gosod dan faril olew yn iard y siop yma. Gyferbyn â’r iard, ar stryd ochr, mae’r Institiwt – cartref Cyngor Tref Frenhinol Caernarfon sy'n gefnogwyr brwd o'r Arwisgo.

Yng nghrombil yr adeilad yma mae’r Siarter a’r Sêl Brenhinol a roddwyd i'r dref gan Edward I yn 1284 ar enedigaeth ei fab Edward II yn y castell a gododd i gadw rheolaeth ar y Cymry.

Mae'r Tywysog Charles ar ei ffordd i gael ei gyflwyno i'r Cymry yn yr union gastell.

Ond dydi'r bom ddim yn ffrwydro fel mae i fod i wneud.

Yn lle hynny, mae'r ddyfais yn aros heb ei darganfod yn yr iard gyda chanlyniadau trychinebus i un bachgen bach maes o law...

14:25

Yna, mae un rhan o gynllwyn Jenkins yn dod i ffrwyth.

Gyda Charles yn dynesu drwy’r dorf at Borth y Dŵr ar lan y Fenai, mae’r Frenhines a Dug Caeredin gydag aelodau eraill y teulu brenhinol, yn gadael Ferodo yn eu cerbydau nhw.

Yn y pellter, mae ‘na sŵn ffrwydriad dros y dref.

"Jest cyn iddo gyrraedd, wnaethon ni glywed rhyw bang yn y pellter," meddai Ffred Ffransis.

Mae'r swyddogion diogelwch, y sylwebwyr sy’n darlledu’n fyw a’r Tywysog Charles ei hun wedi clywed hefyd.

"Peculiar people up here, Sir"

Mae Charles yn edrych ar yr Ysgrifennydd Gwladol gyferbyn ag ef ac yn gofyn “What was that Mr Thomas?"

Royal salute Prince Charles,” meddai George Thomas.

Peculiar royal salute?" meddai'r Tywysog.

Peculiar people up here, Sir,” atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol.

Yna mae 21 dryll arall yn cael eu tanio – dyma’r salíwt traddodiadol i groesawu’r Frenhines.

Ond un o ddyfeisiau John Jenkins oedd y ' salíwt ' cyntaf wnaeth greu 22 ergyd.

Roedd y bom yma wedi ei osod yng ngardd Prif Gwnstabl Gwynedd ar lwybr Love Lane ac yn cefnu ar y rheilffordd lle roedd y trên brenhinol wedi ei barcio erbyn hyn.

Stryd Love Lane yng Nghaernarfon lle gosodwyd un o'r bomiau

Doedd yr un o'r ddwy ddyfais a osodwyd yn y dref yn ddigon mawr i anafu'r Tywysog.

Yn ôl John Jenkins y bwriad oedd amharu ar y prosesiwn, drwy ddychryn y ceffylau o bosib, ond roedd y ddyfais a ffrwydrodd yn rhy bell i wneud hynny hyd yn oed.

Love Lane lle ffrwydrodd un o ddyfeisiau John Jenkins

Ond mae'r pryder yn dal yn real.

Mae'r Tywysog yn dal i chwifio wrth basio heibio'r môr o wynebau lathenni oddi wrtho ac mae'r ceffylau yn ei gludo drwy’r strydoedd cul i mewn i’r hen dref â’i muriau uchel llawn hanes.

Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Y Tywysog Charles yn ei gerbyd agored ar ei ffordd i'r castell
Map yn dangos lleoliad y bomiau a llwybr y prosesiwn
Map yn dangos lleoliad y bomiau a llwybr y prosesiwn
Map yn dangos lleoliad y bomiau a llwybr y prosesiwn
Map yn dangos lleoliad y bomiau a llwybr y prosesiwn
Map yn dangos lleoliad y bomiau a llwybr y prosesiwn

Wrth i Charles gyrraedd y castell, mae’r Frenhines ar ei ffordd.

Yn ôl rhai mae yna sŵn bŵian ac mae afal yn cael ei daflu at gerbyd y Frenhines. Ond mae'r mwyafrif yn chwifio baneri a chymeradwyo.

Wedi iddyn nhw guro’n seremonïol ar ddrws pren Porth y Dŵr mae’r theatr yn dechrau.

Yn ganolbwynt i'r cyfan mae'r goron, wedi ei chreu yn arbennig i'r achlysur â'r belen aur ar y top wedi ei gwneud o bêl ping-pong wedi ei gorchuddio â haen denau o aur.

Ar ben un o’r tyrrau’n gwylio mae un o’r ychydig heddweision o Gymru sydd ar ddyletswydd ar y diwrnod, Elfyn Williams.

