Cyfrannu Cit
Y pel-droediwr Nathan Craig yn trafod gwerth cyfrannu cit hyfforddi er lles ein ieuenctid
Nathan Craig yn trafod gwerth cyfrannu cit hyfforddi i gefnogi ein ieuenctid.
Wrth i ni i gyd ddod allan o bandemig y Coronafeirws, mae 大象传媒 Radio Cymru a gorsafoedd eraill y 大象传媒 ledled y DU yn dod at ei gilydd i helpu plant a theuluoedd.
Mewn adroddiad diweddar, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddata gan Sport England a oedd yn dangos bod 100,000 yn llai o blant yn cyflawni’r lefel gweithgarwch a argymhellir yn 2020 nag yn 2019 ac roedd hyn yn “destun pryder sylweddol”.
Un broblem yw mynediad at chwaraeon ac ymarfer corff oherwydd fforddiadwyedd cit, ac mae’r pandemig wedi gwaethygu’r sefyllfa.
Hefyd, gallai cit mewn cyflwr da, a fyddai fel arall yn mynd i safleoedd tirlenwi neu’n llechu yng nghefn cypyrddau, gael bywyd newydd a helpu person ifanc i gadw’n heini.
Rydyn ni eisiau gwneud ein rhan i helpu.
Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gobeithio helpu pobl ifanc Cymru i wneud mwy o ymarfer corff.
Sut gallwch chi gymryd rhan
Rydyn ni’n chwilio am roddion yn ogystal â chwmnïau neu elusennau sy’n fodlon i’w safleoedd gael eu defnyddio ar gyfer casglu citiau glân mewn cyflwr da ar adegau penodol a/neu sy’n fodlon eu dosbarthu i ysgolion a chlybiau a allai fod eu hangen.
Rydyn ni’n chwilio am eitemau o git chwaraeon bob dydd (dillad) ac offer gemau arferol y gall person ifanc eu defnyddio mewn gweithgaredd, fel peli, batiau a racedi. Dydyn ni ddim yn chwilio am eitemau mawr fel offer campfa.
Felly, ewch drwy’ch cypyrddau, rhowch drefn ar yr ystafelloedd gwely ac os oes gennych git neu offer chwaraeon nad oes arnoch eu heisiau, helpwch ni i'w trosglwyddo i blant ac oedolion ifanc.
Os ydych chi’n elusen neu’n gwmni gyda chynlluniau sy’n gallu helpu gyda mynediad at gitiau chwaraeon, neu’n ymgyrch heb ei rhestru a fyddai’n hoffi rhannu manylion ag ymgyrch Gwneud Gwahaniaeth y 大象传媒 - Cyfrannu Cit, cysylltwch â ni drwy ddanfon e-bost at gwneudgwahaniaeth@bbc.co.uk
Ble allwch chi fynd â’ch citiau chwaraeon diangen?
PEIDIWCH â dod â rhoddion i safleoedd y 大象传媒 gan nad ydyn ni’n gallu eu derbyn.
Mae’r gwefannau isod yn rhoi gwybodaeth am sut i roi. Gall rhai cwmnïau ac elusennau gasglu eich cit yn barod i’w ddosbarthu; mae rhai’n casglu rhoddion i helpu i dalu am gitiau i bobl ifanc; mae rhai’n lleol i ardaloedd penodol ac mae rhai’n gweithio ledled y DU.
Rydyn ni’n chwilio am git glân y gellir ei ddefnyddio. Rydyn ni’n argymell eich bod yn rhoi unrhyw git neu offer mewn bag cyn eu rhoi. Gall canolfannau casglu wrthod derbyn eitemau os nad ydyn nhw mewn bag.
Gydag unrhyw roddion, rydyn ni’n argymell eich bod yn dilyn canllawiau Covid-19 y cwmni neu’r elusennau.
Sefydliadau a lleoliadau yng Nghymru
- - Yn derbyn rhoddion mewn gwahanol ganolfannau hamdden ledled y DU.
- - Yn cysylltu busnesau ac unigolion ag ysgolion yn eu hardal sy’n derbyn rhoddion. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o’r DU.
- - Yn derbyn rhoddion mewn gwahanol fannau casglu ledled y DU, gan gynnwys mewn lleoliadau yng Nghymru.
Cwestiynau Cyffredin
Alla i roi’n uniongyrchol i ysgol neu glwb?
Rydyn ni’n argymell eich bod yn rhoi cit ac offer drwy un o’n cwmnïau neu elusennau cysylltiedig. Os hoffech chi gysylltu ag ysgol neu glwb yn uniongyrchol, dyma ambell le a allai helpu. Mae gan ffurflen ar-lein lle gall ysgolion gofrestru i ofyn am addewidion o rodd. Maen nhw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r DU.
Rydyn ni’n ysgol neu’n glwb ac yn awyddus i gael gafael ar git neu offer – sut mae gwneud hyn?
Os ydych chi’n ysgol neu’n glwb a fyddai’n elwa o gael cit neu offer yn rhodd, rydyn ni wedi rhestru rhai cynlluniau a fydd yn helpu. Mae gan ffurflen ar-lein lle gall ysgolion gofrestru i ofyn am addewidion o rodd. Maen nhw’n cynnwys y rhan fwyaf o’r DU.
Dolen Gysylltiedig:
Telerau a Hysbysiad Preifatrwydd Gwneud Gwahaniaeth y 大象传媒 - Cyfrannu Cit