Rownd Gyn-derfynol
Trydargerdd: Rhybudd o Ddamwain
Y Ffoaduriaid
Roedd gwneud asesiad risg fan hyn
ychydig yn rhy risgi.
Mae beirdd, mae bar a chance reit dda
gwnaiff tim Rhys Iorwerth golli.
Gwennan Evans (8)
Dros yr Aber
Y Ffoaduriaid campus,
Talyrnwyr gorau’u plwy,
fe fyddai’n dorcalonnus
pe digwydd iddynt hwy
ar bier Aber anlwc cas
o fentro heno’n bwrw mas.
Iwan Rhys (8.5)
Cwpled caeth ar yr odl ‘ig’
Y Ffoaduriaid
O hyd, gall rhai breintiedig
drin y gwan fel darn o gig.
Gruff Owen (9)
Dros yr Aber
Rhy ddall ydi torf fawr ddig
i wirionedd g诺r unig.
Carwyn Eckley ( 9)
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid oeddwn yn hollol hyderus’
Y Ffoaduriaid
A fûm i erioed efo Nerys?
Nid oeddwn yn hollol hyderus,
nes gweld un o’i meibion
bach blewog a gwirion
yn rhaffu penillion anweddus.
Gruff Owen (9)
Dros yr Aber
Nid oeddwn yn hollol hyderus
o eiriau mawr Saesneg niferus,
o’u hystyr na’u hanian,
na sut oedd eu hyngan.
Es allan i brynu Thesaurus.
Rhys Iorwerth (9)
Hir a thoddaid yn cynnwys y llinell: ‘Diawliaf oherwydd mae’n dal i fwrw’
Y Ffoaduriaid
Diawliaf, oherwydd mae’n dal i fwrw —
dwi heb ymbarél. Er hel i alw
â darn o deisen, tosturi’n dusw,
a mygu’r piti drwy’m geiriau pitw,
dwyn hwyl, a’th fyd yn ulw... pan ddaw’n braf,
wir, mi alwaf, ond ni feiddiaf heddiw.
Llyr Gwyn Lewis (10)
Dros yr Aber
Maen nhw’n sôn am sychder biliwn-erw
rywbryd yn lledu dros fryniau lludw,
am hin yfory’n troi’r byd ’ma’n ferw
a llanw cry’r môr yn llyncu’r meirw.
Mi ddaw hyn oll, meddan nhw. Ond trwy’r dydd,
diawliaf oherwydd mae’n dal i fwrw.
Rhys Iorwerth ( 10)
Triban Beddargraff Steilydd Gwallt
Y Ffoaduriaid
Mewn morgue gosodwyd ynta'
i’w bwmpio'n llawn cemga,
a'r ymgymerwr holodd o,
"ti'n planio mynd ar wylia?"
Gruffudd Owen (9)
Dros yr Aber
Di-flewyn wyf ar dafod,
fe dorrwyd ei grib hynod.
I un a fu â steil go lew,
ni holltaf flew, bu ddarfod.
Carwyn Eckley (8.5)
Cân Ysgafn: Holiadur neu Holiaduron
Y Ffoaduriaid
A finna’n ista wrth fy nesg yn bôrd un bore Llun
mi benderfynais sgwennu pwt holiadur i fi’n hun.
Cyflwr corfforol?
Gwell nag oedd, ond wna i ddim tynnu ’nghrys,
rhag ofn i chi ’nghymharu efo GodBod Iwan Rhys.
Sut byddech chi’n disgrifio’ch steil?
Mi hoffwn fentro ‘edgy’...
Ond nes i’r gwir sa ‘ficar wedi’i groesi efo veggie’.
A moelni’ch pen, rhwng 1 a 10?
Mae hwnnw’n fater pigog...
Rhyw 6 ma si诺r, ond gallaf dwyllo 3 pan di’m rhy wyntog.
Lawr grisiau?
Wel, nid yw ’mhen ôl yn fan at ôl i’w drystio,
ac mae na lefydd rownd y ffrynt sa’n gwneud â bach o ddystio.
Ym maes cwestiynau barddol, ro’n i’n teimlo bach mwy hy:
‘Yr ydwyf i yn lot gwell bardd na Gruff’:
Cytuno’n gry.
A allwch wneud telyneg gywrain, gain fel Marged Tudur?
Go brin – ond am ryw twenti cwid mi gewch chi limrig budur.
A phe bai raid, sut byddech chi’n gwerthuso eich barddonwerth?
Dwi’n handi iawn mewn Stomp fel fersiwn rhatach o Rhys Iorwerth.
Ond blinais i ar holi’n hun. I’r cwestiwn ola’n chwim,
‘Beth fyddech chi’n ei newid am eich hun?’
Atebais: ‘dim’.
Pa ddata ddadansoddwyd, wedi’r holi mawr a’r trwst?
Cewch glywed fy nghasgliadau yn y ffeinal yn Llanrwst.
Llyr Gwyn Lewis (9)
Dros yr Aber
Diolch am gytuno i ateb yr holiadur.
Myfyriwch yn ofalus cyn bwrw pin ar bapur.
C: Pa un o’r dulliau dysgu â’ch helpodd ichi ddeall?
Y sleids, y seminarau, neu’r tiwtorialau?
A: Arall.
C: A ydych yn cytuno y bu’r cwrs yn dda i’ch gwaith?
A: Nid ydwyf yn cytuno nac yn anghytuno chwaith.
C: Yn eich swydd o ddydd i ddydd a fyddwch nawr yn glynu
At y gwersi a’r technegau a ddysgoch?
A: Mae’n dibynnu.
C: Petaech chi’n dewis eto, beth fyddech chi yn gwneud
Wrth ddewis cwrs mewn coleg?
A: Gwell gen i beidio â dweud.
C: A wnewch chi ein hargymell i’ch cymheiriaid proffesiynol
Gan rannu ein prosbectws yn eich swyddfa?
A: Amherthnasol.
C: Lleoliad, grantiau ymchwil, darlithwyr, ysgolheictod.
Pa un wnaeth ichi ddewis y cwrs?
A: Dim un o’r uchod.
C: At ddiben sicrwydd ansawdd, a gawn ni’r hawl i gadw
Eich data a’ch manylion yn ein cronfa ni?
A: Dim sylw.
C: Nesaf a wnewch chi nodi ar y llinell hir o ddotiau
Pa gwrs y gwnaethoch ddilyn.
A: Y Cwrs Gwneud Penderfyniadau.
C: I orffen, a wnewch chi nodi y dyddiad, a rhoi llofnod.
A: Y nawfed o Orffennaf, eleni. Simon Goobod.
Iwan Rhys ( 9)
Ateb llinell ar y pryd: Ni rannwn ni yr un nod
Y Ffoaduriaid
Hwn sy’n dandwn Prydeindod
Ni rannwn ni yr un nod
(0.5)
Dros yr Aber
Sai moyn gob Simon Gobood
Ni rannwn ni yr un nod
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Creu
Y Ffoaduriaid
Wrth i beiriant golchi’n dyddiau chwyrlïo
rhwng rhoi’r hogyn penfelyn i’w wely,
crafu drôr ffrij am salad i’w hwylio
a thalu bils, ffonio’r garej, a syllu
ar ffôn wrth aros ateb o rwla,
crafu ddoe o walia pobol eraill, i’w peintio...
pigwn ysbeidiau oddar lawr fel cheerios,
dal swigod munudau o dd诺r llestri llwyd
a’u gollwng dan dincial i gadw-mi-gei ein hwythnos.
Naddwn eiliadau o gorneli’r bwrdd bwyd
i wneud tolc yn llurig amser,
fel pant dy siâp yn dyner yn y gwely diddos.
Cyhyd ag y medraf, daliaf yn dynn
ar ôl chwilmanta ym mriwsion cefn soffa
ar yr hen geinioga prinion gwyn
sy’n prynu’r anadlu hwn, yn creu’r seibia
i wylio’n gilydd a stopio a gwenu a chofio.
Yli, dwi’n chwilio r诺an hyn.
Llyr Gwyn Lewis (10)
Dros yr Aber
Clep drws car,
a’i sgidiau lledr yn sgyrnygu
ar ro mân y maes parcio.
Cwyd gliced giât y mynydd
a’i meddwl
yn llawn gronynnau llwch.
Ar y llwybr,
haws chwarae cuddio
â’r wynebau sy’n mynd am adref
i fwyta tec-awê, dyfrio’r potiau blodau,
cloi’r garej a gwagio’r peiriant llestri.
Â’r môr a’r awyr
ar fin maddau i’w gilydd drachefn,
daw’r nos i gropian am y copa,
a’i hanadl sy’n sigo.
Ond fesul cam, mae hi’n gwisgo’i
chroen am ei chorff eto.
Marged Tudur (9.5)
Englyn: Uned
Óscar a Valeria
Tyd, del, at Dad, a daliwn ein gilydd
fel gelen. ’Wahanwn
ni ddim i neb: wynebwn
fraich ym mraich y marw hwn.
Llyr Gwyn Lewis ( 10)
 minnau ar fin dod yn llystad
Deallaf, wrth dynnu'u dillad o'r olch
A'u rhoi fesul plygiad
Yn y drâr, beth yw cariad
Er nad wyf i'r rhain yn dad.
Iwan Rhys (10)