大象传媒 Wales Sports Personality of the Year / Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru
or to vote.
Hollie Arnold (para-athletics/para-athletau)
Arnold won her fourth consecutive javelin world title at the 2019 World Para-Athletics Championships in Dubai, UAE. She set a new championship and European record throw of 44.73m to defend her women's F46 javelin title.
Enillodd Arnold ei phedwerydd teitl byd gwaywffon F46 ym Mhencampwriaeth Para-Athletau’r Byd. Sefydlodd record y bencampwriaeth a record Ewropeaidd, sef 44.73m.
Elinor Barker (cycling/seiclo)
Barker proved her world-class pedigree at the 2019 Track World Championships, winning gold in the scratch and silver as part of Great Britain's women's team pursuit quartet. She followed that up with two more medals at the Track World Cup by claiming gold in the women's team pursuit and silver in the madison.
Enillodd Barker y fedal aur yn y ras ‘scratch’, a'r fedal arian ym mhedwarawd ras ymlid tîm merched Prydain ym Mhencampwriaeth Trac y Byd. I ddilyn hynny, cafodd aur ac arian yng Nghwpan Byd y Trac.
Menna Fitzpatrick (para-alpine skiing/sg茂o para-alpaidd)
Visually impaired skier Fitzpatrick and guide Jennifer Kehoe continued to blaze a trail with success at the 2019 Para-alpine World Championships. The pair claimed two golds, two silvers and a bronze at the event held jointly in Slovenia and Italy - in the process becoming the first British skiers to win both Paralympic and world titles.
Fe wnaeth y sgiwraig sydd â nam ar ei golwg, Fitzpatrick a’i thywysydd Jennifer Kehoe, hawlio dwy fedal aur, dwy fedal arian ac un efydd ym Mhencampwriaeth Para Sgïo’r Byd, gan ddod y sgiwyr Prydeinig cyntaf i ennill teitl Paralympaidd a theitl byd.
Sabrina Fortune (para-athletics/para-athletau)
Shot putter Fortune won her first world title in dramatic fashion at the 2019 World Para-Athletics Championships in Dubai, UAE, in November. The athlete from Deeside shattered her previous personal best of 13.70m with a last throw of 13.91m to snatch gold from Ukraine's Anastasiia Mysnyk.
Fe wnaeth y daflwraig pwyse, Fortune, ennill ei theitl byd cyntaf mewn ffordd ddramatig ym Mhencampwriaeth Para-Athletau’r Byd yn Dubai, gan guro ei sgôr gorau blaenorol drwy daflu 13.91m i gipio’r aur oddi ar Anastasiia Mysynyk o Wcrain.
Alun Wyn Jones (rugby union/rygbi'r undeb)
During 2019 Jones captained Wales to Grand Slam success and was named Six Nations player of the tournament, with the second row also leading Wales to the World Cup semi-finals in Japan. He became Wales' record cap-holder and has now won 134 for his country, plus nine for the British and Irish Lions.
Jones oedd capten Cymru a enillodd y Gamp Lawn eleni, gan gael ei enwi’n chwaraewr y gystadleuaeth yn y broses. Arweiniodd ei wlad i’r rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn Japan, ble enillodd cap rhif 134 i Gymru, sydd yn record.
Jade Jones (taekwondo)
Jones secured the first world title of her career with gold at the World Taekwondo Championships in May in Manchester, beating arch-rival Lee Ah-reum 14-7. As well as her World Championships success, Jones also took gold at the Sofia Open and a silver at the Belgian Open.
Mae Jones wedi bod yn bencampwraig Olympaidd ddwywaith, a chipiodd deitl byd cyntaf ei gyrfa drwy ennill yr aur ym Mhencampwriaeth Taekwondo'r Byd ym Manceinion ym mis Mai. Enillodd yr aur hefyd yn y gystadleuaeth agored yn Sofia, ac arian yn y gystadleuaeth agored yng Ngwlad Belg.
Hannah Mills (sailing/hwylio)
Mills, with sailing partner Eilidh McIntyre, claimed gold at the 470 Class World Championships in Enoshima, Japan, in August, racing on the same stretch of water that will host the Tokyo 2020 Olympic regatta. The pair returned to Enoshima 11 days later to add a silver in the Olympic test event.
