大象传媒

Hedd Wyn: Y cyfle olaf

Ras bardd yn erbyn amser i wireddu ei freuddwyd fawr
cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddod 芒'i fywyd i ben

Ar 31 Gorffennaf 2017 mae hi'n 100 mlynedd ers i'r bardd Hedd Wyn gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Dyn cyffredin o Drawsfynydd oedd Hedd Wyn wnaeth gyflawni rhywbeth anghyffredin.

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol dros fis ar 么l cael ei ladd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele.

Dyma stori ras Hedd Wyn i wireddu ei uchelgais wrth i amser lithro rhwng ei fysedd.

Brwydr Cefn Pilkem

Brwydr Ypres 1917

Dyddiad: 31 Gorffennaf 1917
Lleoliad: Ypres, Fflandrys, Gwlad Belg

Ymysg y miloedd sydd wedi bod yn aros drwy'r nos am y gorchymyn i ddringo dros ymyl y ffosydd ac allan i wynebu cawodydd o fwledi a bomiau yr Almaen mae rhai o lanciau Meirionnydd.

Ellis Humphrey Evans ydy un, mab fferm Yr Ysgwrn, Trawsfynydd. Mae'n cael ei adnabod wrth yr enw barddol Hedd Wyn.

Mae Simon Jones yno hefyd, mab fferm o deulu digon tebyg i un Ellis, o Gwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn.

Cafodd y ddau eu consgriptio i'r fyddin yr un pryd a chychwyn ar yr un diwrnod yn Wrecsam.

Dim ond ers saith mis maen nhw'n hyfforddi i fod yn filwyr.

Maen nhw ar fin wynebu eu brwydr gyntaf.

Dyma ddiwrnod cyntaf Trydydd Cyrch Ypres, ddaeth i gael ei adnabod fel Brwydr Passchendaele.

Mae awr sero am 3.50am. Mae'n dal yn dywyll pan maen nhw'n cychwyn.

Daw'r arwydd i aelodau 15fed bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig gychwyn dros ymyl y ffos ac allan i gaeau mwdlyd sydd wedi cael eu tyllu a'u creithio gan shelio ers deg diwrnod.

Mae glaw trwm wedi llenwi'r tyllau gan ei gwneud yn amhosib i'r tanciau symud dros y tir.

Mae'r Almaenwyr yn bwrw bwledi a bomiau arnyn nhw o gefnen pentref Pilkem.

Y gorchymyn ydy anelu dros y gefnen hon a gwthio'r Almaenwyr yn 么l.

Mewn ychydig mae Simon yn gweld y swyddog sy'n eu harwain yn syrthio ar ei liniau.

Mae鈥檔 sylwi fod ei ddwylo yn cau am y llaid fel pe bai鈥檔 ceisio cydio mewn dau ddyrnaid o bridd.

... mi weles i o'n disgyn ar 'i linie ac yn cydio mewn dwy ddyrnad o faw ... O'dd y lle wedi'i falu ymhobman. Marw roedd o ...

Atgofion Simon Jones o weld 'Lefftenant Newman' yn disgyn

Ond rhaid i'r milwyr fynd ymlaen drwy'r foddfa o fwd a chyrff eu ffrindiau.

Yna, hanner ffordd ar draws Pilkem mae Simon yn gweld Ellis yn syrthio i'r llaid hefyd.

Mae wedi cael ei daro gan un o fomiau'r Almaenwyr.

"... mi gweles o'n syrthio ac mi allaf ddweud mai nosecap shell yn 'i fol lladdodd o ..."

Atgofion Simon Jones o weld Hedd Wyn yn cael ei ladd

Roedd hi'n rhai oriau cyn i Hedd Wyn gael ei gario o'r mwd lle syrthiodd.

Yn ei gofiant i Hedd Wyn mae'r Prifardd Alan Llwyd, awdur nifer o lyfrau ar y bardd a'r sgript ffilm amdano, yn creu darlun o'i funudau olaf fel cawson nhw eu cofnodi gan y caplan R Peris Williams.

"Do you think I will live?" gofynnodd i'r meddyg, Dr Day, yn y dug-out.

