Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Gwasg Gomer, Rhan 1

Rhaglen gyntaf Gari'n edrych ar hanes Gwasg Gomer, un o weisg hynaf Cymru. The first of two programmes in which Gari learns about Gomer Press.

Mae adeilad presennol Gwasg Gomer ar gyrion Llandysul yn gyfarwydd i nifer ohonom, ond fe symudodd y busnes yno yn 2004 ar 么l 112 o flynyddoedd o hanes. Does ryfedd, felly, fod Gari Wyn wedi neilltuo dwy raglen i gael yr hanes yn llawn.

Cariad oes J.D. Lewis tuag at lyfrau a darllen a'i ysbrydolodd i brynu ei beiriant argraffu cyntaf yn Aberhonddu yn 1892, ac yn y rhaglen hon mae Gari'n cyfarfod 芒'r bedwaredd genhedlaeth o deulu J.D. Lewis i ddod yn gyfrifol am y busnes.

Aeth Jonathan Lewis i'r Coleg Argraffu yn Llundain a chael profiad gydag argraffwr blaenllaw yn y ddinas. Mae bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasg Gomer.

Mae pethau wedi newid, does dim dwywaith am hynny, wrth i John Lewis - tad Jonathan - s么n wrth Gari am argraffu 5,000 o gop茂au o nofel gyntaf Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman. Dim ond breuddwyd ydi'r ffigwr hwnnw yn 2016.

Yn ymuno 芒 Gari hefyd i drafod sialensiau'r dyfodol mae Meirion Davies, Rheolwr Brand a Chomisiynu Gwasg Gomer, sy'n dweud mai cynnwys da sy'n dal dychymyg y darllenydd ydi'r allwedd o hyd mewn oes fodern - cynnwys fel Cysgod y Cryman, fel mae'n digwydd, wrth i fersiwn newydd gael ei pharatoi ar gyfer cynulleidfa newydd.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 31 Hyd 2016 12:00

Darllediad

  • Llun 31 Hyd 2016 12:00

Podlediad Rhaglen Gari Wyn

Gari Wyn a'i olwg unigryw ar fyd busnes, mentergarwch a Chymreictod.

Podlediad