Fe wnaeth Mills, gyda’i phartner hwylio Eilidh McIntyre, gipio’r aur ym Mhencampwriaeth y Byd Dosbarth 470 yn Enoshima, Japan, ym mis Awst. Dychwelodd y pâr i Enoshima yn ddiweddarach yn y mis gan ychwanegu’r fedal arian mewn digwyddiad prawf i Gemau Olympaidd Tokyo 2020.
Lauren Price (boxing/bocsio)
Price became the first Welsh boxer to win a World Championships title when she took gold in Ulan-Ude, Russia, on a night full of drama. The 69-75kg final was initially given to the Netherlands' Nouchka Fontijn on a split decision, but after a successful appeal the second round was unanimously rescored in favour of Price and gave her the gold.
Price oedd y focswraig gyntaf o Gymru i ennill teitl Pencampwriaeth Byd. Noucha Fontijin o'r Iseldiroedd enillodd rownd derfynol y 69-75kg yn Rwsia a hynny ar sail penderfyniad hollt, ond ar ôl apêl lwyddiannus o blaid Price, enillodd hi'r fedal aur.
Vote by telephone / Pleidleisiwch dros y ff么n
Call 09011 9870 followed by:
Ffoniwch 09011 9870 ac ychwanegwch:
Hollie Arnold: 01
Elinor Barker: 02
Menna Fitzpatrick: 03
Sabrina Fortune: 04
Alun Wyn Jones: 05
Jade Jones: 06
Hannah Mills: 07
Lauren Price: 08
Calls cost 10p plus your network’s access charge. Please ask the bill payers permission. Voting will close on Sunday 8th December 2019 at 6pm. Please do not vote if you are watching on demand. The winner will be announced online from 9pm on Tuesday 10th December.
Mae pob galwad ffôn yn costio 10c a thâl mynediad eich rhwydwaith. Gofynnwch am ganiatâd y person sy’n talu’r bil, os gwelwch yn dda. Bydd y bleidlais yn cau ddydd Sul 8 Rhagfyr 2019 am 6pm. Peidiwch â phleidleisio os ydych chi’n gwylio ar-alw. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl 9pm ddydd Mawrth 10 Rhagfyr.
Terms & Conditions / Telerau ac Amodau
Terms & Conditions
The nominations processes, criteria and voting details (where applicable) for each award are outlined below.
MAIN AWARD - NOMINATION PROCESS & CRITERIA
This award goes to the sportsperson whose actions have most captured the public’s imagination during 2019.
An expert panel (hereafter 'the Panel') will be convened in November 2019 in Cardiff to decide the shortlist of sportspeople for the 大象传媒 Cymru Wales Sports Personality of the Year award.
The 大象传媒 Wales Sports Personality of the Year production team will provide the Panel with an extensive list of the top sportspeople from 2019, including information on their achievements. The Panel will be free to consider other potential candidates.
The Panel will comprise 5 members this year:
Nigel Walker (Chairman)
Tanni Grey Thompson
Nathan Blake
Carolyn Hitt
Brian Davies
The Panel will also:
- Undertake a back-up vote for the main award (in the unlikely event of voting difficulties on the night of the show). The Panel will select a short list of sportspeople for the main award on the basis of the following criteria:
- Reflects Wales’s sporting achievements on the national and/or international stage;
- Represents the breadth and depth of sport in Wales; and
- Takes into account 'impact' over and beyond the sport or sporting achievement in question.
Sports people are eligible to win the main 大象传媒 Wales Sports Personality of the Year award if they represent or are eligible to represent Wales at international sport.
Non-playing coaches or management are not eligible.
The Panel will endeavour to produce a shortlist based on reaching a consensus view. If a consensus view cannot be reached on all or some of the candidates, then the Panel will be asked to vote for the remaining candidates. In the event of a tied vote, the chairperson's decision (Nigel Walker) will be binding.
The shortlist of contenders will be announced during 大象传媒 Wales Today on 大象传媒 One Wales later in November and will also appear on the 大象传媒 Wales Sports Personality of the Year website.
MAIN AWARD – PUBLIC VOTE
The public will decide the winner from the shortlist of contenders from Monday 2 December – Sunday 8 December 2019 inclusive with a vote. The result will be independently verified. In the unlikely event of:
- A tie in the public vote amongst the two contenders obtaining the highest number of votes, the award will be shared amongst those two. There will be no award in second place category and the third place category award will go to the contender scoring highest after the two in the tie.
- A tie in the public vote amongst the three contenders obtaining the highest number of votes, the award will be shared amongst the three and there will be no awards in second and third place categories.
- A tie in the public vote amongst two contenders obtaining the second highest number of votes, the second place award will be shared amongst those two and there will be no award in third place category.
- A tie in the public vote amongst two contenders obtaining the third highest number of votes, the third place award will be shared amongst those two.
LIFETIME ACHIEVEMENT AWARD
This award honours someone who has made a major impact on the world of sport in Wales during their lifetime. It is decided by the panel of judges as described above. The award will be presented live at the Wales Sport Awards event on Tuesday 10 December 2019.
TEAM OF THE YEAR AWARD
This award honours the team which is felt to have made the biggest impact in Welsh sport during 2019. It is solely decided by the panel of judges as described above. There is no public vote. The award will be presented live at the Wales Sport Awards event on Tuesday 10 December 2019.
GENERAL VOTING TERMS AND CONDITIONS
- Voting for the main award will be from a shortlist of contenders presented between 0730 Monday 2 December 2019 and 1800 on Sunday 8 December 2019. Voting will be available by phone or online. The number to call for each contender will be revealed when the voting period commences. The telephone numbers will be available via the 大象传媒 Wales website and social media sites. The online vote will be available via the 大象传媒 Wales website. Those who wish to vote online will need to sign in to a 大象传媒 account at . If you do not have a 大象传媒 account, you can register for one for free at . If you have any trouble registering or signing in, you can visit the help pages at . The online vote will be open during the same period as the telephone lines.
- Voting is by telephone and online only. Please note that you cannot vote by email, Red Button or via text. Votes will be capped at 2 votes per CLI by telephone and 1 vote per account on online. The results of the telephone vote and the online vote will be aggregated prior to any announcements.
- Telephone and online votes will open and close as specified above. Votes received outside the specified times or exceeding the maximum set out above will not be counted. Voting times may change.
- Votes are only open to individuals as consumers from the UK, and not to any agencies, businesses and/or companies.
- The 大象传媒 reserves the right to cancel or suspend voting at any time. In the event of any such cancellation or suspension, a technical failure or any other malfunction with the vote, the 大象传媒 reserves the right to arrange for the winner to be decided by a contingency arrangement from the votes cast by a pre-agreed contingency panel. This panel will be the same as one which devised the shortlist (see above for details). The 大象传媒 can only guarantee that votes individually entered directly through the telephone numbers promoted and those registered through the promoted online voting will count.
- The vote is open to all residents of the UK, including the Channel Islands and the Isle of Man. Please note that 大象传媒 or 大象传媒 Group company employees, Temple Interactive Media Limited and Telescope, UK Ltd employees, their close relatives or anyone directly connected in any way with the production of the programme or the provision of fixed line telephony services to the programme are not eligible to vote.
- Each phone vote costs 10p plus your network's access charge. For up to date information it is always advisable to check with your service provider. For online voting, please check your broadband or mobile contract to check the cost of using data services.
- Telephone voters must obtain permission from the bill payer before voting and those under the age of 13 should obtain parent/guardian consent before voting. Make sure you carefully dial only the number of the person you wish to vote for.
- If you are viewing/listening to a programme through 大象传媒 iPlayer or any other time-shifting or on demand service you should check carefully whether the vote is open before doing so as it may have closed. If you call outside of the vote window you vote will not count and you may still be charged.
- Make sure you dial carefully only the number or choose the right online option for the person you wish to vote for.
- The 大象传媒 reserves the right to disqualify votes if it has reasonable grounds to suspect that fraudulent voting has occurred or if it considers there has been any deliberate attempt to manipulate the result. The 大象传媒 can only guarantee that votes individually entered directly through the telephone numbers promoted by the programme will count.
- There are a number of contingencies which could occur. These may include the decision reverting to a back-up panel formed by people from the sports sector, in the event of problems with the phone or online vote or in the event of a tie. The 大象传媒 will decide on contingency plans as it deems necessary and appropriate to the circumstances. Any such use of contingencies will be declared.
- Users who vote online are subject to the 大象传媒's standard , and .
- The 大象传媒, its sub-contractors, subsidiaries and/or agencies cannot accept any responsibility whatsoever for: (i) any technical failure or malfunction or any other problem with any telephone network or line, system, server, provider or otherwise which may result in any vote being lost or not properly registered or recorded; and (ii) any of the nominees withdrawing from the event or refusing to accept the award for any reason.
- The voting is verified by an independent verification service.
- The voting in this programme accords with the 大象传媒's Code of Conduct for Competitions and Voting, details of which can be found on the 大象传媒's Standards and Guidelines website .
- These Terms and Conditions are governed by the laws of England and Wales.
Privacy Policy
Your trust is very important to us. The 大象传媒 is committed to protecting the privacy and security of your personal information.
It is important that you read this notice so that you are aware of how and why we are using such information. This privacy notice describes how we collect and use personal information about you during and after your relationship with us, in accordance with data protection law.
Additional information can be found in the 大象传媒’s . Where there is inconsistency between those documents and this notice, this notice shall prevail.
It’s up to you how you use our services. And you can manage or delete your 大象传媒 account at any time. There’s more info on managing your account here. Because we’re a public service, we will help you make informed decisions about your information, so everyone can get the best out of digital technologies and the 大象传媒. You can find out what we're doing with your information here. You can find out more about cookies here.
What will we collect and how we use it?
The 大象传媒 is the data controller of your information that is collected. This means that the 大象传媒 decides what your personal data is used for, and the ways in which it is processed.
For telephone voting, the personal data is telephone number and voting choice. Harvest Media (UK) Limited is the 大象传媒’s data processor and is contracted to the 大象传媒 to provide the telephony platform. This means Harvest Media (UK) Limited can only use your personal data within the parameters set by the 大象传媒. Harvest Media (UK) Limited will collect your personal data in order to provide a robust and reliable vote result to the 大象传媒 (this will include counting and capping votes as well as checking for irregularities and, if necessary, for the processing of refunds).
For online voting, the personal information that is collected is 大象传媒 account details and voting choice. Telescope, UK Ltd is the 大象传媒’s data processor and is contracted to the 大象传媒 to provide the online voting platform. This means Telescope, UK Ltd can only use your personal data within the parameters set by the 大象传媒. Telescope, UK Ltd will collect your IP address along with other 大象传媒 account information such as 大象传媒 iD, age category and geographic location derived from your IP address in order to provide a robust and reliable vote result to the 大象传媒 (this will include counting and capping votes as well as checking for irregularities).
The lawful basis for processing is the legitimate interests of the 大象传媒 to deliver valid votes to the 大象传媒’s audience – for both those who take part and for those that consume content based on those results. This yields richer and more engaging content for all of our audiences and is not an unreasonable infringement on the rights and freedoms of the individual 大象传媒 audience members.
Retaining your information
The 大象传媒 will retain your personal data for a period of 2 years following collection – for internal and external audit purposes consistent with industry standards, unless a longer retention period is required by law. At that point your personal data will be deleted. For more information about how the 大象传媒 processes your data please see the 大象传媒’s Privacy Policy, available at .
Sharing your information
Your personal data will not be shared with any additional third parties outside of the 大象传媒, Harvest Media (UK) Limited and Telescope, UK Ltd without your prior permission, except as required by law.
Your rights and more information
If you need help with managing your account settings and the information we hold, you can find out how to do this here.
If you have any questions about how the 大象传媒 handles your personal information, or you wish to find out about your rights, please visit the 大象传媒’s . You will also be able to find out more information about how the 大象传媒 processes your information and how you can contact the 大象传媒’s Data Protection Officer.
If you raise a concern with the 大象传媒 about the way it has handled your personal information, you are entitled to lodge a complaint with a supervisory authority. In the UK, the supervisory authority is the Information Commissioner’s Office (ICO), which can be contacted at: .
Telerau ac Amodau
Rydym wedi amlinellu isod y prosesau enwebu, y meini prawf a’r manylion pleidleisio (lle bo hynny’n berthnasol) ar gyfer pob gwobr.
PRIF WOBR - PROSES ENWEBU A’R MEINI PRAWF
Rhoddir y wobr hon i’r seren chwaraeon sydd wedi llwyddo orau i gipio dychymyg y cyhoedd yn 2019.
Bydd panel arbenigol (sef 'y Panel') yn dod ynghyd ym mis Tachwedd 2019 yng Nghaerdydd i lunio rhestr fer o sêr chwaraeon ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.
Bydd tîm cynhyrchu Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru yn cyflwyno rhestr hir o enwau i’r Panel ac yn rhoi gwybodaeth am yr hyn mae pob un wedi’i gyflawni yn y byd chwaraeon. Serch hynny, gall y Panel ystyried ymgeiswyr posibl eraill.
Bydd 5 aelod ar y Panel eleni:
Nigel Walker (Cadeirydd)
Tanni Grey Thompson
Nathan Blake
Carolyn Hitt
Brian Davies
Bydd y Panel hefyd yn:
- Cynnal pleidlais wrth gefn ar gyfer y brif wobr (rhag ofn y ceir problemau pleidleisio ar noson y sioe, er bod hynny’n annhebygol iawn). Bydd y Panel yn dewis rhestr fer o sêr chwaraeon ar gyfer y brif wobr yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
- Maent yn adlewyrchu llwyddiannau Cymru ym myd chwaraeon ar y llwyfan cenedlaethol a/neu'r llwyfan rhyngwladol;
- Maent yn cynrychioli holl hyd a lled chwaraeon yng Nghymru; ac
- Yn ystyried yr 'effaith' sy’n mynd y tu hwnt i’r llwyddiant chwaraeon penodol yn unig.
Mae sêr chwaraeon yn gymwys i ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru os ydynt yn cynrychioli Cymru (neu’n gymwys i gynrychioli Cymru) mewn camp ryngwladol.
Nid yw hyfforddwyr nac aelodau o dimau rheoli sydd ddim yn chwarae yn gymwys.
Bydd y Panel yn ceisio llunio rhestr fer yn seiliedig ar farn consensws. Oni ellir cael consensws ar bob un neu rai o’r ymgeiswyr, yna gofynnir i’r Panel gynnal pleidlais i ddewis yr ymgeiswyr sydd ar ôl. Os yw’r bleidlais hon yn gyfartal, yna penderfyniad y cadeirydd (Nigel Walker) fydd yn mynd â hi.
Caiff y rhestr fer ei chyhoeddi yn ystod 大象传媒 Wales Today ar 大象传媒 One Wales tua diwedd mis Tachwedd a bydd hefyd yn ymddangos ar wefan Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 大象传媒 Cymru.
PRIF WOBR - PLEIDLAIS Y CYHOEDD
Y cyhoedd fydd yn penderfynu ar yr enillydd o blith y rhestr fer o ymgeiswyr drwy gyfrwng pleidlais a gaiff ei chynnal rhwng dydd Llun 2 Rhagfyr a Dydd Sul 8 Rhagfyr 2019 (dyddiadau’n gynwysedig). Caiff y canlyniad ei ddilysu’n annibynnol. Yn y sefyllfaoedd annhebygol canlynol:
- Os bydd y bleidlais gyhoeddus yn gyfartal rhwng y ddau ymgeisydd sydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau, bydd y ddau yn rhannu'r wobr. Felly, ni roddir ail safle a bydd y trydydd safle’n mynd i’r ymgeisydd sydd wedi cael y nifer fwyaf ar ôl y ddau a ddaeth yn gydradd gyntaf.
- Os bydd y bleidlais gyhoeddus yn gyfartal rhwng y tri ymgeisydd sydd â’r nifer mwyaf o bleidleisiau, bydd y tri yn rhannu’r wobr ac ni fydd neb yn dod yn ail ac yn drydydd.
- Os bydd y bleidlais gyhoeddus yn gyfartal rhwng dau ymgeisydd sydd â'r ail nifer mwyaf o bleidleisiau, bydd y ddau yn rhannu'r ail wobr ac ni fydd neb yn dod yn drydydd.
- Os bydd y bleidlais gyhoeddus yn gyfartal rhwng dau ymgeisydd sydd â'r trydydd nifer mwyaf o bleidleisiau, bydd y ddau yn rhannu'r drydedd wobr.
GWOBR CYFLAWNIAD OES
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu rhywun sydd wedi cael effaith sylweddol ar fyd chwaraeon yng Nghymru yn ystod eu bywyd. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y panel beirniaid a nodir uchod. Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno’n fyw yn nigwyddiad Gwobrau Chwaraeon Cymru nos Fawrth 10 Rhagfyr 2019.
GWOBR TÎM Y FLWYDDYN
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu’r tîm y teimlir sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2019. Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan y panel beirniaid a nodir uchod yn unig. Nid oes pleidlais gyhoeddus. Bydd y wobr hon yn cael ei chyflwyno’n fyw yn nigwyddiad Gwobrau Chwaraeon Cymru nos Fawrth 10 Rhagfyr 2019.
TELERAU AC AMODAU CYFFREDINOL Y BLEIDLAIS
- Cynhelir pleidlais o blith y rhestr fer o ymgeiswyr ar gyfer y brif wobr rhwng 0730 dydd Llun 2 Rhagfyr 2019 a 1800 dydd Sul 8 Rhagfyr 2019. Bydd modd pleidleisio dros y ffôn neu ar-lein. Rhoddir y rhif i'w ffonio ar gyfer pob ymgeisydd pan fydd y cyfnod pleidleisio’n agor. Bydd y rhifau ffôn i’w gweld ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a gwefan 大象传媒 Cymru. Bydd modd pleidleisio ar-lein ar wefan 大象传媒 Cymru. Bydd rhaid i'r rheini sydd am bleidleisio ar-lein fewngofnodi i’w cyfrif 大象传媒 ar . Os nad oes gennych chi gyfrif 大象传媒, gallwch gofrestru i gael un am ddim ar . Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth cofrestru neu fewngofnodi, ewch i'r tudalennau cymorth ar . Bydd y bleidlais ar-lein yn agor yr un pryd â’r llinellau ffôn.
- Dim ond dros y ffôn ac ar-lein fyddwch chi’n gallu pleidleisio. Fyddwch chi ddim yn gallu pleidleisio drwy e-bost, ar y Botwm Coch na drwy neges destun. Byddwch chi’n cael hyd at 2 pleidlais fesul Llinell Ffôn (CLI) ac 1 pleidlais ar-lein fesul cyfrif. Bydd canlyniadau’r bleidlais dros y ffôn ac ar-lein yn cael eu cyfuno cyn gwneir unrhyw gyhoeddiad.
- Bydd y llinellau ffôn a’r pleidleisio ar-lein yn agor ac yn cau fel y nodir uchod. Ni chaiff pleidleisiau eu cyfrif os ydynt yn cael eu derbyn y tu hwnt i’r adegau hyn neu os oes rhywrai’n pleidleisio fwy o weithiau na’r nifer a nodwyd uchod. Gall amseroedd y bleidlais newid.
- Dim ond unigolion a defnyddwyr yn y DU sy’n cael pleidleisio. Ni chaiff asiantau, busnesau a/neu gwmnïau bleidleisio.
- Ceidw’r 大象传媒 yr hawl i ganslo neu atal y bleidlais ar unrhyw adeg. Petai’r bleidlais yn cael ei chanslo neu ei hatal, neu os oes nam technegol neu broblem arall gyda’r bleidlais, ceidw’r 大象传媒 yr hawl i drefnu bod yr enillydd yn cael ei ddewis drwy gyfrwng trefniant wrth gefn o’r pleidleisiau a roddwyd gan banel wrth gefn a drefnwyd ymlaen llaw. Y Panel hwn yw’r un a luniodd y rhestr fer (gweld y manylion uchod). Gall y 大象传媒 ddim ond gwarantu mai pleidleisiau sy’n cael eu bwrw’n uniongyrchol drwy'r rhifau ffôn a hysbysebir a’r pleidleisiau sy’n cael eu bwrw drwy'r system bleidleisio ar-lein a hysbysebir fydd yn cael eu cyfrif.
- Gall holl drigolion y DU, yn cynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, bleidleisio. Nodwch nad yw cyflogeion cwmni’r 大象传媒, Gr诺p y 大象传媒, Temple Interactive Media Limited neu Telescope, UK Ltd, eu perthnasau agos neu unrhyw un sy’n uniongyrchol gysylltiedig â gwaith cynhyrchu'r rhaglen, neu sy’n darparu gwasanaethau ffôn llinell sefydlog i'r rhaglen, yn gymwys i bleidleisio.
- Mae pob pleidlais ffôn yn costio 10c a thâl mynediad eich rhwydwaith. I gael y wybodaeth ddiweddaraf, mae’n syniad da i wirio hyn gyda’ch darparwr gwasanaeth. Ar gyfer pleidleisio ar-lein, tarwch olwg ar eich contract band eang neu ffôn symudol i weld pris defnyddio gwasanaethau data.
- Rhaid i bleidleiswyr ffôn gael caniatâd y person sy’n talu’r bil cyn pleidleisio a dylai’r rheini o dan 13 oed gael caniatâd rhiant/gwarcheidwad cyn pleidleisio. Gwnewch yn si诺r eich bod yn deialu’n ofalus a’ch bod yn pleidleisio dros yr un cywir.
- Os ydych chi’n gwylio/gwrando ar raglen ar 大象传媒 iPlayer, neu unrhyw wasanaeth darlledu’n hwyrach neu wasanaeth ar-alw arall, dylech wneud yn si诺r bod y bleidlais yn dal ar agor cyn pleidleisio. Os ydych chi'n ffonio y tu allan i ffenestr y bleidlais ni fydd eich pleidlais yn cyfrif ac mae'n bosib y codir tâl arnoch o hyd.
- Gwnewch yn si诺r eich bod yn deialu ofalus dim ond y rhif neu’n dewis yr opsiwn ar-lein cywir i bleidleisio dros yr ymgeisydd o’ch dewis.
- Ceidw’r 大象传媒 yr hawl i ddiystyru pleidleisiau os oes ganddo sail resymol i amau achosion o bleidleisio twyllodrus neu os yw’n amau bod ymgais fwriadol i geisio ystumio’r canlyniad. Gall y 大象传媒 ddim ond gwarantu mai pleidleisiau sy’n cael eu bwrw’n uniongyrchol drwy'r rhifau ffôn a hysbysebir gan y rhaglen fydd yn cael eu cyfrif.
- Mae nifer o drefniadau wrth gefn ar gael. Gallai’r rhain gynnwys rhoi'r dewis yn nwylo’r Panel wrth gefn o'r sector chwaraeon petai problemau gyda’r bleidlais ar-lein neu dros y ffôn neu os yw’r canlyniad yn gyfartal. Bydd y 大象传媒 yn penderfynu ar y cynlluniau wrth gefn fel y gwêl yn briodol ac yn angenrheidiol yn ôl yr amgylchiadau. Byddwn yn datgan ein bod wedi gweithredu cynlluniau wrth gefn o’r fath.
- Bydd defnyddwyr sy’n pleidleisio ar-lein yn ddarostyngedig i Bolisi Preifatrwydd safonol y 大象传媒 (), Polisi Cwcis () a Thelerau Defnyddio ().
- Ni all y 大象传媒, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am: (i) unrhyw nam technegol neu broblem arall gydag unrhyw rwydwaith neu linell ffôn, system, gweinydd, darparwr neu fel arall a allai olygu i unrhyw bleidlais gael ei cholli neu beidio â chael ei chofrestru neu ei chofnodi’n gywir; a (ii) unrhyw un neu fwy o’r rhai a enwebwyd yn tynnu’n ôl o’r digwyddiad neu’n gwrthod derbyn y wobr am unrhyw reswm.
- Caiff y bleidlais ei dilysu gan wasanaeth dilysu annibynnol.
- Mae’r pleidleisio yn y rhaglen hon yn unol â Chod Ymddygiad y 大象传媒 ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio, a gellir gweld y manylion ar wefan Safonau a Chanllawiau’r 大象传媒 .
- Mae’r Telerau a’r Amodau hyn yn cael eu rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae’ch ymddiriedaeth chi yn bwysig iawn i ni. Mae’r 大象传媒 wedi ymrwymo i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol chi.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad hwn er mwyn i chi wybod sut a pham rydym yn defnyddio gwybodaeth o'r fath. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch chi yn ystod eich perthynas â ni, ac wedi hynny, yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym y 大象传媒.Os bydd anghysondeb rhwng y dogfennau hynny a'r hysbysiad hwn, yr hysbysiad hwn fydd yn drech.
Chi sy'n dewis sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau. Ac fe allwch chi reoli neu ddileu eich cyfrif 大象传媒 unrhyw bryd. Mae rhagor o wybodaeth am reoli eich cyfrif yma. Gan ein bod ni'n wasanaeth cyhoeddus, fe wnawn ni eich helpu i wneud penderfyniadau doeth ynghylch eich gwybodaeth, er mwyn i bawb gael y gorau o dechnolegau digidol ac o’r 大象传媒. Mae’r ddolen ganlynol yn dangos beth rydyn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth. Cewch ragor o wybodaeth am gwcis yma .
