Main content

Rhoi Gliniadur

Yr haf diwethaf, bu gorsafoedd radio lleol y 大象传媒 yn helpu aelodau’r cyhoedd i roi miloedd o hen liniaduron a chyfrifiaduron tabled i blant ysgol eu defnyddio. Roedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r disgyblion hynny a oedd yn rhannu ffonau gartref wrth ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Gyda’r ysgolion ar gau eto, rydyn ni unwaith eto’n gofyn i chi helpu’r disgyblion hynny sy’n dal i fod mewn angen ac rydyn ni’n gweithio i gael eich dyfeisiau chi i’r plant sydd eu hangen fwyaf. Rydyn ni’n rhannu manylion cwmnïau ac elusennau a all ein helpu i gyrraedd ein nod o roi dyfeisiau i ddisgyblion.

Gall rhai elusennau gasglu, sgubo a rhannu’r gliniaduron; gall rhai helpu i gasglu eich dyfeisiau er mwyn eu trwsio’n barod i’w dosbarthu; mae rhai’n casglu rhoddion i helpu i dalu am ddyfeisiau i ddisgyblion; mae rhai yn lleol i ardaloedd penodol ac mae rhai yn genedlaethol, ar draws y DU.

Ers lansio ein hymgyrch ddiweddaraf, gyda’ch help chi, rydyn ni wedi cael dros 17,500 o ddyfeisiau yn rhodd ac mae busnesau wedi addo rhoi 30,000 o ddyfeisiau. Hefyd, mae busnesau lleol, ymddiriedolaethau, unigolion a sefydliadau wedi cyfrannu £700,535 i elusennau ac ysgolion o ganlyniad i’r ymgyrch.


Sut mae rhoi dyfais

PEIDIWCH â dod â rhoddion i safleoedd y 大象传媒 gan nad ydyn ni’n gallu eu derbyn.

Os oes gennych chi rywbeth yr hoffech ei roi – a gallai hynny fod yn liniadur; cyfrifiadur; ffôn symudol neu gyfrifiadur tabled – cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrchoedd rydyn ni wedi cael gwybod amdanyn nhw.

Bydd y gwefannau isod yn rhoi gwybodaeth am sut i roi; pa offer sydd ei angen ac a allan nhw helpu i dynnu eich data. Os gallan nhw dynnu eich data, gwnewch yn si诺r eich bod yn fodlon ar eu proses cyn i chi roi eich dyfais.


Cwmnïau ac elusennau sy'n gallu helpu yng Nghymru

  • Donate IT Wales /
  • North Wales Recycle IT
  • Clwb Rotari Abertawe
  • Clwb Rotari Aberdaugleddau
  • Vodafone: The Great British Tech Appeal -
  • Computer Aid

Sut ydw i’n clirio data oddi ar fy nyfais?

Rydyn ni’n argymell eich bod yn tynnu unrhyw wybodaeth a data personol cyn rhoi unrhyw beth. Does dim modd i ni roi cyngor i chi ar wybodaeth dechnegol benodol ar gyfer eich dyfais. Dyma rai llefydd a allai helpu:
Mae gan wefan y wybodaeth ar sut mae dileu’r data personol oddi ar eich ffôn, cyfrifiaduron tabled a dyfeisiau eraill.
Gall Computer Aid lanhau gyriannau caled o bell cyn i chi roi dyfeisiau.

Ga i adael fy nghartref i roi gliniadur?

Dilynwch y rheolau Covid yn eich ardal cyn mynd i unman y tu allan i’ch cartref. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan y Llywodraeth Cymru .

Rhannu eich cynllun

Os ydych chi’n gwmni technoleg neu ddata gyda chynlluniau sy’n gallu helpu gyda mynediad at y rhyngrwyd, neu ymgyrch heb ei rhestru a fyddai’n hoffi rhannu manylion ag ymgyrch Gwneud Gwahaniaeth, Rhoi Gliniadur y 大象传媒, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon.