Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Coed y Plas

Iolo Williams yn crwydro nifer o gynefinoedd gwyllt Cymru. Iolo Williams in the Welsh wilderness!

Yn ystod mis Ionawr 2014, rhwygodd storm fawr o wynt trwy warchodfa goed Plas Tan y Bwlch yn nyffryn Maentwrog, Gwynedd.

Dyma'r gwyntoedd cryfaf i daro'r dyffryn ers rhai blynyddoedd, llawer cryfach nac yn y rhan fwyaf o Gymru.

Lloriwyd nifer o goed anferthol, rhai yn ganrifoedd oed. Ac wrth i'r coed mawr gwympo, codwyd 'platiau' pridd mawr o lawr y goedwig gydau'r gwreiddiau. Roedd y wasg yn llawn penawdau yn son am 'ddifrod' a 'cholled' ac yn y blaen. Ond pan aeth Iolo a rhai o griw Galwad Cynnar yno yn fuan wedyn yng nghwmni Twm Elias, fu'n aelod o staff y Plas am bron i ddeugain mlynedd, y cwestiwn ar feddwl pawb oedd a'i 'difrod' neu 'newid' yw hyn mewn gwirionedd?

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 7 Ion 2015 12:31

Darllediadau

  • Sad 3 Ion 2015 07:00
  • Mer 7 Ion 2015 12:31