Beth y byddwn yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Y 大象传媒 yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth a gesglir amdanoch. Mae hyn yn golygu mai’r 大象传媒 fydd yn penderfynu ar gyfer beth y bydd eich data personol yn cael ei defnyddio, a sut y bydd yn cael ei brosesu.
O ran pleidleisio dros y ffôn, y data personol yw eich rhif ffôn a'ch pleidlais o ddewis. Harvest Media (UK) Limited yw prosesydd data'r 大象传媒 ac mae gan y cwmni gontract â'r 大象传媒 i ddarparu'r llwyfan teleffoni. Mae hyn yn golygu mai dim ond o fewn y paramedrau a osodir gan y 大象传媒 y caiff Harvest Media (UK) Limited ddefnyddio eich data personol. Bydd Harvest Media (UK) Limited yn casglu eich data personol er mwyn darparu canlyniadau pleidleisio cadarn a dibynadwy i'r 大象传媒 (bydd hyn yn cynnwys cyfrif a chapio pleidleisiau ynghyd â chwilio am anghysondebau ac, os bydd angen, prosesu ad-daliadau).
O ran pleidleisio ar-lein, y data personol sy'n cael ei gasglu yw manylion eich cyfrif 大象传媒 a'ch pleidlais o ddewis. Telescope, UK Ltd yw prosesydd data'r 大象传媒 ac mae gan y cwmni gontract â'r 大象传媒 i ddarparu'r llwyfan pleidleisio ar-lein. Mae hyn yn golygu mai dim ond o fewn y paramedrau a osodir gan y 大象传媒 y caiff Telescope, UK Ltd ddefnyddio eich data personol. Bydd Telescope, UK Ltd yn casglu eich cyfeiriad IP ynghyd â gwybodaeth ychwanegol o'ch cyfrif 大象传媒 fel iD 大象传媒, categori oedran a lleoliad yn deillio o'ch cyfeiriad IP. Byddan nhw'n gwneud hyn er mwyn darparu canlyniadau pleidleisio cadarn a dibynadwy i'r 大象传媒 (bydd hyn yn cynnwys cyfrif a chapio pleidleisiau ynghyd â chwilio am anghysondebau).
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data yw buddiannau cyfreithlon y 大象传媒 i ddarparu pleidleisiau dilys i gynulleidfa'r 大象传媒 – gan gynnwys y rhai sy'n cymryd rhan a'r rhai sy'n defnyddio cynnwys wedi'i seilio ar y canlyniadau hyn. Mae hyn yn sicrhau cynnwys mwy cyfoethog a difyr i’n cynulleidfaoedd ac nid yw’n tarfu’n afresymol ar hawliau a rhyddid aelodau unigol o gynulleidfa'r 大象传媒.
Cadw eich gwybodaeth
Bydd y 大象传媒 yn cadw eich data personol am gyfnod o ddwy flynedd ar ôl ei gasglu - at ddibenion archwilio mewnol ac allanol sy'n gyson â safonau'r diwydiant, oni bai bod cyfnod cadw hirach yn ofynnol o dan y gyfraith. Bryd hynny bydd eich data personol yn cael ei ddileu. Am ragor o wybodaeth yngl欧n â sut mae’r 大象传媒 yn prosesu eich data, ewch i weld Polisi Preifatrwydd y 大象传媒 ar .
Rhannu eich gwybodaeth
Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd parti arall y tu allan i'r 大象传媒, Harvest Media (UK) Limited a Telescope, UK Ltd heb eich caniatâd chi ymlaen llaw, oni fydd yn rhaid i ni wneud hynny dan y gyfraith.
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
Os oes angen help arnoch i reoli eich gosodiadau cyfrif a'r wybodaeth sydd gennym amdanoch, gallwch ddysgu sut i wneud hyn yma.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am sut mae'r 大象传媒 yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu os ydych yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, edrychwch ar y 大象传媒. Yno hefyd, cewch ragor o wybodaeth am sut mae’r 大象传媒 yn prosesu’ch gwybodaeth a sut gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r 大象传媒.
Os byddwch yn cyflwyno cwyn i’r 大象传媒 am y ffordd y gwnaeth ddelio â'ch gwybodaeth bersonol, mae gennych hawl i gwyno wrth awdurdod goruchwylio. Yn y DU, yr awdurdod goruchwylio yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â’r Swyddfa yn: .