大象传媒

Dileu tlodi plant erbyn 2020?

Cymorth

Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am fynd i'r afael 芒 thlodi wedi cwestiynu ymrwymiad ei llywodraeth ei hun i ddileu tlodi plant erbyn 2020.

Bu'r ACau yn gwrando ar dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC yn ystod y Pwyllgor Llywodraeth Leol, Cymunedau a Chydraddoldeb, ar 14 Ionawr 2015.

Dywedodd ei bod yn ansicr a allai'r llywodraeth gadw ei haddewid.

Wrth ymateb i gwestiwn gan AC Llafur, Alun Davies yngl欧n 芒 lleihau tlodi plant yng Nghymru, dywedodd Ms Griffiths ei bod hi'n "cwestiynu" yr ymrwymiad.

Mae'r addewid yn dyddio'n 么l i gytundeb Cymru'n Un yn 2007, serch hynny, yn ystod y cyfarfod dywedodd y gweinidog: "Ein nod yw dileu tlodi plant erbyn 2020 ond rwyf wedi cwestiynu hynny.

"Rwy'n credu ei fod yn hollol gywir i ddweud mai ein nod yw dileu tlodi plant erbyn 2020. Mae'r ymgynghoriad yn dweud wrthyf bod angen i ni fod yn onest iawn am hyn. Mae angen i ni fod yn bragmatig iawn am hyn, ac nad yw'n gant y cant ar hyn o bryd os y dylem barhau".

Ar hyn o bryd mae llywodraeth Cymru yn ystyried newid ei strategaeth tlodi plant. Mae ymgynghoriad cyhoeddus arno yn gorffen mewn pythefnos.

Ychwanegodd Ms Griffiths: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig nad yw pobl yn tynnu sylw oddi ar y gwaith maen nhw'n ei wneud... ond mae'n gymhleth iawn...ond yr wyf yn meddwl ein bod yn gwneud gwahaniaeth."

Gofynnodd Alun Davies am dystiolaeth "ystadegol", yn hytrach na "thystiolaeth anecdotaidd" i ddangos bod strategaeth y llywodraeth i ddileu tlodi plant yng Nghymru "yn gweithio".

Mynnodd y gweinidog bod eu hadroddiadau blynyddol yn dangos bod targedau'r llywodraeth yn helpu "lleihau tlodi".

Cyfeiriodd y Ceidwadwr Mark Isherwood at adroddiad blynyddol comisiwn tlodi plant a symudoledd cymdeithasol llywodraeth y DU y llynedd, wedi'i gadeirio gan y cyn-weinidog Llafur, Alan Milburn, a ddywedodd bod disgyblion tlawd yng Nghymru "ar ei h么l hi" i gymharu 芒 rhannau eraill Prydain.

Dywedodd y gweinidog ei bod yn "hapus i edrych ar arferion gorau, ond y mae rhai o'n rhaglenni ni yn arfer gorau a dwi'n gobeithio bod eraill yn edrych arnynt".

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol