Main content

Ffoaduriaid v Tir Iarll

Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 140 o nodau cyfrifiadurol): Pennill yn chwalu myth poblogaidd

Tir Iarll
Ai rhith byw yw Gareth Bale
ddaw i ennill, ddihuna'n
Uther hud, yn Arthur ha'
a'i hogiau yn farchogion
i ga’l Greal i'n Bord Gron?

Dafydd Emyr – 8.5

Ffoaduriaid
I’w chanu mas o diwn yn rhacs ar alaw sy’n ymdebygu’n fras i bennill Calon Lân
Mae fy ngwlad yn adnabyddus
dros y byd fel gwlad y gân
ond mae rhai sy’n ffaelu canu
er eu bod yn Gymry glân.

Gwennan Evans – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘talp’

Tir Iarll
Heb “urddas” hwn yw’r caswir
Nid yw “Hon” ond talp o dir.

Dafydd Emyr – 8.5

Ffoaduriaid
Pwy gawn ni, â’u talp o gnawd
a’u poen, i werthu pennawd?

Ll欧r Gwyn Lewis – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Apeliais yn hir ac yn llafar’

Tir Iarll
Apeliais yn hir ac yn llafar
Ac felly nid euthum i’r carchar;
Gan mai Jeremy Hunt
Aeth dan fy whîl ffrynt,
Ces iawndal am faw ar y teiar!

Emyr Davies - 9

Ffoaduriaid
“Wir genod, nid fi ydi’r stripar!”
apeliais yn hir ac yn llafar,
ond ymhen hanner awr
roedd Merched y Wawr
wedi gweld pethau mawr am eu ffeifar.

Gruffudd Owen - 9

Ffug-farwnad ar fesur Englyn Milwr

Tir Iarll
Er Cof am Donald J Trwmp

Ein loes ddaw i’r gwddw’n lwmp,
Yn hirlwm o alarlwmp
Wedi tranc ein Donald Trwmp.

Mae hiraeth trwy’r Amerig;
Yno lle rhoed llawer wig
Ni fywiogir hen figwig.

Gwelwn eisiau’r geiriau gwâr,
Ei dafod diedifar,
Ei wên sgi-wiff a’i sigâr.

Ei obaith mwyaf pybyr
Ydoedd byw mewn gwlad oedd bur,
A’i fyd heb sawr ymfudwyr.

O’r bloneg i’r biliynau,
Mae ein cof yn miniocáu
Y rhwyg o golli’r wigiau.

Emyr Davies - 9

Ffoaduriaid
Dai Jones, Llanilar

Wylwch, wylwch fy Ngwalia,
un Sul daeth y cais ola‘,
nid oes mwy “Fi Dai sy ma”.

Heddiw’n glaf, mae pob dafad
yn wylo, ddaw ’run alwad
nôl â Dai a’i “Wannwl Dad!”

Ein tenor deunaw tunnell,
ein dawnus, barchus borchell,
ein llo gwyn, mae mewn lle gwell.

Yn y nef mae o’n nofio,
mae’n sgweiar chwim yn sgio’n
llithrig, ac nid yw’n llithro.

Llanilar sy’n galaru
ei fod o fewn ei feudy
yn farw dan darw du.

Gruffudd Owen – 9.5

Pennill ymson mewn siop ffôn

Tir Iarll
Mae’n rhaid ’mod i ym Marks o hyd
â’r silffoedd yn lleng o ffrwythau.
Er eu bod nhw braidd yn ddrud,
prynaf oren, mwyaren ac afalau.

Gwynfor Dafydd – 8.5

Ffoaduriaid
Ces ddêl ar ffôn go glyfar
a chanddo apps di-ri.
Des yma i'w ddychwelyd;
mae'n glyfrach nag wyf i.

Gwennan Evans - 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Yr Aduniad

Tir Iarll
Daeth llythyr o’r ysgol (ac nid un bygythiol
am blentyn absennol), yn wennol o wên
yn estyn gwahoddiad i fynd i aduniad,
ag awgrym o siaclad, sy’n syniad reit sane.

Yr alwad a atebais ac felly ymbinciais
fy nhrwyn, do fe’i blyciais ac eilliais ar gân;
a dyma fi’n synnu, yn y drych o fy mlaen-i
roedd ceiliog go ddandi, ‘di aileni’n lân.

Ac felly’n yr ysgol, fel camu i’r gorffennol,
golygfa reit iasol lawn asols, ond h欧n,
yno a’m disgwyliai, drwy ‘mhen roedd gweddïau
cawn ddianc â minnau ar siwrnai heb wneud sîn.

