Episode 1
Cyfres gyda Myfanwy Alexander yn taflu goleuni ar y ffydd Gatholig, enwad eithaf anghyfarwydd i Gymry Cymraeg. Myfanwy Alexander sheds light on the Catholic Church in Wales.
Cafodd Myfanwy Alexander ei magu'n Gatholig gan ei mham, ac mae hithau yn ei thro wedi magu ei merched yn yr Hen Ffydd.
Yn y gyfres fer hon, mae Myfanwy yn ein tywys ar bereindod bersonol o gwmpas y ffydd Gatholig yng Nghymru, gan sgwrsio gyda nifer o unigolion ar draws y wlad sy'n mynychu'r Eglwys Gatholig. Cafodd rhai eu magu yn Babyddion, wrth i eraill ddewis gadael capeli anghydffurfiol Cymreig wedi ystyraieth ddwys.
Sut brofiad yw bod yn Gatholig yn y Gymru gyfoes? A oes lle i'r Hen Ffydd mewn byd modern, seciwlar? A ydy'r Eglwys yn geidwadol neu yn radical? A beth am y dyfodol? Wrth i'r Cymry encilio rhag crefydda, mae pobl o bedwar ban byd yn heidio i eglwysi y dinasoedd a'r Gorllewin.
Yn ei ffordd unigryw ei hun, mae Myfanwy yn taflu goleuni ar enwad sydd yn eithaf anghyfarwydd i ni Gymry Cymraeg.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Llun 3 Ebr 2017 12:30大象传媒 Radio Cymru
- Sul 4 Meh 2017 16:00大象传媒 Radio Cymru