06/05/2014 Stadau tai newydd; a chynulleidfaoedd Eisteddfodau Lleol
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Garry Owen.
Mae gwraig o Sir G芒r sy'n poeni bod y st芒d tai lle mae hi'n byw heb ei orffen...Mae'r tai wedi eu hadeiladu, ond dyw'r palmentydd ddim wedi eu gwneud na choed a llwyni wedi eu plannu.
Mae 'na bryder am gynulleidfaoedd Eisteddfodau Cymru. Faint o bobl sy'n gwrando ar y cystadlu? Faint o effaith gaiff hyn ar y cystadleuwyr ac a oes angen gwneud mwy i annog cynulleidfa?
Ac mae'n bosib y bydd darlledwyr yn cael eu gorfodi i wneud yn siwr bod plant ddim yn gweld golygfeydd sy'n cynnwys rhyw a thrais anaddas neu iaith anweddus ar deledu. Mae llawer o bobl yn poeni bod y canllawiau fel y maen nhw - sy'n dweud y dylai rhaglenni o'r fath gael eu dangos ar 么l 9 y nos - ddim yn gweithio. A beth am wylio'r rhaglenni ar gyfrifiaduron ac ati?
Cysylltwch gyda Taro'r Post ar 03703 500 500, Ebost: tarorpost@bbc.co.uk ar neges destun 67 500 neu trydar @bbcradiocymru #Tarorpost
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Maw 6 Mai 2014 13:00大象传媒 Radio Cymru