Mae ganddo wn a 12 rownd o fwledi mewn briffces wrth ei draed.

O amgylch canolbwynt y seremoni lle mae Charles yn cael ei goroni gan ei fam, mae cynrychiolwyr y fyddin a swyddogion diogelwch wedi eu harfogi.

Swyddog diogelwch yn y castell yn cadw golwg

Mae'r Tywysog yn rhoi anerchiad yn Gymraeg, mae'r emyn 'Cofia'n Gwlad benllywydd tirion' yn cael ei chanu dan arweiniad yr Archdderwydd, Gwyndaf, ac mae aelodau o Gôr Godre'r Aran a Chôr yr Arwisgiad yn cyflwyno rhaglen gerddorol.

I Glyn Robinson yn y côr mae'r achlysur yn un bendigedig.

“Aeth bob dim yn ocê. Nes i fwynhau, 'argian do, roedd yn brofiad," meddai.

"Wnes i ddim clywed dim ffrwydriad na dim byd – dim ond canolbwyntio ar y canu."

Ond yn ôl adroddiadau roedd pryder wedi ei fynegi gan aelodau blaenllaw y teulu brenhinol am ddiogelwch y Tywysog Charles.

Mae Elystan Morgan, AS Ceredigion, sydd wedi dod i Gaernarfon er gwaethaf negeseuon yn bygwth ei fywyd, yn edrych i fyny ar y tyrrau uchel ac yn teimlo’n nerfus.

“Y cyfan fyddech chi ei angen fyddai bom morter wedi ei anelu'n dda 500 llath o’r castell...” meddai mewn cyfweliad gyda’r 大象传媒 yn 2009.

“Roedd yr awyrgylch yn llawn tensiwn.”

I Elfyn Williams a gweddill y swyddogion diogelwch, mae ail ran perycla’r diwrnod yn dod.

Y Frenhines a'r Tywysog yn cerdded tuag at Borth y Frenhines

Mae Charles i gael ei gyflwyno i’r dorf o Borth y Frenhines, lle mae balconi arbennig wedi ei greu at yr achlysur.

Fe fyddai rhai'n gweld hyn fel adlais bwriadol o 1284 pan gyflwynodd Edward I ei fab i'r Cymry roedd wedi eu concro.

O’r tŵr mae Elfyn Williams yn gweld Charles yn cael ei arwain allan ar y balconi.

"Nes i ddweud 'ydi o am ddod nôl yn fyw?'," meddai mewn cyfweliad gyda'r 大象传媒 yn 2009.

“Roedd mewn lle agored iawn."

Y Frenhines yn cyflwyno ei mab i'r dorf fel Tywysog Cymru

Tra roedd ar y balconi agored doedd neb yn gallu sicrhau y byddai’n ddiogel.

Everyone held their breath, including the Royal party until the thing was over,” meddai George Thomas.

Ond mae'r dorf yn bloeddio wrth i'r Frenhines gyflwyno tywysog newydd Cymru.

Y Tywysog Charles yn cyrraedd y castell
Y Tywysog Charles yn penlinio yn ystod y seremoni
Cor yr Arwisgo yn perfformio
Y Frenhines yn gosod y goron ar ben ei mab

18:00

Y Siom a'r Dathlu

Arfbais plu Tywysog Cymru ar ben gwahoddiad i'r ddawns

Yn siomedig eu bod wedi methu tarfu ar y prosesiwn cafodd Ieuan Bryn a Ffred Ffransis eu holi gan yr heddlu wedi'r Arwisgo.

Cawsant wybod eu bod wedi bod yn eu gwylio yr holl amser roedden nhw yng Nghaernarfon - a chael cynnig lifft nôl i’r Rhyl.

Aeth y Tywysog Charles nôl ar fwrdd y Llong Frenhinol. Roedd angen noson gynnar arno gan y byddai'n camu oddi ar y llong yn Llandudno y bore canlynol i gychwyn taith drwy Gymru.

Ond wrth iddi nosi ar dref Caernarfon dydi'r parti ddim ar ben i rai o westeion yr Arwisgiad.

Mae dawns i bara drwy'r nos wedi ei threfnu ym Mhlasty Glynllifon yng nghwmni’r Dywysgoes Margaret, Iarlles Snowdon a’i gŵr, Iarll Snowdon.

Mae'r ddawns yn dechrau am 21:30 ac yn gorffen am 04:00 y bore canlynol.

Yn ôl chwedloniaeth fe yfwyd y bar yn sych hanner ffordd drwy’r noson a daeth rhywun i'r adwy â chyflenwad brys o siampên.

Torrodd y cyflenwad trydan a throdd yr arlwy gerddorol gan unawdwyr y seremoni yn fwy anffurfiol a choch yn y cyfamser yn ôl Arwel Vittle yn ei gyfrol Dim Croeso '69.

Gwta filltir o Lynllifon roedd pebyll y fyddin.

Dim ond wrth glywed newyddion chwech o'r gloch fin nos yn y gwersyll mae John Jenkins yn cael ar ddeall pwy gafodd eu lladd yn Abergele yn noson flaenorol.

"It was the most difficult day of my life, because I had to act as if nothing had happened. I had to carry on and laugh and drink with them all, and joke about it … it cut me in half."
John Jenkins - The Reluctant Revolutionary? Wyn Thomas

Yn nhref Caernarfon mae'r tyrfaoedd wedi mynd ond mae'r tafarndai'n llawn.

Mae un ffrwydriad arall yn tarfu ar y noson: mae un o faniau’r fyddin ar dân wrth waliau’r Castell.

Cafodd milwr oedd yn y fan ei ladd y noson honno. Yn ôl yr awdurdodau cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y ffrwydriad yma.

Rhaglen Dawns yr Arwisgo
Bwydlen Dawns yr Arwisgo
Trefn noson Dawns yr Arwisgo

Ar ôl yr Arwisgo

Y Tywysog Charles a'r teulu brenhinol yn teithio drwy'r dorf wedi'r Arwisgo

Y diwrnod wedi’r Arwisgo cychwynnodd y Tywysog Charles ar daith fawreddog o Gymru ac aeth John Jenkins adre i Wrecsam a thorri lawr o flaen ei wraig a chyfadde’r cyfan wrthi.

Ni ffrwydrodd y bom ar bier Llandudno. Mae'r heddlu'n gwadu bod un wedi ei ddarganfod yno.

Yn ôl John Jenkins, doedd gan MAC ddim bwriad i niweidio’r Tywysog na neb arall ar ddiwrnod yr Arwisgo – bwriad yr ymgyrch oedd dychryn a chreu panig ymhlith yr awdurdodau i ddangos bod elfennau yng Nghymru oedd o ddifri' ynglŷn â gwrthwynebu'r wladwriaeth Brydeinig.

"It was intended as a small, symbolic explosion – a gesture," meddai am y bom cyntaf osodwyd yn y dref yn y gyfrol John Jenkins - A Reluctant Revolutionary? gan Wyn Thomas.

"That’s what all of them were."

Niweidio

Ond, fe fyddai yna ddioddefwyr.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, ar 5 Gorffennaf, fe wnaeth y ddyfais oedd wedi ei gosod tu ôl i'r siop ar Ffordd Bangor yng Nghaernarfon ffrwydro ac anafu bachgen bach 10 oed o’r enw Ian Cox oedd ar ei wyliau o Loegr.

Roedd wedi neidio dros y wal i’r iard i nôl ei bêl. Fe gollodd y bachgen ei goes dde a dioddef llosgiadau drwg i'w goes chwith.

Cafodd anafiadau hefyd i'w wyneb a rhan helaeth o'i gorff a bu raid iddo gael 10 mlynedd o lawdriniaethau poenus.

Ian Cox, yn yr ysbyty wedi iddo gael ei anafu

Mewn cyfweliad gyda'r hanesydd Wyn Thomas ar gyfer ei gyfrol Hands Off Wales, dywedodd Ian Cox - a aeth ymlaen i redeg tafarn lwyddiannus yn Sir Buckingham - nad oedd ganddo unrhyw gydymdeimlad ag achos Mudiad Amddiffyn Cymru.

Mae teulu George Taylor a laddwyd gydag Alwyn Jones yn Abergele yn gwadu’n llwyr ei fod yn aelod o MAC – roedd yn ceisio perswadio Alwyn Jones i beidio gosod y ddyfais pan ffrwydrodd ar ddamwain, yn ôl y teulu.

Dywedodd merch George Taylor wrth Wyn Thomas ei bod wedi ei bwlio gan blant ac athrawon yn yr ysgol a bod y teulu wedi dioddef gan agweddau'r gymuned tuag atyn nhw wedi marwolaeth gŵr a thad annwyl.

Arestio

Ym mis Tachwedd 1969 cafodd John Jenkins ei arestio ar ôl i rywun roi gwybod amdano i'r awdurdodau.

