Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cofio Gethin Abraham-Williams

Hanes taith gerdded Cymorth Cristnogol, Ffoi i'r Aifft, a chofio Gethin Abraham-Williams. Details of Christian Aid's Escape to Egypt walk, and a tribute to Gethin Abraham-Williams.

Mae Aled Edwards yn rhoi teyrnged i'r diweddar Barchedig Gethin Abraham-Williams, ysgrifennydd cyffredinol Cyt没n rhwng 1998 a 2006, ac yn trafod sut a pham roedd Gethin yn hybu eciwmeniaeth. Mae llais Gethin i'w glywed hefyd, mewn cyfweliad gyda Bwrw Golwg yn 2015, yn esbonio pam fod ansicrwydd a chwestiynu iddo fe yn rhan allweddol o ffydd.

Anna Jane Evans sy'n ymuno 芒 John Roberts ar ddechrau taith gerdded Cymorth Cristnogol, Ffoi i'r Aifft. Mae'n mynd o Fethlehem yn Sir Gaerfyrddin i'r Aifft yn Sir Ddinbych, a hynny i dynnu sylw at sefyllfa'r 65 miliwn o ffoaduriaid sydd yn ein byd heddiw.

Am y bumed flwyddyn yn olynol, mae Eglwys Ysbyty Cynfyn ym Mhonterwyd yn cynnal g诺yl adeg y Nadolig i ddangos i bobl fod yr eglwys yn dal yn berthnasol i'r gymuned. Angylion yw'r thema eleni, ac mae John yn cael cwmni Delyth Morris Jones ac Elaine Lewis i glywed rhagor.

Hefyd, Esgob Gregory Cameron a Manon Ceridwen James o Esgobaeth Llanelwy sy'n trafod pam fod esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi comisiynu All One in Christ, sef ffilm sy'n trafod agweddau o fewn yr eglwys tuag at bobl hoyw. Mae'n cael ei dangos yng Nghadeirlan Llanelwy ar y 6ed o Ragfyr.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 4 Rhag 2016 08:00

Darllediad

  • Sul 4 Rhag 2016 08:00

Podlediad