Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cwm Idwal

Iolo Williams yn crwydro nifer o gynefinoedd gwyllt Cymru. Iolo Williams in the Welsh wilderness!

Sefydlwyd gwarchodfa Cwm Idwal ym 1954. Dyma Warchodfa Natur Cenedlaethol cyntaf Cymru, ond mae hanes y cwm yn ymestyn filoedd o flynyddoedd yn 么l, wrth gwrs, i'r cyfnod pan naddwyd siap y tirwedd gan rewlifoedd mawr.

Mae y cwm wedi bod yn atynfa i ddaearegwyr a botanegwyr fri ers canrifoedd, ac mae'n dal i fod yn 'ddarlithfa awyr agored' i fyfyrwyr daeareg.

Un myfyriwr ddaeth i'r cwm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Charles Darwin. Ac ymhlith y botanegwyr a naturiaethwyr eraill o fri , Evan Roberts (Capel Curig), Dewi Jones (Penygroes), a hirgoes gymwynaswr Galwad Cynnar, Hywel Roberts.

Mae cynnal gwarchodfa sydd yn atynfa i filoedd ar filoedd o bobl yntrwy gydol y flwyddyn yn sialens arbennig i'r bardneriaeth sydd yn ei rheoli. Ynghyd a'r heddwas Dewi Rhys Evans o Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, roeddem yn ffodus iawn o gael cwmni cyn-warden y cwm, Hywel Roberts, a'r warden presennol, Guto Roberts.

1 awr

Darllediad diwethaf

Mer 28 Ion 2015 12:31

Darllediadau

  • Sad 24 Ion 2015 07:00
  • Mer 28 Ion 2015 12:31