Wnaeth y meddyg ddim ateb.

Torrodd un o'r rhai wnaeth ei gludo o faes y frwydr ar y tawelwch drwy ddweud: "Well you seem very happy".

"Yes, I鈥檓 very happy," oedd geiriau olaf Hedd Wyn.

Wrth iddo orwedd yno'n marw yn s诺n y saethu a'r shelio roedd y gobaith yn dal ynghyn y gallai eto wireddu uchelgais fawr ei fywyd.

Doedd ei stori ddim ar ben eto.

Yr uchelgais

Dyddiad: 20 Mai 1907
Amser cyn y frwydr: 10 mlynedd

Eisteddfod y Bala

Er na chafodd lawer o addysg, magwraeth ddiwylliedig oedd un Hedd Wyn.

Roedd wedi astudio barddoniaeth ers pan oedd yn fachgen a chafodd lyfr am y cynganeddion gan ei dad pan oedd yn 11 oed.

Wedi ei eni yn 1887, gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac yna, yn 20 oed, enillodd ei gadair eisteddfodol gyntaf yn y Bala yn 1907.

O'r adeg honno, cafodd ei danio gan y syniad y gallai ennill anrhydedd farddol uchaf bosib ei wlad - Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mary ac Evan Evans gyda naw o'u plant. Hedd Wyn sydd yn y cefn ar y chwith. Roedden nhw eisoes wedi colli dau blentyn, yn bump a thair oed.

Mary ac Evan Evans gyda naw o'u plant. Hedd Wyn sydd 
yn y cefn ar y chwith. Roedden nhw eisoes wedi colli dau blentyn, yn bump a thair oed.

Fel mab hynaf Evan a Mary Evans, helpu ei dad i redeg fferm Yr Ysgwrn sy'n swatio yng nghesail y ffridd yng Nghwm Prysor, Trawsfynydd, oedd gwaith Hedd Wyn.

Ond nid ffermwr mohono. Byddai'n treulio llawer o'i amser yn barddoni, yn meddwl, yn sylwi ac yn dysgu gan feirdd a phobl ddysgedig eraill yr ardal.

Fe fyddai'n aros ar ei draed yn hwyr i'r nos i sgrifennu ei gerddi ac yn cael pob anogaeth gan ei rieni i feithrin ei ddawn, weithiau ar draul ei waith ar y fferm.

Roedd lle pwysig i feirdd bro mewn cymdeithas werinol Gymreig fel Trawsfynydd ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Roedd gan Hedd Wyn nifer o gariadon ond yn 么l Alan Llwyd, ei berthynas fwyaf difrifol oedd gyda Jini Owen (ar y dde). "Bydden nhw wedi priodi," meddai.

Roedd gan Hedd Wyn nifer o gariadon ond yn 么l Alan Llwyd, ei berthynas fwyaf difrifol oedd gyda Jini Owen (ar y dde). "Bydden nhw wedi priodi," meddai.

Breuddwydiwr oedd Hedd Wyn yn 么l y rhai oedd yn ei adnabod, un oedd efallai'n ddiniwed, ond eto'n gwmni difyr, llawn hiwmor oedd yn hoffi hwyl, peint yn y dafarn gyda'i ffrindiau a chwmni cariadon.

Roedd hefyd yn boblogaidd fel arweinydd steddfodau lleol a chyfarfodydd bach yr ardal.

Ond o dan y cyfan roedd personoliaeth benderfynol.

Wrth dyfu fel bardd roedd yn dechrau dangos ei fod yn fwy na bardd bro ac roedd ei uchelgais i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ryw ddiwrnod yn ei osod ar wah芒n.

Ond o'r eiliad y torrodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 roedd y cloc yn tician ar amcanion eisteddfodol Hedd Wyn ...

Y gerdd 'Rhyfel' gan Hedd Wyn - un o nifer a sgrifennodd am y Rhyfel Byd Cyntaf

Gorfodaeth

Dyddiad: 24 Ionawr, 1916
Amser cyn y frwydr: 18 mis

Doedd Hedd Wyn ddim eisiau ymuno gyda'r fyddin ond seliwyd ei ffawd pan ddaeth consgripsiwn i rym ar 24 Ionawr 1916.

