Main content
Mae鈥檔 ddrwg gennym 鈥榙yw鈥檙 bennod yma ddim ar gael ar 大象传媒 iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cymry Ifanc Trawsryweddol

Golwg ar frwydrau pobl ifanc sy'n teimlo eu bod wedi'u caethiwo mewn cyrff o'r rhyw anghywir. A look at the struggles of young transgender people in Wales.

Hanner canrif 'n么l roedd bod yn drawsryweddol - neu'n 'transgender' - yn un o'r tab诺s mawr. Heddiw, yn 么l grwpiau ymgyrchu, mae cynifer 芒 thrideg pum mil o bobl yng Nghymru yn ystyried eu hunain yn drawsryweddol. O'r rheiny, mae'n debyg fod tua chwe mil o bobl yn derbyn, neu wedi cael, rhyw fath o driniaeth rhywedd - neu 'gender treatment'. Ac mae rhyw ugain y cant am gael llawdriniaeth rhywedd - 'gender affirmation surgery'.

Ymhlith rheiny mae un disgybl ysgol o Aberystwyth. Cafodd Ll欧r Jones, sy'n 16 oed, ei geni'n fachgen, ond mae'n dweud ei bod hi wastad wedi teimlo mai merch yw hi. Mae'r disgybl Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Penglais, Aberystwyth, wedi dewis cadw ei henw geni.

Ar Manylu, mae'n siarad yn onest am ei theimladau, a'r heriau sy'n ei wynebu hi a'i theulu. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda'u rhieni. Mae ei thad, Huw, ffarmwr sydd wedi ennill llu o wobrau am ddangos gwartheg duon Cymreig, yn trafod ei ymateb cyntaf pan glywodd e' bod ei blentyn yn drawsryweddol, a'n siarad o'r galon am ei deimladau.

Ar hyn o bryd mae pobl ifanc trawsryweddol o Gymru'n gorfod teithio i Lundain ar gyfer apwyntiadau meddygol yng Nghlinig Tavistock - yr unig ganolfan arbenigol o dan y gwasanaeth iechyd ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed. Gyda chynnydd yn nifer y Cymry ifanc sy'n dweud eu bod nhw'n drawsryweddol, mae'r teulu'n galw am well darpariaeth a chymorth meddygol ar eu cyfer yng Nghymru.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 12 Maw 2017 16:00

Darllediadau

  • Iau 9 Maw 2017 12:30
  • Sul 12 Maw 2017 16:00

Podlediad Manylu

Lawrlwythwch podlediad Manylu i wrando ar bynciau llosg yng Nghymru a tu hwnt.

Podlediad