We've updated our Privacy and Cookies Policy
We've made some important changes to our Privacy and Cookies Policy and we want you to know what this means for you and your data.
Cyngor yn amddiffyn gwasanaeth dwyieithog
Mae Cyngor Wrecsam wedi amddiffyn y ffaith eu bod yn talu cyngor arall am waith cyfieithu, gan ddweud mai'r dyma sydd fwyaf cost-effeithiol.
Daw'r sylw yn dilyn trafodaeth gan gynghorwyr am ddarpariaeth Cymraeg y sir.
Roedd nifer yn cwyno fod y cyfieithu yn wallus gan ddweud fod nifer o arwyddion wedi gorfod cael eu hail osod.
Ond mae eraill wedi cwestiynu'r gost yn y lle cyntaf.
Dywedodd y cynghorydd Sonia Benbod-Jones fod y Gymraeg yn bwysig ond mae'n "fwrn mawr ar ein hadnoddau."
Safon cyfieithu
Yn 么l dirprwy arweinydd y sir, Hugh Jones, roedd y gost o 拢162,000 y flwyddyn yn un gymharol fach wrth ystyried y buddiannau diwylliannol.
Clywodd cynghorwyr fod y gwasanaeth cyfieithu ar gyfer Wrecsam yn cael ei ddarparu gan gyngor Conwy.
Mae rhai wedi awgrymu y dylai'r sir ei hun fod yn gyfrifol, er mwyn cadw gwell golwg ar safon y cyfieithu.
Byddai hynny wedi golygu cost o 拢216,00.
Dywedodd Hugh Jones, sy'n gyfrifol am sicrhau fod y sir yn ufuddhau 芒 Safonau'r Gymraeg, mai'r broblem oedd dod o hyd i gyfieithwyr, gan y bod yn well ganddynt gan amlaf weithio mewn rhannau "lle mae mwy o Gymraeg."
Ychwanegodd ei fod o'r farn mai'r cytundeb gyda Chonwy oedd y dull mwyaf cost effeithiol o roi gwasanaeth dwyieithog.
"Tra bod yna gost, byddwn yn dweud ei fod yn un cymharol fychan yn nhermau y budd mae pobl ifanc yn ei gael," gan gyfeirio at nifer o ddigwyddiadau diwylliannol sy'n cael eu cynnal yn adeilad T欧 Pawb yn y dref.
Top Stories
More to explore
Most read
Content is not available