Ym mis Medi 2015, bu farw Elfed Hughes ar ei fferm yn Ynys M么n. Roedd o wedi lladd ei hun.
脗 hithau'n wythnos i godi ymwybyddiaeth iechyd meddwl, aeth ei fab a'r newyddiadurwr, Stephen, i chwilio am atebion i rai o'r cwestiynau oedd yn wynebu'r teulu yn eu profedigaeth.
Pam fod gymaint o stigma a chywilydd ynghlwm 芒 hunanladdiad? Ydy hunanladdiad ar gynnydd? Ac oes yna broblem fwy dwys yng nghefn gwlad Cymru?
Ar y wyneb, roedd bob dim i weld yn iawn.
Doedd Dad heb fethu diwrnod o waith yn ei fywyd. Doedd o erioed wedi bod at y meddyg. Doedd o byth yn "s芒l".
Ond 'nath hynny newid fwy neu lai dros nos.
O'n i'n mynd yn 么l ac ymlaen yn wythnosol rhwng Caerdydd ac adra'.
Oeddan ni'n gweld y dirywiad yma'n sydyn ofnadwy.
Roedd y meddygon teulu yn helpu ond doedd 'na ddim byd yn gwneud gwahaniaeth.
Oedd o'n cyrraedd y pwynt lle o'dd Dad yn dechrau ystyried, neu drafod, hunanladdiad.
Os oedd o'n bum munud yn hwyr n么l adra oeddan ni'n mynd allan i chwilio amdano fo. Doedd hynna ddim yn iach.
Dyma ni'n penderfynu bod yn rhaid mynd 芒 fo i'r ysbyty ac i uned iechyd meddwl, Hergest.
Dwi'n cofio Mam a fi isio dod 芒 fo o'na er bod y meddygon yn d'eud bod o angen aros i fewn.
Oedd Dad yn teimlo'r stigma yn ofnadwy ac oeddan ni'n rhannu'r stigma mewn ffordd.
Ond gwaethygu 'nath o, ac o fewn dyddia' roedd rhaid i ni fynd 芒 fo fewn ac wedyn 'nath o aros o dan y ddeddf iechyd meddwl am bump wythnos.
Oedd o angan bod yna er fod o ddim isio. Oedd o'n cas谩u y lle a 'nath o'm gwella dim.
Erbyn y pwynt yma, roedd o'n siarad yn hollol agored efo fi a fy mrawd yn d'eud bod o isio lladd ei hun.
Dyma fi'n ffeindio fo'n trio lladd ei hun, a dyma ni'n sylweddoli bod yn rhaid mynd 芒 fo n么l i'r ysbyty.
Oeddan ni wedi cuddio petha', llosgi petha' fysa fo鈥檔 gallu eu defnyddio [i ladd ei hun].
Oedd hi'n anodd peidio gwylltio efo fo er mai ei salwch o oedd o. Oedd pob diwrnod yn ddiwrnod gwahanol a doeddan ni ddim yn gweld pen-llanw'r peth.
O'n i wedi dechra' diodda'n feddyliol fy hun. Oedd gen i orbryder, neu anxiety erbyn y diwedd.
Am eiliad, 'natho ni droi'n cefna' a 'nath o fynd a gwneud be' oedd o wedi bygwth g'neud ers tri mis.
Ar 18 Medi 2015, yn 56 mlwydd oed, cafodd Dad ei ganfod yn farw ar dir ffarm Bwchanan.
Nesh i erioed, erioed, erioed feddwl y byddwn i'n cael galwad ff么n yn d'eud bod 'na rwbath wedi digwydd.
Roedd o ond wedi bod yn diodda' o salwch meddwl ers tri mis.
Oedd gyna fo gywilydd bod o'n ddigon gwan i ddioddef o iselder, cywilydd o'r ffaith fod o methu ffarmio ddim mwy, ac o be' fysa pobl yn ei dd'eud.
Nesh i erioed ystyried y bydda fo o bawb yn dioddef o hynna.
Mewn cymuned wledig oedd mor agos, pam fod Dad wedi teimlo fod yna gymaint o stigma o amgylch hunanladdiad?
Nes i ofyn hynny i'r Parchedig Emlyn Richards, ffrind agos i Dad.
"Mae'r peth yn mynd yn 么l yn bur bell," meddai.
"Mae'n anodd gwybod yn hollol be' ydy'r rheswm amdano fo.
"Mi fydda 鈥 yn yr hen oes sy' ddim mor bell yn 么l 芒 hynny 鈥 y sawl oedd wedi cyflawni hunanladdiad yn cael eu claddu mewn ffordd wahanol. Mi roedd cyfeiriad y bedd yn wahanol.
