Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cwyn am ofal iechyd meddwl ar 么l marwolaeth mam

Ymchwiliad i honiad fod gadael yr ysbyty'n gynnar wedi arwain at hunanladdiad claf. Manylu investigates a claim that early discharge from hospital led to a patient's suicide.

Ymchwiliad i honiad fod gadael yr ysbyty'n gynnar wedi arwain at hunanladdiad claf.
Mae鈥檙 rhaglen yn canolbwyntio ar stori Ffion Jones a oedd yn bymtheg oed pan ddechreuodd ei mham, Petra Jones o Fae Trearddur ar Ynys M么n, ddioddef problemau iechyd meddwl. Roedd hynny ddeng mlynedd yn 么l, a'i mham yn ei thridegau hwyr.
Yn siarad am y tro cyntaf ar Manylu, mae Ffion Jones yn dweud ei bod yn ystyried y gofal y cafodd ei mham gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y blynyddoedd yn israddol.
Mae hi r诺an wedi gwneud cwyn wedi i'w mham ladd ei hun oriau'n unig ar 么l iddi gael ei rhyddhau o uned iechyd meddwl, er bod ei theulu wedi rhybuddio'r gweithwyr iechyd am ei bwriad.
Meddai Ffion Jones: "Dwi'n gwybod ddaw hyn ddim 芒 Mam yn 么l, ond 'da ni'n gwybod hefyd bod o wedi digwydd i lot o deuluoedd eraill - yr un sefyllfaoedd. Felly 'da ni wedi gwneud cwyn fel bod o ddim yn digwydd eto yn y dyfodol, ac i gael 'chydig mwy o gymorth i'r teuluoedd - pan maen nhw'n d'eud be' mae un o'r teulu wedi dweud, i gymryd o 'chydig bach yn fwy difrifol."
Ond mae Manylu hefyd wedi siarad 芒 phobl eraill sy'n feirniadol o'r gofal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Jane Marks o Mancot ger Glannau Dyfrdwy sy鈥檔 s么n am farwolaeth ei mab, Christopher Jones, ym mis Mehefin 2015. Mae hi鈥檔 feirniadol o鈥檙 gofal y cafodd o, ac yn dweud bod diffyg gwelyau mewn adrannau iechyd meddwl yn y gogledd yn broblem.
Ym mis Ebrill 2016, fe ddiflannodd Michael Bryn Jones o Landudno ar 么l iddo fynd i Hergest i ofyn am help ganol nos. Mae ei frawd, Mark Walker, yn dweud wrth y rhaglen bod yn rhaid gwella gofal iechyd meddwl.
Yn 么l llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Oherwydd cyfrinachedd cleifion, nid ydym yn gallu trafod manylion gofal cleifion unigol. Er hynny, rydym yn cymryd adborth gan gleifion a'u teuluoedd o ddifrif, ac yn gwerthfawrogi eu mewnbwn i'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu cynnal a'u rheoli.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael eu hailstrwythuro'n radical, yn cynnwys recriwtio'r Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu newydd.
"Rydym yn canolbwyntio'n llawn ar wella'r ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu darparu ar draws gogledd Cymru."

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 16 Hyd 2016 16:00

Darllediadau

  • Iau 13 Hyd 2016 12:30
  • Sul 16 Hyd 2016 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad