大象传媒

Betsan Powys announces new vision for 大象传媒 Radio Cymru to broaden the station's appeal

Betsan Powys, 大象传媒 Radio Cymru’s Programme Editor, has announced her vision and strategic plan to make the station more relevant to the people of Wales, saying, “there’ll be a range of voices on the station, each one someone’s favourite, and each one speaking someone’s Welsh.”

Published: 21 November 2013
So, we’ll be broadening the appeal and accepting that not every programme will be to everyone’s taste. But every programme will be there for a reason and for someone. There’ll be a range of voices on the station, each one someone’s favourite, and each one speaking someone’s Welsh."
— Betsan Powys, Programme Editor, 大象传媒 Radio Cymru
  • Radio Cymru is ‘Llais Cymru’ - reflecting the whole nation and the lives of people across the country
  • Shân Cothi and Tommo to join the station in the spring
  • Dylan Jones to present a new programme staying on air after Post Cyntaf

Betsan Powys, 大象传媒 Radio Cymru’s Programme Editor, has announced her vision and strategic plan to make the station more relevant to the people of Wales, saying, “there’ll be a range of voices on the station, each one someone’s favourite, and each one speaking someone’s Welsh.”

Her announcement, which emphasises the importance of reflecting the richness of the nation’s life and giving the people of Wales a voice, comes following the Sgwrs which coincided with the biggest ever radio research project in Wales.

Announcing her vision, Betsan Powys said: “Reflecting the richness of your lives, the range of your opinions and tastes will be the aim of Radio Cymru, and as they are – thankfully – broad, we have to now make a start on broadening the appeal of the station."

Radio Cymru’s weekday schedule will change in the spring with new presenters joining the station – Tommo, the broadcaster from the world of commercial radio, will present a new afternoon show from Monday to Thursday and Shân Cothi will present a new morning show called ‘Bore Cothi’. The sound of the early morning will change with Dylan Jones staying on air to present a new programme after Post Cyntaf until 10am, putting the world to rights, discussing both significant issues and those less so with the listeners, and broadcasting early audience requests.

Betsan Powys paid tribute to those presenters who won’t be heard as often on the station, thanking them for their dedication and hard work. She outlined how the changes would broaden the appeal of the station:

“In future, this will be Radio Cymru’s message to you: if you want to hear something new about the Wales you live in, and the world it’s part of, turn to Radio Cymru in the morning. Listen to us at lunchtime so we can challenge and enrich what you already know. There’ll be an important place for questioning and probing - another valuable echo from the past - which will be the station’s sound over lunch. In the afternoon, we’ll have some fun with competitions, music, comedy and laughs. After an hour of news – and the best bits of the day’s broadcasting – come and try something new, specialist, appealing, before spending the night with the familiar.

“So, we’ll be broadening the appeal and accepting that not every programme will be to everyone’s taste. But every programme will be there for a reason and for someone. There’ll be a range of voices on the station, each one someone’s favourite, and each one speaking someone’s Welsh.

“If we can persuade you to stay with us throughout the day, as we broadcast from Bangor, Cardiff, Carmarthen and Aberystwyth – then that’s a bonus! We’ll do our best.”

Tommo – Andrew Thomas from Cardigan – will be one of the station’s main new voices alongside the national broadcaster Shân Cothi.

Tommo said: “Being given a show on Radio Cymru is like winning a cap for Wales – I’ve worked hard for the local team and now I get to play for the national team! It’s fantastic! I’m looking forward to getting to know everyone and meeting Radio Cymru’s fans! There’ll be lots of fun and laughs and music on the new show and I want to make sure that everyone enjoys it – I won’t let the Wales team down!”

Tommo’s afternoon show will be full of fun, jokes and music – the best of Welsh language popular music from the Sixties to the present day.

Betsan Powys stressed that nurturing a ‘music sound’ for the station was crucial for Radio Cymru: “With a helping hand from the Radio Cymru team, I want to see the station nurture a ‘music sound’ that’s consistent, not monotonous, varied, not random and uncomfortable to listen to. This was a strong message that came from the Sgwrs. Radio Cymru will continue to be the destination of choice for those who want to hear new music, but only the best – and those songs will be played and celebrated during the daytime hours. Beyond the peak hours we will be specialising, innovating and offering a different musical experience.