Cafodd ei garcharu am 10 mlynedd am ei ran yn yr ymgyrch fomio, ond aeth neb i'r carchar am osod nifer o'r ffrwydron - yn cynnwys y ddau yng Nghaernarfon.

Daeth priodas John Jenkins i ben, collodd ei deulu eu cartref a thyfodd ei feibion heb eu tad.

Cafodd John Jenkins ei garcharu am ddifrodi'r bibell yma yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1967

Cafodd John Jenkins ei garcharu am ddifrodi'r bibell yma yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1967

Wedi gadael y carchar ail-hyfforddodd i fod yn weithiwr cymdeithasol a gweithiodd ym maes gofal cymdeithasol hyd nes ymddeol yn 2009.

Bellach yn 86 mlwydd oed, mae'n byw mewn cartref gofal yn Wrecsam.

Mae'n difaru'r niwed achoswyd i unigolion yn sgil ei ymgyrch, meddai, ond dydi o ddim yn difaru'r ymgyrch ei hun - mae'n credu iddo ef a MAC wneud y peth iawn dros Gymru.

"... while I do have many reasons to be regretful, I have to believe I was right to do what I did... I don’t regret doing what I believe I had to do – and what I believe needed to be done."
John Jenkins - A Reluctant Revolutionary? Wyn Thomas

Mae'r Tywysog Charles wedi bod yn Dywysog Cymru ers 61 o flynyddoedd - y tywysog sydd wedi dal y teitl hiraf.

Yn ôl yr hanesydd John Ellis, awdur astudiaeth fanwl ar Arwisgo 1911 a 1969, fe beidiodd unrhyw gysylltiad ystyrlon rhwng y Tywysog Charles a Chymru wedi'r Arwisgo.

Dywed Mr Ellis fod y Palas wedi gofyn i'r Swyddfa Gymreig roi'r gorau i anfon bwletinau am faterion Cymreig ato mor gynnar ag 1971.

Ond fe wnaeth y Tywysog Charles brynu cartref yng Nghymru, 40 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae wedi defnyddio stad Llwynywermod ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin fel lle i aros yn achlysurol pan mae'n ymweld â Chymru.

Mae Ffred Ffransis wedi treulio ei oes yn ymgyrchu dros y Gymraeg. Wrth edrych yn ôl ar 1969 mae'n credu ei bod wedi bod werth protestio.

"Ro'n i’n teimlo’n ddigalon bod o wedi dod i hyn ac roedd gen i gywilydd o Gymru... Ond roedden ni’n meddwl bod isho rhywbeth ar y diwrnod... ond roedd y gwaywffyn yn gwneud hynny bach yn anymarferol.

"Mae'n bwysig bod pobl yn edrych yn ôl ac yn ystyried bod tystiolaeth bod protestio wedi bod ac nad oedd pawb dan y fawd."

Y Tywysog Charles a'i fab hynaf William

Y Tywysog Charles a'i fab hynaf William

Y Tywysog Charles a'i fab hynaf William

Yn ôl traddodiad y teulu brenhinol, y Tywysog William yw'r etifedd fyddai â'r hawl i dderbyn teitl Tywysog Cymru oddi wrth ei dad, os daw Charles yn frenin.

Amser a ddengys a fydd crachen 1969 yn cael ei chodi eto.

Y Tywysog Charles ar ei daith o gwmpas Cymru wedi'r Arwisgo

Y Tywysog Charles ar ei daith o gwmpas Cymru wedi'r Arwisgo

Y Tywysog Charles ar ei daith o gwmpas Cymru wedi'r Arwisgo

John Jenkins

John Jenkins wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar. Llun: Robat Gruffudd

Llun o John Jenkins gan Robat Gruffudd

Cydnabyddiaeth:

Cynhyrchu: Bryn Jones ac Elin Meredith

Ffynonellau: Archif 大象传媒 Cymru; dogfennau'r Arwisgo; Hands Off Wales, Wyn Thomas; John Jenkins - The Reluctant Revolutionary? Wyn Thomas; Dim Croeso '69 - Gwrthsefyll yr Arwisgo, Arwel Vittle; Investiture - Royal Ceremony and National Identity in Wales, 1911 - 1969, John S. Ellis; Glyn Robinson; Elin Rhys; Ffred Ffransis.

Lluniau: Getty Archive ; Casgliad Geoff Charles, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Teulu John Jenkins; Robat Gruffudd; Ron Davies; Y Cymro; 大象传媒.

Diolch i Wyn Thomas, Arwel Vittle, Y Lolfa, Glyn Robinson, Ffred Ffransis, Elin Rhys, Rhodri Aled Evans.

Mae hawlfraint ar bob llun.