Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ´óÏó´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gadael y dosbarth

Targedau parhaus, gwaith papur, marcio bob nos - ydi athrawon yn gadael y proffesiwn dan ormod o straen gwaith? Are teachers leaving the profession due to work pressure?

Ydi athrawon yn gadael y proffesiwn dan ormod o straen gwaith?
Targedau parhaus, gwaith papur, marcio bob nos a disgwyliadau tu hwnt i bob rheswm – dyna ydi realiti swydd addysg heddiw meddai nifer wrth Manylu.
Mae’r rhaglen yn clywed gan athrawes sydd newydd adael byd addysg i ddechrau swydd mewn maes gwbwl wahanol er mwyn iddi fedru treulio rhagor o amser efo’i theulu. Dywed athrawes sy’n gweithio yn y gogledd bod yr holl ofynion arni hi a’i chydweithwyr yn fwrn, ac mae prifathrawes tair ysgol yn y gorllewin yn trafod ei phryder am effaith yr holl ddyletswyddau ar iechyd ei staff.
Mae dau ddyddiadur gwaith wedi cael eu cadw i’r rhaglen hefyd – un gan athrawes sy’n dysgu ym Mhowys, a’r llall gan gyn-athrawes sydd wedi gadael addysg ers yr haf a nawr yn rhedeg siop fwyd. Pa mor wahanol yw eu hwythnos gwaith nhw?
Ac mae undeb athrawon a gwleidydd yn dweud bod yn rhaid mynd i’r afael â’r broblem cyn i addysg plant ddechrau dioddef.

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 22 Tach 2015 13:30

Darllediadau

  • Iau 19 Tach 2015 12:32
  • Sul 22 Tach 2015 13:30

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad