Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dathlu'r Deugain

Detholiad o draciau wedi'u chwarae gan Huw dros y blynyddoedd, a mix gan Dei Tomos. Huw marks Radio Cymru's 40th birthday with tunes from his shows, and Dei Tomos is in the mix.

Yn wahanol i Radio Cymru, doedd Huw ddim wedi'i eni yn 1977. Daeth yn un o gyflwynwyr yr orsaf bron i chwarter canrif yn ddiweddarach, felly traciau o'r blynyddoedd diwethaf sydd i'w clywed yn y rhaglen hon yn bennaf. O MC Mabon i Anelog, mae Huw yn mynd 芒 ni ar daith gerddorol yn cynnwys sawl trac sydd ddim wedi'u chwarae ar Radio Cymru ers talwm iawn.
Yn goron ar y cwbl, mae mix gwaith cartref gan Dei Tomos. Roedd Dei i'w glywed ar Radio Cymru ar y 1af o Ionawr 1977, ddeuddydd cyn y cychwyniad swyddogol ar fore Llun y 3ydd, ac mae wedi cadw rhestr o'r caneuon a gafodd eu chwarae ganddo ar y bore Sadwrn hwnnw.
Dim ond ar yr orsaf hon y clywch chi leisiau Azealia Banks a Dei Tomos o fewn yr un rhaglen, felly pen-blwydd hapus Radio Cymru!

3 awr

Darllediad diwethaf

Iau 5 Ion 2017 19:00

Darllediad

  • Iau 5 Ion 2017 19:00