Ystyr y Nadolig
John Roberts a'i westeion yn trafod ystyr y Nadolig. John Roberts and guests discuss various aspects of Christmas.
John Roberts a'i westeion yn trafod sawl agwedd ar y Nadolig a'i neges.
Mae Rhiannon Ifans yn dewis ei hoff garolau, yn gymysgedd o'r traddodiadol a'r cyfoes, wrth i blant Ysgol Pencae adrodd hanes y geni.
Ac yntau'n fardd y mis Radio Cymru, mae Alan Llwyd wedi cyfansoddi cerdd ar gyfer y rhaglen. Ynddi, mae'n gofyn beth yw ystyr y Nadolig yn ein byd bregus presennol.
Mae John yn clywed am Nadoligau y tu hwnt i Gymru gan Marion L枚ffler sy'n hel atgofion am ei phlentyndod yn Nwyrain yr Almaen, a Debora Morgante sy'n s么n am yr 诺yl yn Rhufain.
Ac mae Peter Dewi Richards yn rhoi neges Nadolig i wrandawyr Bwrw Golwg, ar ran Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru.
Darllediad diwethaf
Clip
-
Bethlehem
Hyd: 04:02
Darllediad
- Dydd Nadolig 2016 08:00大象传媒 Radio Cymru
Podlediad
-
Bwrw Golwg
Trafodaeth wythnosol ar faterion moesol a chrefyddol.