Roedd y ddeddf newydd yn golygu bod yn rhaid i ddynion rhwng 18 a 45 ymuno 芒'r fyddin.

Roedd yn bosib i feibion ffermydd gael eu hesgusodi rhag ymuno ac roedd Evan Evans wedi bod o flaen sawl tribiwnlys i apelio dros gadw Ellis adref.

Ond yn 1916 mae ei frawd iau, Bob, ar fin troi'n 18 oed.

Fydd dim hawl cadw'r ddau adref.

Mae Ellis yn gwirfoddoli. Fo ydi'r hynaf.

Llwyddiant yn yr Eisteddfod

Ond mae rhywbeth arall yn digwydd y flwyddyn honno - mae Ellis, dan ei enw barddol Hedd Wyn, yn dod o fewn trwch blewyn i ennill cystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1916.

Mae'n dod yn ail ac, yn fwy na hynny, mae un o'r beirniaid eisiau ei wobrwyo.

Wedi blynyddoedd o fwrw prentisiaeth ac ennill pum cadair mewn eisteddfodau bro mae'n sylweddoli fod Cadair y Genedlaethol o fewn ei gyrraedd.

Yr un pryd, fel pob darpar filwr arall, mae'n sylweddoli hefyd y gallai'r rhyfel ddod 芒'i fywyd i ben yn gynt na'r disgwyl.

Mae dwy linell derfyn ar y gorwel i Hedd Wyn ac mae'r ddwy wedi clymu a phlethu am ei gilydd.

P'run fyddai'n dod gyntaf? Diwrnod ei farwolaeth ar faes y gad neu ddiwrnod ei gadeirio yn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Mae'n mynd ati i sgrifennu ei awdl ar gyfer Eisteddfod Penbedw 1917.

Testun y gystadleuaeth ydy Yr Arwr.

Colli calon

Milwyr ifanc yn cael prawf meddygol

Dyddiad: 29 Ionawr 1917
Amser cyn y frwydr: Chwe mis

Gwersyll Hyfforddi Litherland, Lerpwl

Mae wedi hen ddechrau ar ei awdl pan mae'n cael ei anfon i'r fyddin.

Cofiai Simon Jones mai esgidiau 'cochion' roedd Hedd Wyn yn eu gwiso wrth i'r ddau gyrraedd canolfan y Ffiwsilwyr Cymreig yn Wrecsam yr un bore i gael prawf meddygol.

"O'dd o'n cyrredd o Drawsfynydd a finne o Lanuwchllyn 'r un bore, ynd锚," meddai

"Ia, a dwi鈥檔 cofio heddiw, sgidie cochion genno fo a cetyn yn i' geg, tro cynta imi 'i weld o, ac o'dd sgidie cochion amser hynny 鈥 o'n nhw ddim gen bawb amser hynny, ynd锚."

"... do'dd fawr ers pan o'dd o wedi ennill y gader yn Llanuwchllyn a鈥檙 Bala, y ddwy gader gynta' gadd o 'rioed ..."

Roedd Simon yn gyfarwydd 芒'r stori am Hedd Wyn yn codi ar ei draed yn Eisteddfod Llanuwchllyn 1913 wedi i'r enillydd gael ei gyhoeddi a'r wraig oedd yn eistedd y tu 么l iddo yn dweud wrtho am eistedd i lawr iddi gael gweld pwy oedd wedi ennill.

Cyrhaeddodd y ddau wersyll hyfforddi Litherland ger Lerpwl ddiwedd Ionawr 1917.

'Yr Hen Hedd' fyddai'r bechgyn eraill yn galw'r llanc cellweirus o'r Traws oedd yn gyfuniad o'r direidus a'r dwys.

Os nad ffermwr oedd Hedd Wyn, doedd o ddim yn filwr chwaith.

Come along. You鈥檙e not on a bloody Welsh farm now. Wake up!

鈥淥'dd Hedd Wyn, wyddoch chi, do'dd o ddim yn filwr, 'd锚," meddai Simon Jones.

" ... pan fydden ni ar parade, stand at ease hefo reiffl, odd yr hen sergeant major yn gweiddi 'Attention!'

"Hwyrach o'dd meddwl Hedd Wyn rwle, wyddoch chi. Alle bod o鈥檔 gneud 'i bryddest at Birkenhead amser hynny, ynd锚, wyddoch chi. O'dd o fel yn gysglyd yn 'i waith.

Fe glywodd Simon Jones sarjant o'r enw Mick Mallens lawer gwaith yn dweud: "Come along. You鈥檙e not on a bloody Welsh farm now. Wake up!"

Roedd Simon Jones yn iawn, roedd y gerdd ar feddwl Hedd Wyn.

Ysgrifennodd adref o Litherland yn cwyno nad oedd yn medru cael llonydd i sgrifennu.

Dechreuodd anobeithio a fyddai'n medru gorffen ei awdl wedi'r cyfan.

Achubiaeth

Dyddiad: 21 Mawrth, 1917
Amser cyn y frwydr: Pedwar mis

Ond mae ffawd yn chwarae rhan eto pan mae un o swyddogion Litherland yn rhoi Hedd Wyn ar frig y rhestr o ffermwyr g芒i fynd adref i helpu ar y tir.

Cafodd lonydd o'r diwedd i ganolbwyntio ar ei awdl pan gafodd ddod adref i'r Ysgwrn ar 21 Mawrth.

"Ddaru nhw anfon nifer o fechgyn fyddai鈥檔 gyfarwydd 芒 thrin y tir, ffermwyr ac yn y blaen, o Litherland i drin y tir," meddai Alan Llwyd.

"Wrth gwrs doedd fawr o si芒p ar Hedd Wyn fel ffermwr ond mi gafodd ddod gartref yn ffodus iawn am ryw chwech neu saith wythnos.

"Yno mi weithiodd yn galed iawn ar Yr Arwr. Ddaru o ddim ei gorffen hi ond mi aeth 芒 hi i Ffrainc gyda fo.

"Oedd hwnna'n allweddol iddo mewn ffordd, ond roedd yn dal i weithio arni."

Mae'n cael ysbaid arall adref yn Yr Ysgwrn adeg y cynhaeaf gwair yn nechrau Mehefin a chyfle arall i sgrifennu.

fe gafodd ryddhad yn y diwedd cyn iddo fyned drosodd i Ffrainc am bedwar diwrnod, a mi nath 250 [llinell] ohoni

Llythyr gan dad Hedd Wyn at D Silyn Roberts wedi ei farwolaeth

Ond mae'r rhyfel yn galw a'r gerdd yn dal heb ei gorffen.

Cofiai chwaer Hedd Wyn, Enid Morris, weld Hedd Wyn yn gadael Yr Ysgwrn am y tro olaf i fynd n么l i wersyll Litherland.

Roedd hi'n 10 oed ac yn edrych i lawr o'r landin drwy ganllaw'r staer.

Gallai weld draed ei brawd mawr yn oedi wrth y drws ffrynt cyn mynd.

Y canllaw yr edrychodd Enid Morris drwyddo i wylio'i brawd mawr yn gadael

Y canllaw yr edrychodd Enid Morris drwyddo i wylio'i brawd mawr yn gadael

"Dwi'n mynd r诺an!" galwodd.

Ond doedd neb arall o'r teulu o gwmpas. 'Doedd gwneud sioe o ffarwelio ddim yn eu natur, meddai Enid, ac roedd yn well gan Mary ac Evan beidio 芒 dangos eu pryder i'w mab.

Am y tro olaf, cerddodd Hedd Wyn i lawr y ffordd drwy gaeau ei gartref i'r orsaf drenau, ryw dair milltir i ffwrdd.

Cyrraedd Ffrainc

Milwyr Prydain newydd groesi i Ffrainc, 1914

Dyddiad: 9 Mehefin, 1917
Amser cyn y frwydr: Mis a 21 diwrnod cyn y frwydr

Mae Hedd Wyn newydd ddod n么l i'r gwersyll yn Litherland pan mae 15fed bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn cael eu galw i Ffrainc.

