Arwyn Davies a Margaret Williams
Nia Roberts yng nghwmni Arwyn Davies a Margaret Williams. Perfformiodd Margaret droeon gyda thad Arwyn, y diweddar Ryan. Nia Roberts chats to Arwyn Davies and Margaret Williams.
Mae 'na gysylltiad amlwg rhwng y ddau sy'n gwmni i Nia Roberts yn y rhaglen hon. Fe gydberfformiodd y naill gyda Ryan Davies ar sawl achlysur, ac roedden nhw'n ffrindiau agos hefyd. Ei fab yw y llall, a oedd ond yn 9 oed pan gollodd ei dad ei fywyd yn greulon o ifanc. Ond rheswm arall dros ddod 芒 Margaret Williams ac Arwyn Davies at ei gilydd mewn bwyty ger Croes Cwrlwys ydi'r ffaith eu bod yn byw ar yr un stad dai flynyddoedd lawer yn 么l.
Mae'r atgofion yn llifo, a hynny am gyfnod hapus iawn pan oedd y ddau deulu'n rhan o griw agos. Roedd Arwyn bob amser ar ei feic, yn 么l Margaret, ac yn mynd 芒 chi Labrador y teulu gydag o i bobman.
Gyda'r sgwrs wedi'i recordio ychydig cyn y Nadolig, mae'n rhaid holi am g芒n enwog Ryan. Cafodd y sengl, Nadolig? Pwy a 糯yr!, ei rhyddhau yn 1971. Mae'n dal yn cael ei chwarae'n gyson hyd heddiw, er nad oedd Margaret na sawl un arall yn disgwyl hynny ar y pryd. Roedd hi'n un o'r bobl gyntaf i glywed y g芒n, ac roedd ymhell o fod wedi gwirioni arni oherwydd ei bod mor wahanol i'r carolau traddodiadol. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'n credu mai dyna un rheswm pam ei bod hi mor boblogaidd.
Oherwydd talent aruthrol ei dad, roedd gwneud enw iddo'i hun yn dalcen caled i Arwyn. Roedd pobl yn cymharu byth a beunydd, ond mae yntau wedi llwyddo fel actor hefyd. Mae Mark Jones, ei gymeriad yn Pobol y Cwm, wedi bod yn rhan o'r gyfres ers dros 20 mlynedd. Mae'n cydnabod ei fod yn medru dyheu weithiau am wneud rhywbeth arall, ond mae cyfansoddi eisoes fel swydd arall iddo.
Yn sicr, mae cerddoriaeth yn rhan bwysig iawn o fywyd Margaret hefyd. Athrawes oedd hi, ond gadawodd fyd addysg a symud i dde Cymru er mwyn ymgymryd 芒 gyrfa fel perfformwraig.
Dyma raglen yn llawn atgofion braf, gydag un o ganeuon mwyaf poblogaidd y Nadolig yn ei chloi.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Dydd Nadolig 2016 19:05大象传媒 Radio Cymru
- Maw 27 Rhag 2016 12:00大象传媒 Radio Cymru
- Noswyl Nadolig 2017 19:05大象传媒 Radio Cymru
- Sul 23 Rhag 2018 19:05大象传媒 Radio Cymru 2 & 大象传媒 Radio Cymru