Awst 11 2014 Uwchgynhadledd Nato, ail agor rheilffordd ac Ysgol Tregaron
Y straeon difyr yn fyw o'ch cymuned chi. Ffoniwch, e-bostiwch, neu sgrifennwch. A chance to react to the day's topics with Alun Thomas.
Yr hyn fydd ar y rhaglen amser cinio gydag Alun Thomas fydd effaith uwch gynhadledd Nato yng Nghasnewydd fis Medi ar ysgolion y de ddwyrain. Mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns, yn holi pam fod yr uwchgynhadledd yn cael effaith ar gau ysgolion yn gynnar yn ei etholaeth.
Galw hefyd am ail agor y rheilffordd rhwng Caernarfon a Bangor. Cyn bennaeth trafnidiaeth Cyngor Conwy yn dweud y byddai hyn yn rhatach na chodi ffordd osgoi newydd. Oes angen ail agor y rheilffordd neu efallai bod eisiau ffordd osgoi newydd yn ogyst芒l a'r tr锚n?
Ac ar Faes yr Eisteddfod yn Sir G芒r yr wythnos diwethaf, un o gyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron yn galw am i'r ysgol newydd yno, ysgol i ddisgyblion 3-16 oed gael ei defnyddio fel pont rhwng yr ysgol 芒'r gymuned er mwyn adfywio bywyd cymdiethasol a ieithyddol y pentrefi lleol.
Taro'r Post rhwng 1 a 2 ddydd Llun gydag Alun Thomas. Cysylltwch tarorpost@bbc.co.uk ; 03703500500 ar y ff么n; neges destun 67500; ar Twitter @bbcradiocymru #tarorpost
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Llun 11 Awst 2014 13:00大象传媒 Radio Cymru