Main content

Beca v Ffostrasol

Trydargerdd - Crynodeb bachog o reolau golff

Ffostrasol
Sgidiau addas,
Dillad iawn,
Set o brennau,
Poced lawn;
Ond y peth
Pwysicaf oll -
Lot o belau
I fynd ar goll.

Dai Rees Davies -8.5

Beca
Pêl fach gron a honno’n wen – i’w saethu
Yn syth ag un glatshen,
O swing i dwll cwningen...
A thaith y bêl ddaeth i ben.

Terry Reynolds – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘Pin’

Ffostrasol

Deunaw pin – a deunaw pêl
I ddyn a fo’n ddi-annel.

Gareth Ioan – 8.5

Beca
Gorau pêl wrth gwr y pin,
Doeth yw gochelyd eithin.

Eifion Daniels - 8

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’n bryd i mi wisgo fy sbectol’

Ffostrasol
Rwy’n cerdded rhyw bellter rhyfeddol
Yn chwilio’r ffordd adre’ o’r ‘Bedol’,
Ac rwy’n methu yn lân
Gweld yn ôl na gweld mlân, -
‘Mae’n bryd i mi wisgo fy sbectol’.

Dai Rees Davies - 9

Beca
Mae'n bryd i mi wisgo fy sbectol.
Wrth stwffio y trwci arferol,
Mi gefais i fraw
Wrth estyn fy llaw
Daeth babi i'r byd yn hamddenol.

Terry Reynolds – 8.5

Cerdd ar fesur yr englyn milwr - Cyrch

Ffostrasol
Rhodd i’n hetifedd heddi’
Yw dryll, a gemau di-ri
I gynnal pob drygioni.

Yna fe wreiddia ynom
Holl feddylfryd byd y bom
A’i boen drwy bawb ohonom,

A dring ein hadar angau
Drwy awyr y ‘bur hoff bau’.
Oedant uwch gymunedau

A gynnau’n creu Gehenna,
A’n rhodd ryfelgar barha’
Yn nos hir i blant Syria.

Dai Rees Davies – 8.5

Beca
Llanast dinas llawenydd,
Dwylo dur, troseddwyr sydd
A'u hôl ar hyd yr hewlydd.

I'w churiad ac i'w chwarae
Llawr y gân fu'n lle i'r gwae,
Erchyll atseiniau gwarchae.

Terfysgwyr di-dosturi'r
Galanas, nid goleuni
Diddos fin nos gofiwn ni.

Criw dirgel ydyw'r gelyn,
Dinas oll yn nadu'n syn
A'r byd o'i rheibio wedyn.

Boed wan neu lew, 'does dewis
Pob rhan sydd yn talu'r pris
Drwy'r meirw draw ym Mharis.

Wyn Owens – 8.5

Pennill ymson wrth frwsio dannedd

Ffostrasol
Rwy’n sgwrio fy nannedd ers meitin
I’w cael nhw yn hollol ddilychwin
Cyn eu rhoddi i lawr
Hyd doriad y wawr
Ynghanol y d诺r sy’n y basin.

Emyr Davies – 9

Beca
Fe ddylswn falle canu cân
o fawl i’r ddau hen folar,
Â’r dannedd ci a’r blaenddant coi
‘ di ffoi o’r cwt yn gynnar.
Fe fuoch chi yn deyrngar iawn
yn cnoi a chnoi bob gafael,
Ond tybed bellach na ddaeth ‘r awr
i chi yn nawr fy ngadael?
Rwy’n cofio doethinebu’r ddau,
a fu’n gymdogion ichi:
“Pan fyddwch wedi danto’n lân
cewch rhincian dannedd dodi.”

Rachel James – 9

Can Ysgafn - Y Pantomeim

Ffostrasol
Ar ôl im fod yn Joseff, a Herod, lawer gwaith,
A chyrraedd oedran pensiwn fel bugail mwyn rhif saith.
Roedd gen i’r cymwysterau, i fod yn actor gwych,
Gwnes gais i gael ymuno a phantomeim Cwm Cych.
Yr oeddwn yn reit ffyddiog cael chware y prif ran,
A chyda’m dawn a’m profiad, yn enwog ymhob man,
A wir ‘rol bod yn fugail, cael codi i dir uwch,
Fe gefais fy modloni, cael rhan pen ôl y fuwch.
Yn chware y pen arall, roedd ciwrad gynt o Plwmp,
A deuthum i’w adnabod, wrth edrych ar ei grwmp.
Er fod e’n ddauwynebog, a’i wynt yn weddol rhydd,
Rwy’n si诺r y gwnaiff e ganon pwerus iawn, rhyw ddydd.
Wrth actio rhan mor bwysig digwyddodd rhywbeth ffôl,
Un cam ymlaen a roddodd, es innau dri cham nôl.
A dwedodd rhyw bwysigyn o’r seddau cadw’n glir,
Mae’r drefn yma’n debyg i bwyllgor cyngor sir.
Fe wnes anghofio ngeiriau, un noson yn y dre,
Yn lwcus gwnaeth y ciwrad a brefu yn fy lle.
Ond er yr anawsterau, yn chware merch yr ych,
Rwy’n si诺r y caf ran eto, ym mhantomeim Cwm Cych

Emyr Davies - 9

Beca
Ust, clywch mae’r corn yn seinio, yn galw’r lliwiau fyrdd:
Rhai’n eu gynnau gwynion, a rhai mewn glas a gwyrdd.
Ac wele hi’r frenhines â’r lleuad ar ei phen,
Ac am ei thraed fel dau gan诺, wele dwy “welly” wen.
Ond ble mae e’r dyhiryn , ‘run cas a’r wyneb slei?
Dyw Cameron ac Osborne heb groesi’r trothwy glei?
Ond pwy yw hwn â’i gleddyf – un miniog ar y naw,-
Yn llechu wrth y gadair a bugail ar bob llaw?
Na, na fy ffrind, nid adyn yw, er garwed bo ei wedd;
Mae hwn o lwyth barbaraidd dewr: mae hwn yn geidwad cledd.
Ond dyma un gwahanol iawn yn crwydro ar ei hynt,
Ei groen yn ddu a’i wallt yn ffluwch yn chwythu yn y gwynt.
Hei, hwn yw Zephaneiah, neu Benjamin i fi,
(Mae gen i selfie hyfryd o’r ddau ohonom ni.}
Ond wele, boi od arall a thelyn ar ei gefn,
Yn crwydro gyda’i ebill heb fawr o barch at drefn;
Ac wele Bob,(neu Twm) a Ben yn dawnsio law yn llaw,
A Ceri Wyn a’r beirdd i gyd yn canu yn y glaw.
A welaist ti’r dyhiryn ffrind? Wel naddo, naddo ‘mwn.
Dim ond yr etholedig rhai gaiff fynd i’r panto hwn.

Rachel James – 8.5

Ateb llinell ar y pryd – Y mae o hyd ryw brint man

Ffostrasol
Yn awr er mwyn gwneud arian,
Y mae o hyd ryw brint man.

Beca
Cofiwch ddarllen y cyfan,
Y mae o hyd ryw brint man.

0.5

Telyneg - Holi

Ffostrasol
Bob bore yn ddieithriad
Cerddai hen wraig a’i chi
Heb sylwi a heb glywed
Cymdogion ar bob tu.

Ond heddiw ar ein trothwy
Cyfarthiad ofnus fu
Yn gofyn ac yn gofyn
Am ein hymateb ni.

Dai Rees Davies - 9

Beca
Glywest ti’r gwcw ‘leni,
Ei gweld hi hyd yn od?
A ddath hi i Garn Alw
I ganu fel eriod?

A ddath y wennol hithe
I’r glowty yn Glyn Mân
Yn wthnos gynta Ebrill
Yn gowir fel o’r blan?

Welest ti’r dderwen wedyn,
A’r onnen bwys y t欧?
P’un o’r ddwy we cynta, gwêd,
I wisgo’u dail di-ri?

O, pam na cha’i fynd gatre
I glywed cyffro’r clos?
I weld y dydd yn machlud,
A seren gynta’r nos?

Rachel James – 9.5

Englyn - Banc

Ffostrasol
Banc Bwyd

Agorwyd banc trugarog – i gynnal
Y gweiniaid dieuog;
Ac o foeth y cyfoethog
Rhoi i’r llwm heb gyfri’r llog.

Gareth Ioan – 8.5

Beca
Oes parhad i’r ddafad ddu – a’i phreiddiau
hyd ffriddoedd fy Nghymru,
A’r cyfan o’i gorlannu'n
Elw pur i’r cneifwyr cnu?

Eifion Daniels – 9

Cyfanswm
Ffostrasol – 70
Beca – 70

Llinell ar y pryd - Yr oedd flynyddoedd yn ôl

Ffostrasol
Yr oedd flynyddoedd yn ôl,
Feuryn oedd anarferol.

Beca
Yr oedd flynyddoedd yn ôl,
Eni un mor wahanol.

0.5

Cyfanswm
Ffostrasol - 70
Beca - 70.5