Tudur Owen a Nigel Owens
Nia Roberts gyda dau sydd â rhywbeth yn gyffredin, heddiw Tudur Owen a Nigel Owens. Chat show with two guests with something in common, today Tudur Owen and Nigel Owens.
Rhifyn arbennig o gyfres boblogaidd Nia Roberts gyda dau westai sydd â rhywbeth yn gyffredin, mewn man sy'n berthnasol i'r ddau. Heddiw’r digrifwr Tudur Owen a’r dyfarnwr Nigel Owens, dau sydd a’u traed ar y tir, ac yn gyfarwydd iawn â’r lleoliad – maes Sioe Amaethyddol Cymru.
Byddwn yn edrych yn ôl ar 2014 ac ymlaen at 2015 gyda dau sydd wedi mwynhau clamp o flwyddyn. Yn ôl y gwybodusion mae Nigel wedi dyfarnu rhai o gemau gorau’r flwyddyn, Tudur yn sicr wedi mentro i dir newydd a chyhoeddi ei nofel gyntaf.
Cawn gyfle I fynd ar ôl y pethau arwyddocaol yn eu bywydau a chrafu dan yr wyneb, gan glywed gan ffrindiau a pherthnasau sydd wedi bod yn rhan o’r daith – taith sydd wedi cyrraedd y brig trwy droedio llwybrau digon anghonfensiynol.
Dau fentrus, dau ddigrifwr a dau sy’n gyfarwydd â phobol yn eu heclio.
Yn syml iawn, dau y mae’n fraint cael bod yn eu cwmni
Darllediad diwethaf
Dau fentrus, dau ddigrifwr a dau sy'n gyfarwydd â phobol yn eu heclio!
Darllediad
- Dydd Calan 2015 11:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru