Sgript Slam
Mae yn dychwelyd ar gyfer dwy raglen sgetsus hanner awr ym mis Gorffennaf.
Bydd pob rhaglen wedi ei seilio ar bynciau gwahanol, a chi fydd yr awduron.
Dyma gyfle i chi gyfrannu yn uniongyrchol tuag at greu rhaglen sgetsus ar gyfer Radio Cymru. Mae yn agored i bawb, beth bynnag yw eich profiad o ysgrifennu. Os gewch chi syniad am sgets, ewch ati i’w ysgrifennu a'i anfon atom.
Dyma'r themâu ar gyfer y rhaglenni:
- Gwyliau
- Ennill
- Y corff
- Cosb
- Gwaith
Mae'r pynciau yna er mwyn eich annog i ddechrau meddwl, ond meddyliwch am ffyrdd gwahanol a gwreiddiol. o drin y pynciau.
Yn ogystal rydym yn edrych am benawdau/straeon newyddion byr yn ymwneud ag unrhywbeth sydd ddim yn amserol.
Cofiwch y cyngor
"Peidiwch ysgrifennu am y peth cynta wnewch chi feddwl amdano, bydd pawb wedi meddwl am hwnnw. A pheidiwch ysgrifennu am yr ail beth wnewch chi feddwl amdano, bydd nifer mawr wedi meddwl am hwnnw hefyd. Yn hytrach ewch am y trydydd neu'r pedwerydd peth y meddyliwch amdano, bydd tipyn mwy o siawns bod hwnnw'n wahanol"
Ry' ni'n edrych am sgetsus gwreiddiol, fydd yn cymryd golwg wahanol a gwreiddiol ar y pynciau, peidiwch gadael i'r pynciau eich cyfyngu.
Rhowch sioc i ni! Ond cofiwch gadw'r sgetsus YN FYR. Dim mwy na 2 funud
Strwythur y Gyfres
Bydd y sgetsus yn cael eu perfformioo gan 4 actor - 2 ddyn a 2 ddynes.
Ystyriwch hynny wrth ysgrifennu. Gallwch ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o oed ac acenion, a gallwch amrywio nifer y cymeriadau.
Y Broses
Unwaith i ni dderbyn eich sgetsus, bydd y cynhyrchwyr yn eu darllen.
Os bydd eich gwaith yn cael eu ystyried ar gyfer darlledu, fe wnawn gysylltu â chi.
Ni fyddwn yn cysylltu â chi os nad yw’ch gwaith yn cael ei ddewis ac yn anffodus ni fydd yn bosib cynnig adborth manwl i'r cynigion aflwyddiannus.
Bydd y sgetsus yn mynd trwy broses olygyddol, fydd yn cynnwys adborth a chynigion ar ailddrafftio cyn penderfynu ar gynnwys terfynol pob rhaglen unigol.
Bydd taliad am unrhyw sgets fydd yn cael ei darlledu. Fe gewch y taliad ar ddiwedd y gyfres fel bod modd cyplysu taliadau am fwy nag un sgets.
Ffi
Bydd taliad o:
- £42 y funud am sgetsus o funud neu fwy
- £21 am bob 30 eiliad am sgetsus o dan funud o hyd
- £21 am gyfraniadau byr bachog (oneliners)
Cyngor
Cofiwch mai ar gyfer y Radio y mae'r sgetsus, felly ni ellir dibynnu ar hiwmor gweledol, a bod croeso wrth gwrs i chi nodi unrhyw effeithiau sain ayyb.
Efallai y byddech yn dymuno cymryd cip ar gynghorion un o olygyddion sgriptiau comedi y 大象传媒 sydd yn yr atodiad.
Cyflwyno'ch Gwaith
'Does fawr o reolau i gyfyngu ar y cynnwys. OND mae ychydig o amodau am sut a phryd y dylech gyflwyno’r gwaith.
Ystyriwch rhain yn ofalus
- Dyddiad cau cyflwyno’r sgetsus yw dydd Llun Mehefin 5ed am hanner dydd – ni fydd yn bosib i ni ystyried unrhyw waith a gyflwynir wedi hyn.
- Cofiwch gynnwys y canlynol ar linell pwnc eich ebost - Pwnc y sgets - Teitl y Sgets - Eich Enw
- Os ydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer mwy nag un pwnc a wnewch chi sicrhau eu bod yn cael eu hanfon fel gr诺p o sgetsus. E.e. dylai pob sgets ar gyfer pwnc gael eu hanfon mewn ebost ar wahân i sgetsus ar gyfer y pynciau eraill
- Ar bob tudalen o’ch sgets, dylech nodi y canlynol yn yr header:
Enw
Cyfeiriad ebost
Teitl y sgets
Y pwnc dan sylw
Mae hyn yn bwysig iawn yn y broses o dalu. - Cofiwch y gall eich gwaith gael ei olygu/addasu gan ein tîm cynhyrchu
- Wrth ysgrifennu, cofiwch na fyddwn yn gallu cynnwys gormodedd o regfeydd. Byddai perygl i’ch gwaith gael ei ddiystyru os oes gorddefnydd o regfeydd
- Yn olaf, cadwch eich sgetsus yn fyr ac yn gynnil – yn aml dyna gyfrinach llwyddiant comedi da.
- Byddwch yn greadigol ac yn wreiddiol a'n bennaf oll MWYNHEWCH
Dylech anfon eich cynigion at sgriptslam@bbc.co.uk cyn 12:00 y.h. Mehefin 5ed