Mae'r fyddin yn eu hanfon i Fflandrys yng Ngwlad Belg lle mae'r cynghreiriaid am geisio gwthio ffrynt yr Almaenwyr yn 么l am y trydydd gwaith.

O Southampton i Le Havre ac ymlaen i Rouen, roedd mynd dramor yn brofiad cwbl newydd i Hedd Wyn.

Ond gyda dyddiad cau'r Eisteddfod yn nes谩u mae'n poeni nad ydy wedi gorffen ei awdl.

Nid wyf wedi cwblhau fy awdl eto 鈥 ond os caf garedigrwydd y dyfodol mi geisiaf wneud.

Hedd Wyn mewn llythyr at ei ffrind Morris Evans.

Mae'n bachu ar bob cyfle i roi sglein arni.

"Mae 鈥檔a filwyr yn s么n fel fydda鈥 fo wrthi bob eiliad ar ochr yr hewl yn gorymdeithio tuag at y ffrynt," meddai Alan Llwyd.

"Os oedd o鈥檔 cael egwyl roedd o鈥檔 eistedd lawr ar ochr y l么n ac yn gweithio arni bob eiliad yn trio ei gorffen hi.

"Hwnna sy鈥檔 rhan o鈥檙 arwriaeth mewn ffordd ei fod o wedi mynd 芒 hon efo fo yn benderfynol o鈥檌 gorffen hi dan amgylchiadau anodd iawn."

Ond mae profi gwlad newydd a'r ymwybyddiaeth o'r braw sydd o'u blaenau yn miniogi ei synhwyrau fel bardd.

Mewn llythyr at ffrind o 'Rywle yn Ffrainc' ar 25 Mehefin, 1917, mae'n sylwi ar brydferthwch byd natur er gwaethaf cysgod y rhyfel.

Dyddiad: 13 Gorffennaf, 1917
Amser cyn y frwydr: 18 diwrnod

Ddau ddiwrnod cyn i'r gatrawd gychwyn am y ffrynt ar lannau afon Ypres mae Hedd Wyn yn anfon ei awdl at yr Eisteddfod.

Oherwydd oedi yn y post mae'n gwybod na fydd ei waith yn cyrraedd cyn y dyddiad cau.

Mae'n esbonio'r amgylchiadau yn ei lythyr ac yn gobeithio am y gorau.

Dyma finnau yn anfon rhyw lun o Awdl ichwi ar destun y Gadair ... Hwyrach, wedi'r cwbl, ei fod yn ormod imi ofyn ichwi geisio ei chael i mewn i'r gystadleuaeth ...

Llythyr Hedd Wyn at ysgrifennydd yr Eisteddfod, Isaac Davies.

Mewn caeau 欧d ger pentref Fl茅chin mae'r milwyr yn cymryd hoe o鈥檙 hyfforddi drwy 'leua' - tynnu'r llau sy鈥檔 berwi yn eu dillad ac ar hyd eu cyrff.

Yno'n manteisio ar y cyfle i sgrifennu llythyrau adref mae Simon Jones a bachgen arall o Lanuwchllyn, Edward Morus Edwards, neu Ned bach, mab y Llys.

Roedd Ned eisoes wedi gweld brwydro erchyll yn y Somme flwyddyn ynghynt.

Edward Morus Edwards - 'Ned bach y Llys'

Edward Morus Edwards - 'Ned bach y Llys'

Roedd Hedd Wyn yn digwydd pasio.

... a dene Hedd Wyn 'n sefyll wrth 'n penne ni a dyne fo'n dechre barddoni

Simon Jones

Ryw noson ole leuad
Uwchben y dolydd bras,
Roedd dau o fois Llanuwchllyn
Yn sgwennu 'u gore glas.
Llythyrau i'w cariadon
Anfonai'r ddau yn iach,
Ac enw un odd Simon
Ac enw'r llall Ned Bach.

