Main content

Y Gronfa Lansio 2024

Nod Cronfa Lansio yw helpu bandiau / artistiaid talentog o Gymru i hybu eu gyrfa drwy roi llwybr hollbwysig at gyllid iddynt. Gall artistiaid, bandiau neu labeli wneud cais.

Yn rhan o’r cynllun Gorwelion, mae cronfa Lansio yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, drwy ddarparu mynediad hollbwysig iddynt at gyllid.

Mae'r Cronfa Lansio, fel mae’r enw'n awgrymu, ar gyfer y rhai sy’n dechrau ar eu taith gerddorol, sef cam hollbwysig yn eu datblygiad. Mae hefyd yn helpu i gefnogi gweithgareddau a fydd yn helpu rhai sy’n creu cerddoriaeth gyflawni eu potensial. Rydym yn chwilio am artistiaid/bandiau sy’n gallu arddangos diddordeb gan gynulleidfaoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth (yn cynnwys labeli neu feirniaid), ond sydd angen cymorth i’w galluogi i gyflawni gweithgarwch a fydd yn eu helpu i gyrraedd eu cynulleidfa.

Gall artistiaid, bandiau neu labeli yng Nghymru wneud cais ond rhaid i'r gweithgaredd ganolbwyntio ar yr artist.

Hoffem i’r Gronfa Lansio adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth y gymuned gerddoriaeth sydd gennym yma yng Nghymru. Rydym yn annog ceisiadau gan artistiaid o’r mwyafrif byd-eang. Hoffem hefyd weld ceisiadau gan ymgeiswyr anabl. Rydym yn cefnogi artistiaid a bandiau gwreiddiol o bob arddull, ac eithrio cerddoriaeth glasurol.

Byddwn yn cynnig gwobr hyd at £2,000 yr un.

Pa fathau o weithgarwch y gallai'r Cronfa Lansio eu cefnogi?

Rydym yn chwilio am bethau y credwch a fydd yn mynd â’ch gyrfaoedd cerdd ‘i’r lefel nesaf’ yn yr amseroedd heriol hyn. Efallai eich bod am ddefnyddio'r amser hwn i wneud prosiect cydweithredol ar-lein. Neu eich bod chi'n bwriadu rhyddhau cerddoriaeth ond bod angen cefnogaeth arnoch chi i hyrwyddo'n greadigol ar-lein yn lle byw. Neu eich bod chi eisiau gweithio gyda rhywun i ddod â'r gorau yn yr hyn rydych chi'n ei wneud. Nid ydym yn gyfyngedig i'r enghreifftiau hyn - a gorau po fwyaf yn arloesol - ond yn y cais bydd angen i chi egluro:

  • Faint o arian yr ydych yn gofyn amdano, ac ar beth y byddwch yn ei wario?
  • Pa weithgarwch y bydd yr arian yn eich helpu i’w wneud?
  • Sut y bydd y gweithgarwch hwnnw yn helpu eich gyrfa gerddorol?
  • Pam nawr yw’r amser gorau?

Rydym yn disgwyl y bydd y gronfa yn derbyn llawer o geisiadau, felly ceisiwch restru eich costau yn rhesymol – bydd yn rhaid i ni ystyried gwerth am arian a pha mor briodol yw’r cais, o ystyried y cam yr ydych ynddo yn eich gyrfa.

Beth nad yw Lansio yn ei ariannu?

  • Ni allwn ariannu unrhyw beth na all ddigwydd yn ddiogel. Rydym yn gwybod y gallai'r rheoliadau newid ond ceisiwch feddwl am yr hyn y gallwch ei wneud nawr yn hytrach na'r hyn y gallech ei wneud pan fydd cyfyngiadau'n newid.
  • Ni allwn dalu am eich amser (fel cyflog neu am golli enillion).
  • Ni allwn dalu costau teithio rhyngwladol a threuliau cysylltiedig.
  • Er y byddwn yn ariannu offer, mae angen rhesymeg glir. Esboniwch wrthym sut y bydd yn cael ei ddefnyddio a pham eich bod ei angen.
  • Ni allwn dalu am cerbydau

Pwy sy’n gallu gwneud cais i Lansio?

Bydd Lansio ar gael i artistiaid/bandiau sy’n byw yng Nghymru ac sy’n ysgrifennu, cynhyrchu ac yn perfformio cerddoriaeth gyfoes boblogaidd a gwreiddiol.

Gall labeli annibynnol yng Nghymru wneud cais ond rhaid i'r gweithgaredd ganolbwyntio ar eu hartistiaid / artistiaid neu fand. Mae genres cerddoriaeth yn cynnwys MOBO, indie, electronig, trefol, pop, roc, rhyngwladol, gwerin a genres cerddoriaeth gyfoes sy’n datblygu.

Mae’n rhaid bod gan fandiau cymwys gyfran sylweddol o’r gr诺p yn byw yng Nghymru. Mae’n rhaid bod artistiaid unigol yn byw yng Nghymru.

Rhaid i labeli fod wedi'u lleoli yng Nghymru a rhaid i'r artist / band / sy'n elwa o'r cais fodloni meini prawf cymwys ar gyfer oedran a lleoliad a chytuno i’r Telerau ac Amodau.

Mae’n rhaid i artistiaid/bandiau/labeli allu profi eu bod dros 18 oed ar y dyddiad gwneud cais.

Mae’n rhaid i artistiaid/bandiau/labeli gydymffurfio hefyd â’r telerau ac amodau isod.

Dim ond unwaith y gall artist/band/labeli wneud cais.

Dim ond unwaith y gall artist/band wneud cais.

Nodwch, na fydd artistiaid llwyddiannus dwy rownd ddiwethaf y Gronfa Lansio yn gymwys i wneud cais am nawdd yn 2024.

Mae’r Gronfa Lansio ar gyfer datblygu artistiaid sydd ar ddechrau eu taith gerddorol. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rho ii artistiaid a bandiau sydd heb dderbyn nawdd gan gronfeydd eraill fel Cronfa Cyflymu PRS neu Momentwm sy’n gwobrwyo artistiaid sydd wedi ennill eu plwyf.

Sut y gallaf wneud cais i'r Gronfa Lansio?

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, ac ateb pob un o’r cwestiynau.

Nodwch fod y telerau ac amodau hyn yn berthnasol.

Bydd angen cwblhau a chyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos dydd Mercher y 30ain o Hydref, 2024.

Yn anffodus, oherwydd nifer uchel y ceisiadau rydym ni’n eu derbyn, ni fyddwn ni’n gallu darparu adborth unigol ar geisiadau aflwyddiannus.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch drwy e-bost horizon@bbc.co.uk

ENGLISH APPLICATION

CEISIWCH NAWR

Telerau ac Amodau Y Gronfa Lawnsio