Y Gelyn Gwyn?
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt. An investigative look at topics in the news in Wales and beyond.
Pa mor beryglus ydi gwylanod i bobl a phlant wrth iddyn nhw chwilio am damaid i'w fwyta mewn trefi glan môr ar draws Cymru?
Mae Manylu yn siarad â gwraig o Fôn wnaeth ddiodde' ymosodiad gwaedlyd.
Ar ben chwilota am fwyd mae gwylanod yn creu llanast. Yn Ninbych y Pysgod mae na gynllun arbrofol i geisio rheoli'r broblem yn well – bydd Manylu yn clywed gan berchennog tafarn o’r dre, Julie Jones.
Mi glywn ni am yr hebog tramor sy'n cael ei ddefnyddio gan Geraint Williams o Dalsarnau i atal y gwylanod rhag nythu ar doau adeiladau yng Ngwynedd.
Ond mae na rybudd gan gymdeithas adar yr RSPB fod rhai mathau o wylan dan fygythiad wrth i'w niferoedd ostwng. Mae un wraig oedrannus yn disgrifio ei gwaith yn achub cywion gwylanod yng nghanol dinas Bangor.
Felly faint o gyfrifoldeb sydd arno ni i warchod y gelyn gwyn?
Anna Marie Robinson sy’n holi pam fod gwylanod yn felltith i bobl a threfi glan môr, yn arbennig a ninnau yng nghanol y tymor nythu a dodwy.
Darllediad diwethaf
Clip
Darllediadau
- Iau 18 Meh 2015 12:31´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 21 Meh 2015 14:00´óÏó´«Ã½ Radio Cymru
Podlediad Manylu
Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.
Podlediad
-
Manylu
Golwg ymchwiliadol ar bynciau llosg yng Nghymru a thu hwnt.