Main content
Meri Huws
Pennod 5 o 5
Cyfle i ymateb i bynciau'r dydd yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, sgrifennwch - a chofiwch wrando. Reaction to the day's topics from local areas.
A hithau'n hanner can mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi darlith 'Tynged yr Iaith' ar donfeddi'r 大象传媒, mae Radio Cymru wedi comisiynu 5 darlith fer gan uniogolion amlwg i nodi'r achlysur a chynnig sawl gogwydd wahanol ar y Gymraeg yn 2012. Heddiw, cawn glywed gan Meri Huws - Comisiynydd Iaith Cyntaf Cymru.
Darllediad diwethaf
Gwen 17 Chwef 2012
12:03
大象传媒 Radio Cymru
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Dyma'r rhifyn diwethaf
Clipiau
-
Darn o ddarlith Meri Huws
Hyd: 01:04
-
Tynged yr Iaith: 2012 - Darlith Meri Huws
Hyd: 08:24
Darlith Meri Huws
Hwn yw'r tro cyntaf i fi siarad yn gyhoeddus fel darpar Gomisiynydd y Gymraeg. Fe fydda i'n dechrau'n swyddogol yn y r么l mewn saith wythnos - ar Ebrill yr 2il.
Wrth baratoi ar gyfer cymryd cyfrifoldeb a dyletswyddau'r Comisiynydd, mae'r meddwl - yn ddigon naturiol - yn troi i edrych ar y daith sydd wedi'n harwain ni i'r fan hyn.
Mae hon yn daith bersonol, yn daith wleidyddol ac yn daith ieithyddol. Dydw i ddim am ganolbwyntio ar y daith bersonol heddiw - fe ddaw'r cyfle i ddweud gair am hynny rhyw dro eto mae'n siwr - ddim 鈥榤od i'n siwr faint o ddiddordeb fydd yn hynny i unrhywun. Dydw i ddim chwaith am ganolbwyntio ar ddatblygiad yr iaith ei hun - ei gramadeg na'i llenyddiaeth - er mor bwysig a diddorol y'n nhw.
Mi fydda i'n edrych yn hytrach, ac yn arwynebol yn anffodus mewn 10 munud, ar yr iaith a'r ffordd mae hi wedi llwyddo i oroesi, ac yn arbennig felly ar hanes statws yr iaith ar hyd yr oesoedd.
Dwi'n siarad Cymraeg gyda chi heddiw, a dwi'n ei siarad ac yn ei defnyddio ym mhob agwedd ar fy mywyd, a hynny yn erbyn yr holl ffactorau hanesyddol. Dyw hi ddim llai na gwyrth fod y Gymraeg dal yn iaith fyw heddiw pan ych chi'n meddwl am bopeth mae hi wedi bod drwyddo ar hyd y canrifoedd.
Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, y 9fed a'r 10fed ganrif, fe gr毛wyd a defnyddiwyd y cyfreithiau yr ydym yn eu hadnabod fel cyfraith Hywel Dda - cafodd peth ohono ei sgrifennu yn Lladin, ond y mwyafrif o lawer yn Gymraeg. Roedd Cymru, felly, yn un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop y cyfnod yma i gael cyfundrefn gyfreithiol yn ei hiaith gynhenid ei hun. Cymraeg hefyd oedd iaith gwaith y gyfraith.
Ond fe gafodd y statws a'r swyddogaeth yma ei rwygo oddi ar y Gymraeg yn sgil Deddf Uno 1536. Bellach roedd Cymraeg, iaith y gyfraith dan Hywel Dda, wedi cael ei gwahardd o'r llysoedd barn, a doedd dim hawl da unrhyw un i ddal swydd gyhoeddus yng Nghymru heb ei fod yn medru siarad Saesneg.
Er hyn. Er hongian y Welsh Not am yddfau plant a oedd yn mentro siarad Cymraeg yn yr ysgol yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg - a'u curo'n ddidrugaredd am wneud hynny. Er y gostyngiad dramatig yn nifer siaradwyr Cymraeg trwy gydol yr ugeinfed ganrif, am resymau cymhleth yn ymwneud 芒 rhyfeloedd, economi a mudoledd.
Er hyn i gyd, ein braint ni, bedair canrif a thri chwarter ers y Ddeddf Uno, yw cael byw i weld y cam a ddioddefodd yr iaith a'r cam a ddioddefodd ei siaradwyr hi, yn cael ei unioni i ryw raddau, a'r Gymraeg - unwaith eto - yn iaith ag iddi statws swyddogol cyfreithiol yng Nghymru.
Dyw hi ddim yn gyd-ddigwyddiad, nag yn syndod chwaith efallai, mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth Cymru wedi datganoli gyda'i phwerau deddfu newydd oedd deddfu o blaid y Gymraeg. Wrth wneud hyn fe wnaeth Cymru brofi ei bod hi'n genedl sydd o ddifrif ynglyn 芒 gwireddu'r weledigaeth o greu gwlad sy'n gwbl ddwyieithog.
Felly, statws swyddogol... Beth mae hynny'n feddwl? Ai jargon biwrocrataidd, sy'n golygu dim byd yw e mewn gwirionedd?
Na, dydw i ddim yn credu hynny. A gan ein bod ni yr wythnos hon yn talu teyrnged i'w ddarlith radio enwog, gadewch i mi fod mor ddewr a mentro dweud na fyddai Saunders Lewis ddim yn credu hynny chwaith.
Yr sialens, wrth gwrs, a fy sialens bersonol i fel darpar Gomisiynydd y Gymraeg fydd gweithio i sicrhau fod y datganiad cyfreithiol yma ynglyn 芒 statws yn rhywbeth real, a rhywbeth y gall pobl Cymru - o F么n i Fynwy o Benfro i Brestatyn - ei deimlo, ei brofi a'i fyw yn eu bywydau bob dydd.
Mae angen i ni gyd gyfrannu at hyn, ond beth ydw i am wneud?
Fe fydda i'n gosod yr hyn a elwir yn mesur yr iaith Gymraeg yn 鈥榮afonau' ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru er mwyn sicrhau na fyddant yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Wrth greu'r safonau yma, mi fydd cynyddu gwasanaethau Cymraeg a'r cyfleoedd i'w defnyddio ar flaen fy meddwl. Mi fydd lles y Gymraeg ar flaen fy meddwl. Mi fydd lles siaradwyr Cymraeg ar flaen fy meddwl.
Wrth ddefnyddio gwasanaethau fel iechyd a gofal, wrth ddelio gyda'r cyngor sir neu ddarparwyr ynni, fe fydd gan siaradwyr Cymraeg yr un cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ag sydd gan y di-Gymraeg i ddefnyddio'r Saesneg.
Fe fydd y Gymraeg yn cynyddol ddod yn iaith y byd gwaith a bydd mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am weithwyr a gweithlu dwyieithog.
Bydd safonau, wrth gael eu gosod, yn arwain at gysondeb. Mewn blynyddoedd i ddod, ddylen ni ddim synnu ein bod ni'n cael cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg neu'n bod ni'n cael gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg; mae statws cyfreithiol yn golygu ei bod hi'n iawn ein bod ni'n gwneud hyn yng Nghymru.
Ond beth os na fydd sefydliadau yn cydymffurfio 芒'r drefn ac y byddant yn torri'r safonau?
Wedi'r cwbl, mi fu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn monitro gweithrediad cynlluniau iaith am ddeunaw mlynedd. Fel un a fu'n Gadeirydd y Bwrdd am saith mlynedd, rydw i'n gwybod am nifer y cwynion sy'n dod i law ac am natur y cwynion hynny. Rydw i'n gwybod hefyd fod yna rwystredigaeth am nad oedd gan y Bwrdd y pwerau i orfodi cyrff i lynu wrth eu haddewidion at y Gymraeg. Credwch chi fi, nid rhwystredigaeth oedd yn cael ei deimlo gan y cyhoedd yn unig oedd hwn - roedd y rhwystredigaeth yn fyw iawn i ni yn aelodau a swyddogion yn y Bwrdd.
Felly, beth fydd mor wahanol rhwng y Comisiynydd a'r Bwrdd?
Wel, yn syml, mi fydd gan y Comisiynydd bwerau gorfodi.
Fydd dim ofn arna'i bwyso ar sefydliadau i gydymffurfio. Fydd dim ofn arna'i herio neu wthio ffiniau. Fydd dim ofn arna'i ddefnyddio fy mhwerau gorfodi, ac - ie - cosbi hefyd lle bydd angen.
Byddaf yn glyst ac yn llais dros yr iaith Gymraeg, yn eiriol dros siaradwyr Cymraeg. Dyna fy addewid.
Roedd pasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gam sylweddol ymlaen i'r iaith, does dim cwestiwn am hynny. Mae gan dros 550 o sefydliadau cyhoeddus gynlluniau iaith sy'n disgrifio sut maen nhw'n mynd ati i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Roedd Deddf 1993 hefyd yn creu Bwrdd yr Iaith Gymraeg - corff a oedd yn bodoli i un pwrpas yn unig, sef i hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.
Does gen i ddim amheuaeth y byddai Cymru yn lle gwahanol iawn pe tasai Llywodraeth San Steffan ar y pryd heb basio'r darn yma o ddeddfwriaeth. Ac esblygiad naturiol o Ddeddf 1993 yw Mesur yr Iaith Gymraeg 2011, sydd yn rhoi statws cyfreithiol ac yn creu Comisiynydd y Gymraeg. Deddfwriaeth o blaid y Gymraeg, gyda'r stamp 鈥榞wnaethpwyd yng Nghymru' arno fe!
Wrth baratoi ar gyfer dechrau ar y dasg fawr yma sydd o fy mlaen, fy ngweledigaeth i yw Cymru lle mae'r Gymraeg yn gwbl ganolog mewn bywyd cyhoeddus, lle mae gan siaradwyr Cymraeg yr hyder i ddefnyddio'r iaith, a trystio yn y gyfraith i unioni unrhyw gam a ddaw i'w rhan am ddefnyddio'r Gymraeg.
Rwy'n gwerthfawrogi'r cyfle unigryw hwn i fynd 芒'r Gymraeg ymlaen i gyfnod newydd ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn i agor pennod gyffrous arall yn ei hanes.

Darllediad
- Gwen 17 Chwef 2012 12:03大象传媒 Radio Cymru