Si芒n Phillips a Stifyn Parri
Nia Roberts gyda dau westai sydd a rhywbeth yn gyffredin mewn man sy'n berthnasol i'r ddau. Two guests with something in common.
Cartref BAFTA yn Piccadilly, Llundain, ydi'r lleoliad ar gyfer y sgwrs hon rhwng Nia Roberts a dau ffrind agos. Yno y daeth Si芒n Phillips a Stifyn Parri wyneb yn wyneb am y tro cyntaf, a hynny er mwyn cydgyflwyno noson wobrwyo gyntaf erioed BAFTA Cymru. Roedd y gynulleidfa'n feddw, yn taflu pethau at y ddau oherwydd eu bod yn siarad Saesneg, ac roedd Stifyn yn argyhoeddedig fod ei gydgyflwynydd yn cymryd cyffuriau! Doedd hi ddim, wrth gwrs, a buan iawn wedi'r gamddealltwriaeth honno y daeth y ddau yn ffrindiau da.
Yn ogystal 芒 thrafod eu cyfeillgarwch, mae 'na gyfle i glywed am eu profiadau unigol yn symud i Lundain. Mae Si芒n yn egluro fel yr oedd mynd o'r gorllewin i Gaerdydd cyn hynny'n anoddach o lawer iddi, a Stifyn yn s么n am fod ag ofn trenau tanddaearol.
Mae Stifyn hefyd yn rhannu profiadau fel colli ei dad yn 16 oed, a chwarae rhan dyn hoyw yn Brookside. Fe arweiniodd hynny ato'n dweud wrth ei fam ei fod o ei hun yn hoyw, a'r newyddion mawr i Si芒n yn ystod y sgwrs hon ydi ei fod bellach wedi dywedd茂o.
Mae Si芒n, ar y llaw arall, yn hapus iawn yn byw ar ei phen ei hun. Ar 么l bod yn briod deirgwaith, mae'n fodlon ers blynyddoedd lawer ar gwmni ei ffrindiau niferus.
Er bod y ddau yn cael trafferth dweud beth yn union sy'n cynnal eu perthynas, yn enwedig o ystyried nad ydyn nhw'n siarad am fisoedd weithiau, mae'n gwbl amlwg eu bod wrth eu bodd yng nghwmni ei gilydd. Mae Nia hefyd yn cael modd i fyw.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 27 Tach 2016 19:05大象传媒 Radio Cymru
- Maw 29 Tach 2016 12:00大象传媒 Radio Cymru
- Iau 27 Ebr 2017 18:00大象传媒 Radio Cymru
- Maw 20 Tach 2018 12:00大象传媒 Radio Cymru & 大象传媒 Radio Cymru 2