Ond pan ddarfyddo'r Rhyfel
A鈥檙 helynt hwn i gyd,
Daw dau o fois Llanuwchllyn
Yn 么l yn wyn eu byd;
Rhieni o'u pryderon
A'u clwyfau dro'nt yn iach,
Pan welant wyneb Simon
A chlywed llais Ned bach.

Wrth gyfansoddi "ddaru o ddim smocio hanner 'i getyn," meddai Simon Jones.

"O'dd o fel tase fo'n siarad efo chi wrth 'u gneud nhw, wyddoch chi. O'dd o ddim yn sefyll i feddwl ddim.

"Geuson ni'n dau dd诺ad adre a fo'i hun ddim ..."

Anfonodd Simon y penillion adre fel cysur i'w rieni ac fe anfonon nhw'r gwaith i bapur lleol Y Seren.

Ar wah芒n i Yr Arwr, does dim cofnod o gerddi eraill wedi hynny.

Ymhen rhyw bythefnos, roedd y tri ohonyn nhw yn y ffosydd yn aros am awr sero brwydr Cefn Pilkem.

Parodd brwydr Passchendaele am bedwar mis gan ladd ac anafu dros 400,000 o ddynion ifanc ar y ddwy ochr.

Enillodd y cynghreiriaid bum milltir o dir yn yr amser hwnnw.

Roedd Hedd Wyn ymhlith y 4,000 o filwyr Prydain a laddwyd ar y diwrnod cyntaf. Roedd yn 30 mlwydd oed.

Daeth y telegram swyddogol i'r Ysgwrn ar Awst 24, 1917.

Roedd Mary ac Evan wedi clywed s茂on fod Ellis wedi ei ladd cyn hynny.

Dywedodd Enid Morris nad oedd erioed wedi gweld ei thad yn cr茂o o'r blaen.

Galar y genedl

Cadair Eisteddfod Penbedw 1917 yn Yr Ysgwrn

Y bardd trwm dan bridd tramor,
鈥 y dwylo
Na ddidolir rhagor:
Y llygaid dwys dan ddwys dd么r,
Y llygaid na all agor.

Un o englynion coffa R Williams Parry i Hedd Wyn

Dyddiad: 6 Medi, 1917
Amser ers y frwydr: Mis a chwe diwrnod

Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917

Yn y cyfamser roedd Isaac Davies wedi cael llythyr Hedd Wyn.

Roedd yr awdl yn hwyr ond gyda'r nodyn o eglurhad am yr oedi yn y post fe wnaeth Mr Davies ei chaniat谩u yn y gystadleuaeth.

Roedd y si wedi bod ar led yn rhai o'r papurau fod y bardd ifanc o Drawsfynydd oedd wedi ei ladd yn Ypres wedi cystadlu am y Gadair.

Ond pan gyhoeddwyd o lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw mai Hedd Wyn oedd enillydd y Gadair y flwyddyn honno a'i fod wedi ei gladdu yn Fflandrys dros fis ynghynt, roedd 'na wylofain yn y gynulleidfa.

Ymysg y rhai a gollodd ddeigryn ar y llwyfan roedd David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain, oedd wedi bod yn ymgyrchu'n danbaid dros recriwtio bechgyn i'r fyddin.

Daeth Hedd Wyn yn symbol o alar y genedl am genhedlaeth gyfan o'i dynion ifanc, a'r gadair wag - Y Gadair Ddu - yn arwydd o'r miloedd o gadeiriau gwag ar aelwydydd Cymru.

Pe bai Hedd Wyn wedi dod yn gyntaf flwyddyn ynghynt yn Eisteddfod Aberystwyth 1916 mae Alan Llwyd yn credu na fyddai wedi cystadlu yn 1917.

A fyddai 'na ddim 'Cadair Ddu'.

"... fe fuasai'r amgylchiadau'n rhy anodd iddo gystadlu ond roedd o鈥檔 gwybod yn 1916 ei fod bron wedi ennill, a'i fod wedi cyrraedd y safon.

"Yn yr amser roedd yn y fyddin mae鈥檔 rhaid ei fod yn gwybod ynddo'i hun fod ei siawns o gael ei ladd yn uchel iawn, iawn a dyma ei gyfle ola'.

"Chwe wythnos oedd hyd bywyd milwr yn y ffrynt ar gyfartaledd.

"Roedd yn gwybod mai dyma'i gyfle olaf, hwnna oedd y sbardun tu 么l iddo fo yn sicr faswn i鈥檔 dweud.

"Pan rydach chi鈥檔 anfon rhywbeth i mewn mae gynnoch chi ryw syniad a ydy hi'n mynd i ennill ai peidio.

"Roedd yn gwybod ei fod wedi sgrifennu cerdd feddylgar iawn. Roedd wedi gweithio鈥檔 galed arni," meddai Alan Llwyd.

"Pam ddywedodd o'r geiriau hynny ar y diwedd, 'Yes, I'm very happy'?

"Dwi'n si诺r ei fod yn gwybod bod gan hon siawns a'i fod yn gwybod ynddo'i hun ei fod wedi ennill," meddai Alan Llwyd.

Mae hi'n un o straeon mawr y Cymry

"Mi fyddai wedi gwneud rhywbeth rhyfeddol pe bai o wedi ennill a ddim yn y fyddin achos bachgen cyffredin oedd o ac roedd o鈥檔 cystadlu yn erbyn pobl oedd wedi cael addysg brifysgol.

"Ond y ffaith ei fod o wedi cyflawni鈥檙 awdl o dan y fath amgylchiadau ...

"Mae hi'n un o straeon mawr y Cymry."

Cadair grefftus o dderw soled yw'r Gadair Ddu - cadair wag sydd bron 芒 bod yn llenwi parlwr bach Yr Ysgwrn.

Cafodd ei saern茂o yn ystod y misoedd dreuliodd Hedd Wyn yn llunio ei gerdd, yn eironig gan saer oedd wedi ffoi o Wlad Belg oherwydd y rhyfel, Eugene Vanfleteren.

Dyma'r gadair roedd Hedd Wyn wedi bod yn dyheu am ei hennill.

Hon ddaeth adref i'r Ysgwrn at Mary ac Evan Evans yn 1917.

Soniodd Evan Evans am y bwlch adawyd yn y teulu gan farwolaeth Ellis mewn llythyr yn 1918.

Mae yma hiraeth creulon ar ei 么l o hyd a lenwir mor bwlch chwaith

Evan Evans

Cadwodd ei fam, Mary, ddrws Yr Ysgwrn yn agored i unrhyw un oedd eisiau dod i weld y gadair dros y blynyddoedd a siarsiodd ei 诺yr, Gerald, i wneud yr un fath wedi ei dydd hi.

Fe wnaeth Gerald Williams, nai Hedd Wyn, gadw at ei air ac mae wedi coesawu ymwelwyr i'r Ysgwrn ar hyd ei oes.

Heddiw dan ofal Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri mae'r Ysgwrn yn gofeb i'w mab enwog ac i'r genhedlaeth gyfan a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae stori Hedd Wyn bellach yn cynrychioli holl fechgyn Cymru gafodd eu lladd, meddai Gerald Williams.

Cafodd dros 30 o ddynion ifanc Trawsfynydd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Maent yn cael eu cofio heddiw yng nghanolfan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn Yr Ysgwrn

Ar wal hen sgubor Yr Ysgwrn mae lluniau o 30 o fechgyn Trawsfynydd a gafodd eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Daeth stori un ohonyn nhw'n rhan o chwedloniaeth Cymru ac yn fodd o gyfleu'r golled i gymunedau Cymru yn sgil y Rhyfel Mawr.

Ond Hedd Wyn yw pob un o'r rhain.

Collwyd bywyd a chyfraniad tua 35,000 o ddynion ifanc Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf, 20,000 ohonynt yn Gymry Cymraeg, yn 么l amcangyfrifon.

Cymuned Trawsfynydd yn dod at ei gilydd i ddadorchuddio cofeb i Hedd Wyn yn 1923. APCE.

Cymuned Trawsfynydd yn dod at ei gilydd i ddadorchuddio cofeb 
i Hedd Wyn yn 1923. APCE.

Mwy gan y 大象传媒