17/03/2014 - TrawsCymru; y cyfoeth a'r tlawd a cham i bobl llaw chwith?
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Rhys Owen.
Rhys Owen sy'n holi sut wasanaeth bysiau sydd ganddom ni? Mae gwasanaeth TrawsCymru dan y lach mewn adroddiad sydd wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Mae'r teithiau yn rhy ara-deg, ac mae yna watraffu mawr ar amser wrth i'r bysus fynd yn ddiangen i sdadau tai lle nad oes yna fyth bobl i'w codi.
Hefyd rydym yn trafod y gwahaniaeth arurthol sydd yna rhwng y cyfoethog a'r tlawd. 'Nol elusen Oxfam, mae gan bump o deuluoedd cyfoethoca Prydain fwy o bres yn y banc na sydd gan 20% mwya' tlawd o'r boblogaeth gyda'u gilydd.
A be' ydy'r farn am sylwadau Aelod Seneddol, sy'n dweud bod angen rhoi hyfforddiant i athrawon i allu delio a disgyblion llaw chwith? Mae'r plant rheiny yn cael cam mewn byd sydd, gan fwyaf, yn un llaw-dde meddai Syr Peter Luff. Ond ydy nhw yn cael cam mewn gwirionedd? Fyse hi ddim gallach i fynd yn ol i'r hen drefn, a gorfodi POB plentyn i sgrifennu efo'r llaw dde?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediad
- Llun 17 Maw 2014 13:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru