Limrigau Bore Cothi: Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg
Rhys Meirion:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig,
Ac hefyd yn andros o bwysig;
Os y Nefoedd yw’ch bryd
‘R ôl gadael ‘rhen fyd,
Cymraeg yw’r iaith yno, mae’n debyg.
Cynigion CJ o Grymych:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
Iaith ore y Deyrnas Unedig,
Ie dyna fy marn, rwy’n Gymro i’r carn,
A na beth sy’n neud fi’n ffantastig!
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
‘Da’n ffrindie mewn caffi yn Wdig
Archebu o’r fwydlen, corgiwmch a thaten,
Neis iawn odd e wir, bendigedig!!
Cynnig Odwyn Davies:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
Diolchwn i’r ieuenctid bendigedig
Am weld y golau
Ac i wneud eu gorau
I gadw’r iaith a bod yn garedig
Cynnig Tegwyn:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig,
O anodd i Saeson mae'n debyg,
Mae yngan Llanelli neu Aberllefenni,
Yn gyrru sawl un at ei feddyg!!
Cynnig CJ o Grymych:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
Os i chi yn berson brwdfrydig
Mae'n iaith i’w thrysori
Ie wir ewch amdani
Cewch ddysgu ‘da CJ mae'n debyg!!
Cynnig 'Cadno Cwm Brefi':
Mae dysgu'r Gymraeg yn arbennig
Ie plis neu os gwelwch yn dda sy’n fwy bonheddig
Drwy siarad yr iaith bydd yn orchfygiad maith
Byddwn yn agosach i genhedlaeth gwlad y ddraig
Cynnig Huw Rowlands:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
Er bod treigliadau yn ddieflig
Achos amlwg llawer cwyn
Mae nhw ran y swyn
O ddatblygu fel siaradwr detholedig
Cynnig Aled Capel Newi:
Mae dysgu Cymraeg yn arbennig
Os byw yn Nghymru fach wledig
Acen Sir Benfro ond weithie rwy’n altro
Fod yn Gog pan danfon rhyw limerig!
Cynnig Jonathan Simcock:
Mae dysgu'r Gymraeg yn arbennig
ond mae'n gallu bod yn flinedig.
Mae hi'n allwedd i fyd newydd
fel tyfu par o adenydd
a chroeso'r Cymry yn arbennig
Cynnig Heddwyn:
Mae dysgu Cymraeg
yn arbennig,
Ond hefyd mae'n hynod o bwysig
Y bod llawer iawn rhagor
O ddosbarthau yn agor
I ddysgu iaith mor gyflawnedig.