"Yn ambell i achos doedd yr arch ddim yn mynd trwy borth y fynwent hyd yn oed 鈥 oedd o'n mynd dros y clawdd i'r fynwent.
"O'n i'n methu credu'r peth," meddai'r Parchedig wrth gofio 'n么l i'r diwrnod y clywodd am farwolaeth Dad.
"Oedd o'n taro rhywun fel tasa fo wedi digwydd i rhywun o'i deulu ei hun 鈥 ac yn enwedig beth oedd wedi digwydd felly."
Mae'r Parchedig Emlyn Richards yn cyfaddef bod crefydd wedi methu 芒 delio 芒 hunanladdiadau yn y gorffennol.
"Cyn belled 芒 bod y capel yn y cwestiwn, fe all ein crefyddau ni, yn anffodus, ddim 芒 bod o'r help y galla fo fod.
"Mi oedd 'na elfen gref o ofergoeliaeth yn ein crefydd ni. Oeddan nhw ddim yn si诺r iawn sut i drin a thrafod achos o'r math yma.
"Oedd o'n farwolaeth gwahanol, yn farwolaeth amheus yn eu golwg nhw. Mae'n rhaid i ni ddweud hynna.
"Yn amlach na pheidio roedd teulu bach yn cael eu cynghori [i gael] angladd preifat, tawel a distaw 鈥 diolch i鈥檙 drefn bod hwnna wedi'i chwalu ac yn amlach na pheidio mewn achos o hunanladdiad eu bod nhw'n angladdau cyhoeddus erbyn hyn.
"Dwi'n meddwl os oes angan un cyhoeddus o gwbl bod ei angan o yn fa'ma, yn enwedig er mwyn y teulu - ei fod o'n tynnu pobl at ei gilydd, ac hynny sy'n bwysig.
"Dwi bron yn meddwl fyddai'r Hen Destament yn collfarnu," meddai wedyn am gyfraniad y Beibl. "Does 'na ddim llawar o sylw yn cael ei roi i'r peth yn y Testament Newydd."
Dyma fo'n awgrymu, oherwydd fod y gymdeithas gapeli wedi "gwanio", ei bod yn "rhy fychan i fynd yn gysur i bobl" erbyn hyn.
"Mae'r diwylliant ydan ni'n rhan ohono fo, mae'n gosod rhyw straen fawr ar bobl.
"Mae 'na ryw dueddiad o gystadleuaeth yn mynd mewn bywyd 鈥 ac yng nghanol hwn i gyd mae cymdeithas yn llacio. Tydi hi ddim mor glos ag yr oedd hi.
"A chanlyniad hwnna ydy nad ydan ni'n gallu siarad mor agored efo'n gilydd. Mae o'n wir iawn yn llawer iawn o ffermwyr.
"Pam? Pam fod 'na syniad o gywilydd am fy mod i'n isal fy ysbryd mwy na tasa gen i鈥檙 ddannodd?
"Mae siarad yn gwyntyllu'r salwch a'r iselder. Mae hyn yn wir am sawl problem.
"Mae'n sefyllfa felltigedig o rwystredig."
Ann, nith a ffrind Elfed, yn trafod ei hymateb i'r newydd a pham bod y gymuned amaethyddol yn ei chael hi'n anodd i drafod iechyd meddwl.
Ond faint o help sydd 'na i ffermwyr sy'n dioddef o salwch meddwl?
Cafodd Tir Dewi ei sefydlu yn wreiddiol bron i ddwy flynedd yn 么l er mwyn "ateb galwad yng nghefn gwlad", meddai'r Parchedig Ganon Eileen Davies.
"Wnaethon ni alw cyfarfod cyhoeddus o bobl o wahanol gylchoedd yng nghefn gwlad achos bod ni'n teimlo bod angen cymorth ar bobl a'r ateb gelon ni y noson honno oedd 'pl卯s, 'dyn ni angen e'."
Ym mis Awst 2015, yn Sioe Sir Benfro, dyma agor llinell gymorth 鈥 a'r rhif hwnnw oedd rhif ff么n symudol Eileen Davies, sy'n ffermwraig ei hun.
Mae Tir Dewi yn bwriadu agor llinell gymorth newydd ddiwedd mis Mai ac mae鈥檙 mudiad wedi derbyn arian i gyflogi rhywun yn rhan amser i gydlynnu'r prosiect elusennol am dair blynedd, gyda deunaw o wirfoddolwyr eisoes wedi'u cadarnhau i ateb y galwadau.
"Mae ffermwyr wedi gweld newidiade' mawr ym myd amaeth," meddai.
"Ble oedd ganddoch chi nifer o bobl yn gweithio o鈥檙 blaen mae un ffermwr erbyn hyn yn gallu bod ar ben ei hunan heb neb i siarad am orie'.