Dechreuodd rhai feddwi ac wy’n meddwl meddwi
fel pe bai pob fory wedi’i werthu i’r diawl,
agorodd yr yfed geg fawr ddiymwared
a insyltiodd hyd syrffed ... Sylwed y sawl

sy’n gweld mewn slo-môshan ei lafoer yn driblan
na fydd eto’n fuan wahoddiad yn awr;
drwy feddwl y meddwyn, rhed atgof bach sydyn
o orwedd yn borcyn, noethlymun ar lawr …

Aneirin Karadog - 9

Ffoaduriaid
Rôl saib o hanner canrif, fe gafodd Gruff ryw chwiw-
ailffurfio’r Ffoaduriaid tra’n bod ni dal yn fyw.
“Eleni yw ein blwyddyn, mae’r stats i gyd o’n plaid,”
erfyniodd dros y ffôn wrth Ll欧r oedd newydd ddod yn daid
am yr unfed tro ar hugain, a’n dal i fynd i’w waith,
a’n chwysu dros ei ddegfed casgliad cyflawn, clodwiw, maith.
Clustfeiniais ar fonllefau fel “i’r gâd” a “parch a bri”,
“rhoi hell” a “dangos be di be i’r llafnau, ifanc hy”.
Gwglasant Casia Wiliam, dylyfais i fy ngên
ac yngan cyngor fel “i be?”, “oes rhaid?” a “lot rhy hen”.
Gadawodd Casia Oxfam, o dan gwmwl, yn ôl Ll欧r
rôl helynt gydag arf neu gyda gafr, nid oedd yn glir.
Aeth mlaen i wneud ei ffortsiwn ar Big Brother yn Brasil
a chyhoeddodd hunangofiant: Sixty six and sexy still.
Daeth nôl o Galiffornia ar ddydd yr ornest fawr
a’i choen mor dynn, edrcyhai Casia’n iau na mae hi nawr.
O dan ei sbectol dywyll roedd rhes o ddannedd gwyn
a chot a roddodd ddiwedd ar ryw rywogaeth brin.
Ein sgôr oedd dau ddeg pedwar a bu’r meuryn braidd yn hael
ond dwedes i o’r dechre fod ailffurfio’n syniad gwael.

Gwennan Evans – 9.5

Ateb y llinell ar y pryd: Yn nhîm y Sais y mae ser

Tir Iarll
Yn nhîm y Sais y mae ser
Ein llef sy’n sy’n pylu’u lleufer.

0.5

Ffoaduriaid
Mae’n bryd am hen hen bryder,
Yn nhîm y Sais y mae ser.

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Trugareddau

Tir Iarll
Cadair Siglo

Pam,
a minnau ar fin camu i’r car
a’i gadael hithau’n griddfan yn y sgip,
y teimlais ei dwylaw amdanaf
yn gafael yn dynn?

Efallai
am ’mod i’n dal i deimlo mam-gu’n
fy siglo ’nôl a ’mlaen arni,
am ’mod i’n dal i gofio’r straeon ger y pentan
am ei mam-gu hithau’n gwneud yr un fath.

Yn siglo a siglo a siglo.

A dyma fi wedyn, ar y soffa ledr,
yn estyn am eiriadur Sbaeneg,
a gweld, rhwng du a gwyn, mai ystyr ‘siglo’
yw ‘canrif’.

A deall pam.

Rhuthrais at y sgip i adfer yr hen bren,
a’i gosod yn y gornel lle caiff siglo drachefn.

Gwynfor Dafydd - 9

Ffoaduriaid
Mae’r cwbl yma o hyd.
Ar ôl blasu llwch y safana,
gweld y lleuad o Bolgatanga
a'r haul mwll yn llosgi'r tir.
Adra, fel petai dim wedi newid,
mae’r cwbl yma o hyd.

Sgarff, gemwaith, llyfrau,
peiriant gwneud sm诺ddis a ffilmiau,
pentyrrau, pethau. Llond gwlad o drugareddau.

Fi bia’r cwbl?
Dwi’n trio cofio wrth fwytho cotwm a chlawr.
Yn trio clywed y carolau eto, blasu’r twrci, y miri.

Ond yng nghanol fy nyth clud
dwi’n sownd dan swyn Affrica.
Ac mae’r ddynes hudolus honno
a’i dawnsio gwyllt a’i thraed budur,
ei phatrymau lliwgar a’i dwylo gwag
wedi disbyddu pob ystyr o’m eiddo.

Casia Wiliam – 9.5

Englyn:Tystysgrif

Tir Iarll
Cwpwl hoyw yn cofio nol i ddydd eu priodas

Mi seriwyd yn ein hamserwydd un dydd
Yn dyst i’r blynyddoedd,
Nid inc oer ond ein co’ oedd,
Eiliadau ein hawl ydoedd.

Aneirin Karadog – 9.5

Ffoaduriaid
Tystysgrif gradd Prifysgol Bangor

Yn dy radd, mae budreddi - a chwerwedd,
a chwarel, a thlodi
a dycnwch, a llwch llechi
a chreithiau dy deidiau di.

Gruffudd Owen – 9.5

Cyfanswm
Ffoaduriaid - 73
Tir Iarll – 71