“The Sgwrs findings agreed that Radio Cymru should play mostly Welsh language music. You said there was room for some English language music but not too much. So that’s how it will be.”

She also said that she’d given serious consideration to another question that arose during the Sgwrs - was there a need for a second Welsh-language national station?

“Personally, I believe that a second Welsh language national station – whether the 大象传媒 has a part to play in setting it up and running it or not - would be of benefit to Radio Cymru. But it’s better to be honest and straight about this from the start. 大象传媒 Cymru’s budget to broadcast in both Welsh and English has reduced substantially, and even though DAB - digital radio - is gradually reaching more and more communities and offering an opportunity to split the service every now and again, that technology doesn’t offer an easy answer. Most people listen to Radio Cymru on FM and that’s unlikely to change for some time to come.

“If the purpose of a second station would be to offer choice to the listeners – well rather than lose heart, is there another way of offering that choice? In a word, yes.

“The first step is this: 大象传媒 Wales will be launching a brand new Welsh-language digital service early in 2014. The hope is that the service, ‘Cymru Fyw’, will bring the best of the 大象传媒’s digital content to you – including news and other stories and that content will be available on computers and mobile devices such as phones and tablets. Radio Cymru will be reflected by Cymru Fyw. Yes, it’s a happy and productive coincidence.

“Listening over the web also offers a choice. With this in mind, I’ve started examining whether it would be possible to create a ‘jukebox’ of Welsh language music on the web – a one-stop shop for the best of Welsh language music, 24 hours a day, seven days a week.

“If Radio Cymru listeners feel that they have ownership of the station in the future, that to me will be an important measure of success.”

Notes to Editors

Details of the new Radio Cymru weekday schedule to be a launched in the spring:

5am – 6am: Various programmes

6am – 8am: Post Cyntaf with Kate Crockett and Dylan Jones

8am – 10am: Dylan Jones

10am – 12pm: Bore Cothi with Shân Cothi

12pm – 12.30pm: Programmes that question and debate

12.30pm – 1pm: Features/Drama

1pm – 2pm: Taro’r Post with Garry Owen

2pm – 5pm: Tommo (Monday to Friday) and Tudur Owen (Fridays)

5pm – 6pm: Post Prynhawn with Dewi Llwyd

6pm – 6.15pm: Pigion

6.15pm – 7.15pm: Documentaries/Features

7pm – 10pm: C2

10pm – 12am: Geraint Lloyd

DI

Welsh language version

BETSAN POWYS YN CYHOEDDI GWELEDIGAETH NEWYDD I 大象传媒 RADIO CYMRU Â’R NOD O EHANGU APÊL YR ORSAF

  • Radio Cymru yw Llais Cymru - yn adlewyrchu’r genedl gyfan a bywydau pobl ledled y wlad
  • Shân Cothi a Tommo yn ymuno â’r orsaf yn y gwanwyn
  • Dylan Jones i gyflwyno rhaglen newydd gan aros ar yr awyr ar ôl Post Cyntaf

Mae Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni 大象传媒 Radio Cymru, wedi cyhoeddi ei gweledigaeth a’i chynllun strategol i wneud yr orsaf yn fwy perthnasol i bobl Cymru gan ddweud “fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun.”

Daw ei chyhoeddiad, sy’n rhoi pwyslais ar adlewyrchu cyfoeth bywyd y genedl a rhoi llais i bobl Cymru, yn dilyn y Sgwrs a oedd yn cyd-fynd â’r prosiect ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru.

Cafwyd dros 1,000 o ymatebion i’r Sgwrs ac mae’r sylwadau a chanfyddiadau’r ymchwil wedi cael eu hystyried wrth lunio’r strategaeth olygyddol newydd.

