Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llygru Llyn Padarn?

Ymchwiliad i bryderon y gallai datblygiad amgylcheddol lygru Llyn Padarn yn Eryri. An investigation into concerns that an environmental project could contaminate Llyn Padarn.

Mae ymgyrchwyr yn Eryri yn rhybuddio y gallai Llyn Padarn gael ei niweidio oherwydd hanes milwrol y safle.

Mae cwmni Snowdonia Pumped Hydro yn bwriadu adeiladu cynllun ynni hydro yng Nglyn Rhonwy, hen chwarel ger Llanberis. Byddai'n rhaid cael gwared 芒 d诺r, a'i roi yn Llyn Padarn. Ond roedd y chwarel yn storfa bomiau ac ysgol ffrwydron yn ystod y rhyfel, ac yn ddiweddarach yn lle i storio a dinistrio arfau.

Mae gr诺p Pryderu am Glyn Rhonwy wedi ymchwilio, ac wedi canfod tystiolaeth o nwy mwstard yn y gorffennol. Mae nhw'n galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i orffen clirio a diogelu'r safle, ac yn honni y gallai'r gwaith glanhau fod yn ormod i gwmni preifat.

Fe gomisiynodd y datblygwyr adroddiad i hanes milwrol y safle. Maen nhw wedi cydnabod o'r cychwyn bod arfau nerfol o'r Almaen wedi bod yng Nglyn Rhonwy, ond dim ond dros dro.

Erbyn hyn, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod bomiau nwy mwstard wedi'u darganfod yno yn y 70au.

Mae Snowdonia Pumped Hydro yn dweud y gwnawn nhw gyflogi cwmni profiadol gyda staff arbenigol, os ydyn nhw'n dod ar draws unrhyw beth peryglus. Mae'r awdurdodau'n hapus 芒 hyn, a'r cwmni - nid y trethdalwr - a fyddai'n talu. Maen nhw hefyd yn dweud bod samplau d诺r yn dangos nad oes llygredd yn y llyn.

Cyngor Gwynedd sy'n berchen ar y safle, ac maen nhw'n dweud eu bod yn ymwybodol o'r hanes, ond bod y risg yn isel.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Yn dilyn archwiliad trylwyr ym mis Tachwedd 1975, cafodd safle chwareli Llanberis ei asesu'n glir o arfau. Fe wnaeth astudiaeth mwy diweddar o holl safleoedd yr MoD ym Mhrydain, a allai fod wedi storio nwy mwstad, ddod i'r casgliad nad oedd angen rhagor o waith adfer yn hen safle RAF Llanberis.".

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 26 Chwef 2017 16:00

Darllediadau

  • Iau 23 Chwef 2017 12:30
  • Sul 26 Chwef 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad