Dathlu'r Deugain
Ar ddiwrnod pen-blwydd Radio Cymru'n 40 oed, mae Gwyn Llewelyn yn un o westeion Aled. Broadcaster Gwyn Llewelyn is one of Aled's guests on Radio Cymru's 40th birthday.
Ar ddiwrnod pen-blwydd Radio Cymru'n 40 oed, mae Gwyn Llewelyn yn ymuno ag Aled i hel atgofion am ddyddiau cynnar yr orsaf. Nid yn unig hynny, ond mae hefyd yn darllen y bwletinau newyddion diweddaraf ar y 3ydd o Ionawr 2017.
Roedd Gwyn a Hywel Gwynfryn ymysg y lleisiau cyntaf i gael eu clywed ar y 3ydd o Ionawr 1977, ac mae Hywel yn dal yn un o gyflwynwyr rheolaidd yr orsaf hyd heddiw. Mae'n s么n wrth Aled am rai o gymeriadau Helo Bobol!, ei raglen ddyddiol bryd hynny, a'r amrywiol raglenni eraill yn ystod ei yrfa.
Un o raglenni Hywel oedd ei bartneriaeth gyda Dei Tomos, sydd hefyd yn y stiwdio am sgwrs. Ond y 1af o Ionawr 1977 ydi'r dyddiad pwysig i Dei, nid y 3ydd.
Mae'r dyddiad hwnnw'n golygu llawer i Richard Rees hefyd. Mae'n cofio'n glir iawn eistedd tu allan i adeilad y 大象传媒 yn cael cathod bach cyn y darllediad cyntaf, ond mae'n dal yn un o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd Radio Cymru ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.
Un sy'n parhau i gefnogi'r gwasanaeth yn 2017 ydi'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sy'n s么n wrth Aled am wneud anerchiad fel Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 1977. Fe gyfeiriodd bryd hynny at bwysigrwydd yr orsaf, ac mae'n dadlau ei bod hi'r un mor bwysig heddiw.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Hergest
Plas Y Bryniau
- Ffrindiau Bore Oes.
- Sain.
-
Adran D
Deio'r Glyn
- Deio'r Glyn.
-
Huw Chiswell
Tatws
- Rhywun Yn Gadael.
- Sain.
-
Yws Gwynedd
Pan Ddaw Yfory
- Y Teimlad.
-
Tebot Piws
Mae Rhywun Wedi Dwyn Fy Nhrwyn
- Y Gore a'r Gwaetha - Tebot Piws.
- Sain.
-
Brigyn
Gadael Bordeaux
- Gadael Tupelo.
-
Ac Eraill
Llais Y Fro
- Diwedd Y Gan.
- Sain.
Darllediad
- Maw 3 Ion 2017 08:30大象传媒 Radio Cymru