"Hefyd, mae un partner falle'n gorfod mynd oddi wrth y ffarm er mwyn cael arian ychwanegol i fewn achos bod cyllid ac arian yn dynn iawn.
"Mae trin a thrafod o amgylch y bwrdd erbyn heddi' wedi mynd a'r unigrwydd yma sy' yng nghefn gwlad, lle oedd 'da chi gymdogion i helpu a mi fydda dipyn o dynnu coes a chwerthin iach, ma' hwnna wedi mynd heddi'.
"Hefyd mae 'na bwyse' cynyddol gyda'r holl fiwrocratiaeth. Ma' ffarmwr am fod mas yn edrych ar 么l ei stoc yn lle'r holl fiwrocratiaeth yma.
"Mae pobl angen clust i wrando," meddai'r Parchedig Ganon Eileen Davies.
"Mae shwt gyment o ffactore' ynghlwm ag amaethu sy'n pwyso mor drwm a ma' ffarmwr yn meddwl alle ddod i ben ac ei fod yn ddigon cryf ac i gario 'mlaen gyda'r gwaith ei hunan a byw mewn byd bach ei hunan.
"Mae rhai hyd yn oed yn claddu pen mewn tywod heb sylweddoli allwch chi siarad gyda rhywun yn gyfrinachol, bod ffordd mas o hyn i gyd a dy'ch chi ddim ar eich pen eich hunan.
"Roedd llawer iawn [o'r bobl oedd yn ffonio'r llinell gymorth] yn dioddef o iselder.
"Dwi wedi bod ynghlwm 芒'r gwaith yn gwirfoddoli ers dros 12 mlynedd a'r hyn dwi wedi sylweddoli yn y flwyddyn neu flwyddyn a hanner diwethaf ydy cynifer o bobl ifanc rhwng 17 a 30 sydd 芒 gofid a phwyse' afiechyd meddwl yn drom arnyn nhw ac yn diodde' o iselder enbyd.
"Rhai ohonyn nhw falle yn amaethu gyda rhieni ac yn gweld yr oriau'n hir a ddim yn cael cyfle i fwynhau ychydig oriau gyda'r nos.
"Ond dylen nhw fod yn yr oedran lle maen nhw'n mwynhau bywyd ond yn hytrach maen nhw'n teimlo pwysau enbyd ar eu hysgwyddau nhw.
"Dwi'n gweld pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol yn y byd sydd ohoni, pethau fel Facebook ac ati, ond mae cyfrwng siarad yn bwysicach erbyn hyn nag yw e erioed wedi bod."
Mae Tir Dewi wedi'i sefydlu yn benodol ar gyfer ardaloedd Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Felly oes yna fwriad i sefydlu mudiadau tebyg ar hyd a lled y wlad?
Mae Llywodraeth Cymru yn d'eud bod gwaith eisoes yn cael ei wneud.
鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 cymryd camau i fynd i鈥檙 afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, sy鈥檔 gallu effeithio ar bobl o bob cefndir, ac ry鈥檔 ni鈥檔 ariannu nifer o sefydliadau trydydd sector i gefnogi hyn," meddai llefarydd.
Dywedodd hefyd bod sefydliadau yn dod at ei gilydd i weithio gyda phobl sydd efo "risg uchel [o ladd eu hunain] fel ffermwyr a gweithwyr amaethyddol".
"Mae staff yn cydweithio鈥檔 agos ag elusennau ffermio ac yn aml yn cyfeirio ffermwyr at yr elusennau hyn i gael cymorth pellach.鈥
Yn dilyn marwolaeth Dad, mae'r ffarm bellach yn nwylo'i feibion - rhywbeth oedd yn dasg anodd i Geraint, yr ieuengaf ohonom ni.
"O'n i'n 25 yn colli Dad a oedd gen i ffarm 600 acer ar fy nwylo. Fo oedd yn gw'bod - toedd gen i ddim syniad mwy na mul be' i 'neud," meddai.
"Fysa fo'n g'neud rwbath i'w ddefaid, gwartheg, y tir ac i adael hynna... oedd o'n fodlon rhoi hynny i gyd i fyny.
"Os oedd o'n mynd ar ei holides - a toedd o ddim yn aml - oedd o'n g'neud yn si诺r bod rhywun oedd yn dallt yn gwatchad ar 么l y stoc.
"Ond mae o wedi penderfynu mynd am byth a gadael 900 o ddefaid a 200 o wartheg i rywun gael ffarm gyfan i 'neud be' bynnag maen nhw isio efo hi."
Ma' diwydiant amaeth yn unig.
Dwi ddim 'di sylweddoli a gwerthfawrogi tan i Dad farw faint o waith sy' 'na.
Ti'n gorfod rhedag busnas ar ben dy hun 鈥 mae o'n lot o waith.
Ydy'r ffordd ydan ni'n byw yn g'neud ni'n s芒l?
Ond roedd salwch Dad wedi sbarduno mewnlifiad o negeseuon - rhai yn annisgwyl o onest.
"Ddoth y stori allan fod Dad yn s芒l," meddai Geraint. "[ac roedd Dad yn teimlo] cywilydd mawr. Ond 'nath 'na sawl ffarmwr ffonio'r t欧 'ma i dd鈥檈ud bod nhw鈥檔 teimlo 'run fath.
"Oedd 'na lawar un adnabyddus yr ardal yn d'eud 'dwi'n yr un twll 芒 chdi Elfed'. Dynion oeddach chi'n meddwl fod bywyda' braf ganddyn nhw, yn hapus bob tro.鈥
Mae Sion yn cytuno fod amharodrwydd Dad i daclo'r salwch wedi dod yn sgil ei anallu i weithio.
"Mi ddy'dodd o y bysa well ganddo fo fod wedi cael canser na hyn.
"Ro'dd Dad wedi gweithio鈥檔 galad ac yn meddwl fod o wedi cyrraedd i binacl felly oedd hynny'n ffaith mawr o'i salwch o 鈥 ei fod o methu g'neud y gwaith a methu cario 'mlaen.
"Ar 么l i hyn ddigwydd i Dad ma鈥 pobl yn fwy agorad o ran rhannu sgwrs am betha'."
Hunanladdiad sy'n achosi'r mwyafrif helaeth o farwolaethau ymysg dynion yng Nghymru a Phrydain.
Yn 么l y ffigyrau gan elusen Samaritans Cymru, roedd 81% o bobl wnaeth gyflawni hunanladdiad yng Nghymru yn 2014 yn ddynion - 5% yn uwch na'r ffigwr ar draws Prydain.
Mae rhwng 300 a 350 o bobl yn lladd eu hunain bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae rhywun dair gwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na damwain car.
Yn 么l Mudiad Iechyd y Byd (WHO) mae tua un miliwn o bobl yn lladd eu hunain pob blwyddyn - sy'n farwolaeth pob 40 eiliad.
Mae disgwyl, erbyn 2020, bydd y cyfradd hwnnw'n codi i un pob 20 eiliad.
Mae'r cyfradd o ddynion sy'n cyflawni hunanladdiad wedi cynyddu'n sylweddol ers 2007, yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol, tra bod cyfradd y merched wedi aros yn weddol gyson ac yn is na dynion o dipyn.
Dywedodd Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu Samaritans Cymru: 鈥淥 gymharu 芒鈥檙 boblogaeth yn gyffredinol, rydym ni鈥檔 cydnabod bod rhai ffactorau yn gallu cynyddu鈥檙 risg o hunanladdiad mewn ardaloedd gwledig.
鈥淢ae鈥檙 rhain yn cynnwys arwahaniad, rhwydweithiau cymdeithasol gwael a stigma fwy dwys ynghylch iechyd meddwl.鈥
Yn 2015, roedd 'na 350 o bobl wedi lladd eu hunain yng Nghymru - 78% o鈥檙 rhain yn ddynion.
Dwi yn meddwl - yn achos Dad heb os - stigma laddodd Dad, a'i salwch o'n rhan mawr ohono fo yn galluogi fo i 'neud be' 'nath o.
Dwi'n ffeindio fy hun r诺an yn rhan o'r stigma.
Dwi ddim yn d'eud bod Dad wedi lladd ei hun. Dwi wastad yn d'eud 'ma' Dad wedi marw' neu 'pan 'nath Dad adael' neu 'pan ddigwyddodd yr hynna 'da ni byth yn dd'eud' - 'ma' Dad wedi lladd ei hun', 'pan 'nath Dad ladd ei hun', 'pan 'nath Elfed benderfynu lladd ei hun'.
Dwi'n rhan anfwriadol o'r stigma ynghylch y peth.
Dwi'n gw'bod bod o wedi chwarae rhan ym marwolaeth Dad, a'r gobaith ydy, wrth i ni godi ymwybyddiaeth o'r peth, bod y stigma yn lleihau a bod ni'n siarad amdano fo fel bod 'na broblem o hunanladdiad yng Nghymru, ym Mhrydain, ac ar draws y byd.
Ma'n lladd gormod o bobl - mae 'na ormod o deuluoedd yn gorfod wynebu be' ydan ni'n wynebu bob dydd a dydi o ddim yn iawn.
Nath 'na arbenigwr dd'eud wrtha' i bod hunanladdiad yn rwbath allwch chi ei osgoi... pam felly dyda ni ddim yn osgoi'r peth?