Wrth gyhoeddi ei gweledigaeth dywedodd Betsan Powys:

“Adlewyrchu cyfoeth eich bywydau chi, ystod eich barn a'ch chwaeth chi fydd nod Radio Cymru, a chan fod hwnnw - diolch byth - yn ystod eang, mae’n rhaid mynd ati nawr i ehangu apêl Radio Cymru”.

Fe fydd amserlen Radio Cymru o ddydd Llun i ddydd Gwener yn newid yn y gwanwyn gyda chyflwynwyr newydd yn ymuno â’r orsaf – fe fydd y darlledwr o’r byd radio masnachol, Tommo, yn cyflwyno rhaglen brynhawn newydd o ddydd Llun i ddydd Iau â Shân Cothi yn cyflwyno rhaglen fore newydd o’r enw ‘Bore Cothi’. Bydd sŵn y bore cynnar yn newid gyda Dylan Jones yn aros ar yr awyr i gyflwyno rhaglen newydd ar ôl Post Cyntaf tan 10am, yn rhoi’r byd yn ei le, yn trafod pynciau mawr a bach y dydd gyda’r gwrandawyr ac yn rhoi llais cynnar i gyfarchion y dydd.

Fe dalodd Betsan Powys deyrnged i’r cyflwynwyr hynny na fydd yn cael eu clywed mor aml ar yr orsaf, gan ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gwaith caled. Amlinellodd hi sut y byddai’r newidiadau yn ehangu apêl yr orsaf:

“Yn y dyfodol, dyma fydd neges Radio Cymru i chi: os y'ch chi am glywed rhywbeth newydd am y Gymru ry'ch chi'n byw ynddi, a'r byd mae'n rhan ohono, dewch at Radio Cymru yn y bore. Dewch aton ni amser cinio i herio, neu gyfoethogi'r hyn ry'ch chi'n gwybod yn barod. Fe fydd lle pwysig i holi a phrocio - adlais arall gwerthfawr o'r gorffennol - yn sŵn yr orsaf dros ginio. Yn y prynhawn, joiwch gyda ni. Dewch i gael dipyn bach o sbort, cystadlu, canu, dychan a chwerthin yng nghwmni Radio Cymru. Ar ôl awr o newyddion - a phigion y gorau o ddarlledu'r dydd - dewch i drio rhywbeth newydd, arbenigol, apelgar, cyn noswylio gyda'r cyfarwydd.

“Ehangu’r apêl amdani felly, a derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb. Ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun. Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun.

“Os gallwn ni'ch darbwyllo chi i aros gyda ni drwy'r dydd, wrth i ni ddarlledu o Fangor, Caerdydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth - Bonws! Fe wnewn ni’n gorau”.

Tommo – sef enw darlledu Andrew Thomas o Aberteifi – fydd un o brif leisiau newydd yr orsaf ynghyd â’r ddarlledwraig genedlaethol Shân Cothi. Dywedodd Tommo:

“Mae cael sioe ar Radio Cymru fel ennill cap i Gymru – fi wedi gweithio’n galed i’r tîm lleol a nawr fi’n cael ware i’r tîm cenedlaethol! Mae’n ffantastic! Fi’n edrych mlân dod i nabod pawb a chwrdd â ffans Radio Cymru! Fi moen cael lot o hwyl a chwerthin a cherddoriaeth ar y sioe newydd a neud yn siŵr bod pawb yn joio – fi ddim yn mynd i adael tîm Cymru lawr!”

Fe fydd sioe brynhawn Tommo llawn sbort, jôcs a cherddoriaeth – y gorau o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd o’r 60au hyd at heddiw.

Pwysleisiodd Betsan Powys bod meithrin ‘sain gerddorol’ i’r orsaf yn holl bwysig i lwyddiant Radio Cymru.

“Gyda help llaw tîm Radio Cymru, dwi am weld yr orsaf yn magu 'sain gerddorol' sy'n gyson, heb fod yn undonog, yn amrywiol heb fod yn fratiog ac anesmwyth i chi sy'n gwrando. Roedd honno’n neges gref ddaeth o’r Sgwrs. Fe fydd Radio Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan i'r rheiny sydd am glywed cerddoriaeth newydd, a'r gorau - a dim ond y gorau - o'r caneuon hynny’n cael eu cyflwyno i chi, a’u dathlu yn ystod y dydd. Y tu hwnt i’r oriau brig fe fyddwn ni'n arbenigo, yn arloesi ac yn cynnig rhywbeth cerddorol gwahanol.

“Byrdwn y Sgwrs oedd y dylai Radio Cymru fod yn orsaf sy'n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf. Mae lle, meddech chi, i beth cerddoriaeth Saesneg ond ddim gormod. Felly y bydd hi.”

Dywedodd hefyd ei bod hi wedi rhoi ystyriaeth gref i’r cwestiwn mawr arall a gododd yn ystod y Sgwrs, sef a oedd angen ail orsaf genedlaethol?

“Yn bersonol, dwi o'r farn y byddai cael ail orsaf genedlaethol Gymraeg - o ba gyfeiriad bynnag y dele honno, boed y 大象传媒 â rhan yn ei sefydlu a’i rhedeg hi ai peidio - yn llesol i Radio Cymru. Ond waeth bod yn onest a chlir o'r dechrau. Mae cyllideb 大象传媒 Cymru i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg wedi crebachu'n sylweddol, ac er bod DAB, sef radio digidol, yn raddol gyrraedd mwy a mwy o gymunedau ac yn rhoi cyfle i ni rannu’r gwasanaeth bob hyn a hyn, dyw’r dechnoleg honno ddim yn cynnig ateb hawdd. Drwy donfedd FM mae trwch gwrando Radio Cymru yn digwydd, a’r tebyg yw mai fel hyn y bydd hi am beth amser i ddod.

“Os mai pwrpas ail orsaf fyddai cynnig dewis i'r gynulleidfa - wel yn hytrach na digalonni, oes yna ffyrdd eraill o gynnig y dewis hwnnw? Mewn gair, oes.

“Y cam cyntaf yw hyn: sef y bydd 大象传媒 Cymru yn lansio gwasanaeth digidol Cymraeg newydd sbon yn gynnar yn 2014. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwnnw, ‘Cymru Fyw’ yn dod â‘r gorau o gynnwys digidol 大象传媒 Cymru i chi – yn gynnwys newyddion a straeon cyffredinol a’r cynnwys hwnnw ar gael ar gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi. Bydd gweithgarwch Radio Cymru yn cael ei adlewyrchu gan Cymru Fyw. Ydi, mae’n gyd-ddigwyddiad hapus a chynhyrchiol.

“Mae gwrando dros y we hefyd yn cynnig dewis. Gyda hynny mewn golwg, mi rydw i wedi dechrau archwilio a oes modd creu ‘jiwc-bocs’ cerddoriaeth Gymraeg ar y we – un porth i’r gerddoriaeth Gymraeg orau, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.

“Os bydd pobol Radio Cymru’n teimlo mai nhw piau’r cyfrwng yn y dyfodol, dyna i fi fydd mesur pwysig iawn o lwyddiant”.

Nodiadau i Olygyddion

Manylion amserlen newydd Radio Cymru, o ddydd Llun i ddydd Gwener, sy’n dechrau yn y gwanwyn:

5am – 6am: Rhaglenni amrywiol

6am – 8am: Post Cyntaf gyda Kate Crockett a Dylan Jones

8am – 10am: Dylan Jones

10am – 12pm: Bore Cothi gyda Shân Cothi

12pm – 12.30pm: Rhaglenni sy’n holi a phrocio

12.30pm – 1pm: Rhaglenni Nodwedd/Drama

1pm – 2pm: Taro’r Post gyda Garry Owen

2pm – 5pm: Tommo (o ddydd Llun i ddydd Iau) a Tudur Owen (dydd Gwener)

5pm – 6pm: Post Prynhawn gyda Dewi Llwyd

6pm – 6.15pm: Pigion

6.15pm – 7pm: Rhaglenni Dogfen/Nodwedd

7pm – 10pm: C2

10pm – 12am: Geraint Lloyd

DI